Swyddi Preswyl

Mae pob swydd yn y gwasanaeth preswyl yn gofyn am lefelau sylweddol o sgil, cymhelliant, ymrwymiad a brwdfrydedd i wella profiadau bywyd y bobl ifainc sy'n defnyddio'r gwasanaeth a'u teuluoedd. Dysgwch ragor am y swyddi isod:

Ymarferydd Gofal Plant Preswyl                                                                                 

Mae gan Ymarferwyr Gofal Plant Preswyl gyfrifoldeb am ddarparu gofal proffesiynol ystyrlon a diogel i bob plentyn sy'n byw yn y cartref. Mae hyn yn ymwneud â rheoliadau, safonau, polisi a chodau ymddygiad proffesiynol yr awdurdod lleol. Mae Ymarferwyr Gofal Plant Preswyl yn darparu modelau rôl cadarnhaol sydd â gofal a lles wrth wraidd eu hymarfer, ac mae bod yn ddibynadwy, yn gyson, yn gefnogol ac ymgysylltu yn eu perthynas â chydweithwyr a phlant yn arbennig o bwysig. Maen nhw'n gweithio fel aelod o garfan staff i ddiwallu anghenion y plant. 

Mae'r swydd hefyd yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol o lawer o wasanaethau a sefydliadau i sicrhau bod gofal a chymorth yn bersonol i ddiwallu anghenion unigol. Mae llawer o'r gwaith yn cynnwys cefnogi unigolion i weithio trwy eu profiadau gan weithio tuag at wella a meithrin cydnerthedd, a hynny er mwyn cyflawni nodau personol. Mae angen i Ymarferwyr Gofal Plant Preswyl weithio'n hyblyg i gwrdd â gofynion newidiol y plant a'r cartref, gan gynnwys sifftiau yn ystod y dydd, prynhawniau, nosweithiau achlysurol, penwythnosau a gwyliau banc. Mae disgwyliadau hefyd o ran dyletswyddau cysgu yn y lleoliad.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant llawn a'r gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni'r rôl. Bydd y rheiny sydd ddim yn meddu ar gymhwyster perthnasol yn derbyn cefnogaeth i gyflawni Diploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) o fewn 2 flynedd o'u penodi.

Gradd 7 – £26,845

Uwch Ymarferydd Gofal Plant Preswyl

Fel aelod o garfan rheoli’r cartref mae’r Uwch Ymarferydd yn hyblyg wrth gynorthwyo Rheolwr y Cartref i sicrhau bod gofal ystyrlon a diogel yn cael ei ddarparu i’r holl blant sy’n byw yn y cartref yn unol â rheoliadau RISCA, polisi, safonau a chod ymddygiad proffesiynol yr awdurdod lleol. Mae Uwch Ymarferwyr yn arwain ac yn gweithio ochr yn ochr â'r garfan staff, sy'n gyfrifol am gefnogi plant a phobl ifainc a all fod ag amrywiaeth o anghenion cymhleth yn ymwneud â phrofiadau bywyd, ymlyniad, trawma a/neu anabledd. Mae'r Uwch Ymarferwyr yn sicrhau bod yr holl staff yn meithrin perthynas gref, ymrwymedig a chefnogol gyda'r plant, trwy ddarparu cymorth o ddydd i ddydd i'r garfan a goruchwyliaeth ffurfiol.

Gyda chefnogaeth rheolwr profiadol, mae Uwch Ymarferwyr yn gweithio gyda chydweithwyr o ystod o feysydd gwasanaeth a sefydliadau i ddarparu a chynnal amgylchedd byw a dysgu diogel sy'n hyrwyddo twf iach, datblygiad, diogelwch a lles y plant.

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar Gymhwyster Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3, neu gymhwyster rhagflaenol, NVQ Lefel 3 Plant a Phobl Ifainc.

Gradd 9 – £32,020

Rheolwr y cartref

Mae'r Rheolwr Preswyl yn gyfrifol am bob agwedd ar reoli'r cartref ac am sicrhau bod gofal ystyrlon a diogel yn cael ei ddarparu i bob plentyn. Fel arweinydd carfan o Uwch Ymarferwyr Gofal Plant Preswyl ac Ymarferwyr Gofal Plant Preswyl, mae Rheolwyr yn gyfrifol am sicrhau bod safonau uchel o ofal proffesiynol yn cael eu hyrwyddo a’u cynnal a bod y cartref yn cael ei redeg yn unol â rheoliadau, deddfwriaeth gysylltiedig, a’r cod ymddygiad proffesiynol. Caiff rheolwyr eu cefnogi gan Reolwr Gwasanaeth profiadol a Phennaeth Gwasanaeth.

Mae gan reolwyr oruchwyliaeth gyffredinol o'r holl faterion sy'n ymwneud â'r cartref ac mae'n ofynnol iddyn nhw asesu risg a chydweddu'r rheiny sy'n symud i mewn i'r cartref. Mae Rheolwyr Cartref yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal darpariaeth gwasanaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, sy'n gallu ymateb i ddiwallu anghenion y plant a sicrhau bod y garfan yn cael ei chefnogi i reoli gofynion y swydd. Mae Rheolwyr y Cartref yn gweithio gyda chydweithwyr o ystod o feysydd gwasanaeth a sefydliadau i ddarparu a chynnal amgylchedd byw a dysgu diogel sy'n hyrwyddo twf iach, datblygiad, diogelwch a lles y plant.

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar gymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli (Plant a Phobl Ifainc Preswyl).  Mae'n rhaid hefyd bod gyda chi brofiad sylweddol mewn gofal plant preswyl, gydag o leiaf 5 mlynedd o brofiad - rhaid bod 2 o'r rhain wedi bod ar lefel oruchwyliol.

Gradd 12 – £41,496

Tudalennau yn yr Adran Hon

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol.

Cysylltwch â ni 

Bwriwch olwg ar y swyddi preswyl gwag diweddaraf

Swyddi Gwag