Mae gyda ni staff arbenigol sy'n rhoi cymorth i unigolion i wneud newidiadau cadarnhaol; boed hynny ar ffurf bod yn fwy heini, manteisio ar gyfleoedd hyfforddi neu weithgareddau, ennill cymwysterau, gwirfoddoli a dod o hyd i swydd.
Sut?
Mae ein Mentoriaid yn gweithio gydag unigolion ar adegau sy'n gyfleus i'r unigolyn. Yn ystod y sesiynau, bydd ein mentoriaid yn gofyn i'r unigolyn osod nodau bach, y mae modd eu cyflawni ar hyd y ffordd. O ganlyniad i hyn, mae pobl fel arfer mewn sefyllfa well erbyn diwedd y rhaglen.
Ble?
Ar-lein neu mewn lleoliad lleol sy'n gyfleus i chi.
Os ydych chi'n derbyn cymorth gan ein mentoriaid mae modd ichi gael mynediad i:
- Hamdden am Oes - mynediad i’r gampfa a sesiynau hyfforddi personol yng Nghanolfannau Hamdden RhCT.
- Mae modd i'n Cronfa Rhwystr fod o gymorth wrth fynd i’r afael â chostau trafnidiaeth i fynychu hyfforddiant, cyfweliadau neu gyflogaeth, offer er mwyn bodloni gofynion cynnig swydd amodol, cerdyn adnabod gyda llun ohonoch chi er mwyn agor cyfrif banc a dillad er mwyn cwblhau lleoliad gwaith neu fynd i gyfweliad.
Mae modd gwneud atgyfeiriadau i'r gwasanaeth yma:
- Ffurflen Atgyfeirio ar gyfer Partneriaid
- Am Ffurflen Hunan-atgyfeirio, e-bostiwch CAW@rctcbc.gov.uk. Nodwch eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a'r math o wybodaeth a chymorth yr hoffech chi eu derbyn.
Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn darparu Cymorth Mentora.