Sut mae archebu a chasglu yn gweithio?
- Mewngofnodwch ac ewch i'n catalog ar-lein. Yma, mae modd i chi fewngofnodi i'ch cyfrif a chadw neu glicio ar y logo Archebu a Chasglu a chwblhau'r ffurflen archebu.
- Os oes yn well gyda chi, mae modd i chi ein ffonio ni ar un o'r rhifau hyn i wneud eich dewis.
Llyfrgell Aberdâr: 01685 880050
Llyfrgell Pontypridd: 01443 562211
Llyfrgell Treorci: 01443 733204
Canolfan Pennar- 01443 570016
Llyfrgell y Porth - 01443 562227
Llyfrgell Rhydfelen- 01443 570009
Llyfrgell Hirwaun - 01685 811144
Llyfrgell Glynrhedynog -01443 570021
Llyfrgell Pont-y-Clun -01443 237843
Llyfrgell Pentre'r Eglwys -01443 570088
Llyfrgell Abercynon - 01443 741926
Llyfrgell Llantrisant -01443 237842
Llyfrgell Tonypandy - 01443 432251
- Byddwn ni'n eich ffonio i roi gwybod i chi fod eich llyfrau'n barod a threfnu dyddiad ac amser i'w casglu.
- I ddychwelyd eich llyfrau, rhowch nhw yn y bocs dychwelyd a fydd y tu allan i lyfrgelloedd Aberdâr, Pontypridd (Llys Cadwyn) a Threorci. Mae modd gwneud hyn unrhyw adeg yn ystod oriau agor y llyfrgell neu wrth i chi ddod i gasglu'ch deunydd nesaf.
- Cofiwch mai dim ond trwy'r broses yma y mae Archebu a Chasglu ar gael. Peidiwch ag ymweld â'r llyfrgell oni bai bod ein staff wedi cysylltu â chi i gasglu eitem neu os ydych chi'n dymuno defnyddio'r bocs dychwelyd – ni chaniateir i chi fynd i mewn i'r llyfrgell oni bai bod gyda chi apwyntiad.
A yw hyn yn ddiogel?
Mae'r rhaglen Archebu a Chasglu yn cydymffurfio â chyfarwyddebau iechyd a diogelwch cyfredol.
Sut mae benthyg llyfrau?
Bydd eich llyfrau eisoes wedi'u benthyg i'ch cyfrif a byddan nhw'n barod i'w casglu. Gofynnwn i chi ddod â'ch bag eich hun, ond bydd modd i ni ddarparu bag y mae modd ei ailddefnyddio ar gais.
O ble ydw i'n casglu fy llyfrau?
Pan fyddwn ni'n cysylltu â chi i roi gwybod i chi fod eich llyfrau'n barod i'w casglu, byddwch chi'n derbyn dyddiad ac amser penodedig i'w casglu. Yn syml, ewch i fynedfa'r llyfrgell rydych chi wedi'i dewis i gasglu'ch llyfrau ar yr amser a'r dyddiad sy'n cael eu rhoi. Bydd aelod o staff yn eich tywys trwy'r broses.
Am ba mor hir gallaf i gadw'r llyfrau?
Bydd llyfrau'n cael eu benthyg am y cyfnod benthyciad arferol o dair wythnos.
A oes modd i fi adnewyddu eitemau?
Mae modd adnewyddu eitemau yn ôl yr arfer, trwy wefan gwasanaethau llyfrgell neu dros y ffôn (i lyfrgelloedd Aberdâr, Pontypridd neu Dreorci). Dyma atgoffa cwsmeriaid na fyddwch chi'n cael adnewyddu unrhyw eitemau sy'n destun cais gan ddarllenydd arall.
A gaf i ofyn am lyfr penodol?
Cewch, bydd y gwasanaeth yma'n parhau yn ôl yr arfer. Bydd ceisiadau am eitemau o lyfrgelloedd sydd wedi cau neu am lyfrau nad ydyn nhw mewn stoc ar hyn o bryd yn cymryd mwy o amser na'r arfer i fod ar gael gan y bydd angen cadw llyfrau mewn cwarantîn cyn eu rhoi ar fenthyg i bobl. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar gyda ni yn ystod y cyfnod yma.
A oes terfyn ar nifer y llyfrau mae modd i fi eu benthyg?
Oes. Yn ystod y cyfnod yma, dim ond pum eitem cewch chi eu benthyg ar y tro. Byddwn ni'n ailgyflwyno'r cyfyngiad benthyg llawn o ddeg eitem cyn gynted â phosibl.
