Skip to main content

Recriwtio, Swyddi Gwag a Hyfforddiant sy'n berthnasol i Sector Benodol

Mae ein Swyddogion Cyswllt Cymunedau am Waith a Mwy ar gael i gefnogi busnesau lleol gyda nifer o wasanaethau AM DDIM. Mae'r gwasanaethau yma'n cynnwys
  • Recriwtio - cymorth megis mynd trwy ceisiadau, sgrinio cyn-asesiad a threfnu cyfweliadau i ymgeiswyr
  • Cyngor a chymorth cyflwyno cais ar gyfer busnesau sydd â diddordeb mewn rhaglenni cyflogaeth
  • Marchnata ar y cyfryngau cymdeithsol a gan ddefnyddio’n rhwydweithiau mewnol ac allanol
  • Gwiriadau cyflogaeth - cynnal gwiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac asesiadau llythrennedd/rhifedd
  • Hyfforddiant am ddim - hyfforddiant sy'n berthnasol i sector benodol neu drwyddedu mae modd eu teilwra er mwyn bodloni anghenion eich busnes, megis hyfforddiant cyn-cyflogaeth neu Llwybrau at Gyflogaeth

Hyfforddiant sy'n berthnasol i sector benodol

  • Diogelwch Trac Personol
  • Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu
  • Cadw warws
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Gofal (Cartref / Preswyl)
  • SIA (Diogelwch/Stiwardio)
  • Canolfannau Galwadau / Gwaith Gweinyddol
  • Cludiant (Gyrru Bws)
  • Peirianneg Sifil a Pheiriannau (e.e. Lori Ddadlwytho)
  • Manwerthu
  • Mynediad am ddim i'n gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, hyfforddiant/mentora un wrth un er mwyn helpu eich gweithwyr sydd mewn perygl o golli ei swydd neu wella’r gallu i weithio.
  • Cymorth wrth drefnu lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mae modd i'n Clybiau Gwaith Cymunedau am Waith ddarparu cymorth â ffurflenni cais a llunio CV

Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r pwyntiau uchod e-bostiwch CymorthiGyflogwyr@rctcbc.gov.uk.

Y Ganolfan Byd Gwaith

Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith ystod o wasanaethau recriwtio i'ch helpu chi fel cyflogwr;

Mae hefyd modd ichi hysbysebu swydd gyda'r gwasanaeth ’Dod o hyd i Swydd’ (Paru Swyddi Ar-lein gynt)