Rydyn ni’n cynnig nifer o raglenni cymorth cyflogaeth sydd wedi'u hariannu gan grantiau ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf. Mae’r rhain yncynnig cymorth a chyngor i holl drigolion y Fwrdeistref Sirol sy'n hŷn nag 16 oed ac sy'n ceisio cyflogaeth, hyfforddiant neu gyfleoedd gwirfoddoli. Mae hefyd modd derbyn cymorth i ddatblygu eich sgiliau os ydych chi eisoes mewn cyflogaeth.