Bydd y Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn darparu gwasanaeth "Archebu a Chasglu" yn unig. Bydd modd archebu llyfrau a'u casglu o'r llyfrgelloedd canlynol:
- Llyfrgell Pontypridd (Llys Cadwyn)
- Llyfrgell Treorci
- Llyfrgell Aberdâr
- Canolfan Pennar (Llyfrygell Aberpennar)
- Llyfrgell y Porth
- Llyfrygell Rhydfelen
- Llyfrygell Hirwaun
- Llyfrygell Glynrhedynog
- Llyfrygell Pont-y-Clun
- Llyfrygell Pentre'r Eglwys
- Llyfrygell Abercynon
- Llyfrygell Llantrisant
- Llyfrygell Tonypandy
Bydd modd i ddarllenwyr brwd o bob cwr o'r Fwrdeistref Sirol ddewis hyd at 5 llyfr i'w cadw, naill ai drwy lenwi ffurflen ar-lein neu drwy ffonio un o'n llyfrgelloedd.
Ar-lein:
Cymrwch gip ar ein Catalog Ar-lein a nodi Teitl ac Awdur y llyfrau yr hoffech chi eu benthyg. Gallwch hefyd ofyn i'r llyfrgellydd ddewis llyfrau ar eich rhan yn seiliedig ar eich diddordebau a'r mathau o lyfrau rydych chi'n eu mwynhau.
Wedyn, gallwch chi eu harchebu gan ddefnyddio'r ffurflen 'Archebu a Chasglu':
Ffoniwch y llyfrgell i archebu llyfrau:
Cymrwch gip ar ein Catalog Ar-lein a nodi Teitl ac Awdur y llyfrau yr hoffech chi eu benthyg. Gallwch hefyd ofyn i'r llyfrgellydd ddewis llyfrau ar eich rhan yn seiliedig ar eich diddordebau a'r mathau o lyfrau rydych chi'n eu mwynhau.
Gallwch archebu llyfrau drwy ffonio un o'r llyfrgelloedd canlynol:
- Llyfrgell Pontypridd (Llys Cadwyn) - 01443 562211
- Llyfrgell Treorci - 01443 773204
- Llyfrgell Aberdâr – 01685 880050
- Canolfan Pennar- 01443 570016
- Llyfrgell y Porth -01443 562227
- Llyfrygell Rhydfelen- 01443 570009
- Llyfrygell Hirwaun- 01685 811144
- Llyfrygell Glynrhedynog- 01443 570021
- Llyfrygell Pont-y-Clun- 01443 237843
Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin am Archebu a Chasglu
Ymholiadau i'r Gwasanaeth Hanes
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor hefyd yn bwriadu ailafael yn rhywfaint o'r gwasanaethau hanes lleol, gan dderbyn ymholiadau ar ffurf negeseuon e-bost neu dros y ffôn. Er mwyn cysylltu â'r gwasanaeth, ffoniwch 01443 778956 neu e-bostio Llyfrgell.Gyfeirio@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Canllawiau COVID-19:
Caiff yr hoff archebion eu paratoi gan staff y Cyngor, a chaiff yr holl lyfrau eu rhoi mewn cwarantin am 72 cyn iddyn nhw gael eu trosglwyddo i'r cyhoedd. Bydd modd benthyca'r llyfrau am dair wythnos yn ôl yr arfer, a bydd angen eu dychwelyd i'r safle lle gwnaethoch chi eu casglu nhw.