Ydw i'n cael dod i ddychwelyd fy llyfrau, heb gasglu rhai newydd?
Ydych. Bydd 'Bocs Dychwelyd' mawr y tu allan i'n llyfrgelloedd sydd ar agor. Mae modd i chi ddychwelyd unrhyw eitemau drwy eu rhoi yn y biniau yma. Fydd dim modd i chi fynd i mewn i'r llyfrgell ar hyn o bryd oni bai bod gyda chi apwyntiad. Rydyn ni hefyd yn gofyn i chi beidio â mynd ag eitemau o'r Bocs Dychwelyd.
A fydd pob llyfrgell yn cynnig y gwasanaeth yma?
I ddechrau, dim ond yn llyfrgelloedd Aberdâr, Pontypridd a Threorci y bydd y gwasanaeth Archebu a Chasglu ar gael. Y gobaith yw ymhen amser y bydd rhagor o lyfrgelloedd yn cael eu hychwanegu at y gwasanaeth yma.
Beth os oes gyda fi ffioedd heb eu talu?
Fydd dim ffioedd na thaliadau wedi cronni ar gyfrifon cwsmeriaid yn ystod y cyfnod y mae'r llyfrgelloedd ar gau nac o 1 Mawrth 2020. Bydd unrhyw ffioedd neu daliadau wedi'u cronni cyn y cyfnod yma'n cael eu gweithredu unwaith y bydd y gwasanaeth arferol yn ailddechrau.
Oes modd i aelod(au) arall o'm teulu wneud apwyntiad i gasglu llyfrau?
Mae modd i aelodau unigol o'r llyfrgell wneud apwyntiad i gasglu llyfrau, felly caiff pob aelod o gartref archebu slot casglu. Pan ddewch i'r llyfrgell i gasglu eitemau, gofynnwn i gyn lleied â phosibl o bobl ddod ar yr un pryd. Yn ddelfrydol, dim ond un person fydd yn dod i mewn i'r llyfrgell ar y tro ond rydyn ni'n deall efallai bydd amgylchiadau personol yn golygu bod angen i chi ddod gydag un neu ragor o aelodau eraill y teulu.
A oes modd i fi ddefnyddio unrhyw un o'r cyfleusterau eraill y mae'r llyfrgell yn eu cynnig?
Nac oes, ddim ar hyn o bryd. Wrth i gyfyngiadau lacio, gobeithiwn ailgyflwyno gwasanaethau eraill gam wrth gam. Bydd gwasanaeth e-bost a ffôn a gwasanaeth adnoddau cyfeirio a hanes lleol cyfyngedig ar gael:
E-bost: Llyfrgell.Gyfeirio@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 778956
A fydd angen i fi giwio?
Bydd cwsmeriaid yn cael amser penodol i gasglu eitemau ond mae'n bosibl y bydd angen i chi giwio y tu allan i'r llyfrgell am gyfnod byr os byddwch chi'n cyrraedd yn gynnar. Gofynnwn i chi gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol a pharchu staff y llyfrgell os bydd angen iddyn nhw ofyn i chi gymryd eich lle mewn ciw.
Beth ddylwn i ei wneud os bydda i'n colli fy amser casglu?
Os byddwch chi'n colli'ch amser casglu, fydd dim modd i staff y llyfrgell eich gwasanaethu. Bydd angen i chi drefnu amser casglu newydd. Er mwyn cadw at bellter cymdeithasol ac i gadw staff ac aelodau'r llyfrgell yn ddiogel, bydd angen i ni gadw at yr amserlen wedi'i chynllunio ymlaen llaw. Os ydych chi wedi colli'ch slot, siaradwch ag aelod o staff ar ddyletswydd, gan gadw pellter cymdeithasol, a bydd modd iddo/iddi eich cynghori.
A fydda modd imi gasglu bagiau ailgylchu?
Bydd bagiau ailgylchu ar gael y tu allan i lyfrgelloedd Aberdâr, Pontypridd a Threorci yn ystod oriau agor. Fe'ch cyfyngir i ddau becyn o bob math o fagiau unigol a rhaid i chi gadw pellter cymdeithasol wrth gasglu'r bagiau yma. Sylwch nad yw'r gwasanaeth llyfrgell yn rheoli cyflenwad yr eitemau yma a dim ond tra y byddan nhw ar gael y bydd modd i chi eu casglu.
Mae'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd a'i staff yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod anodd yma. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich gweld ac yn gobeithio gallu adfer gwasanaethau'r llyfrgell i'n holl ddefnyddwyr wrth i gyfyngiadau'r llywodraeth gael eu codi.