Gyda datganiad ‘Argyfwng Hinsawdd’ gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn glir bod rhaid iddo chwarae ei ran wrth gymryd camau brys i liniaru'r risgiau sydd ynghlwm â'r Newid yn yr Hinsawdd.
Mae'r Cyngor wedi cydnabod y newidiadau sylfaenol sydd eu hangen i'r ffordd rydyn ni i gyd yn byw ein bywydau. O'r herwydd, mae wedi ymrwymo i ddod yn Awdurdod Lleol Sero-net erbyn 2030. Datblygu rhwydwaith gwefru Cerbydau Trydan ar draws Rhondda Cynon Taf i hwyluso'r cynnydd mewn perchnogaeth cerbydau trydan yw un o'r newidiadau niferus y mae'r Cyngor wedi ymrwymo iddyn nhw.
Mae gan y Cyngor ran bwysig i'w chwarae wrth hwyluso'r cynnydd mewn perchnogaeth cerbydau trydan, gan gynnwys creu amgylchedd polisi cefnogol, trwy annog gosod cyfleusterau gwefru newydd ar gyfer cerbydau trydan, a hyrwyddo eu buddion i gynulleidfa ehangach.
Mae’r Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan yn nodi ein syniadau ar sut y byddwn ni'n helpu i ddarparu seilwaith gwefru cerbydau trydan ar draws y Fwrdeistref Sirol dros y 10 mlynedd nesaf.
Gwefru ar y Stryd i Breswylwyr
Ar hyn o bryd, does dim modd i Awdurdod Priffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gefnogi gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan preifat ar y briffordd gyhoeddus, na gerllaw na throstyn nhw. Er budd diogelwch ar y briffordd ac mewn perthynas â chynnal a chadw yn y dyfodol, does dim modd i'r Awdurdod Priffyrdd ganiatáu llusgo ceblau, hyd yn oed gyda defnyddio troshaen neu grid cilfachog ar draws priffordd gyhoeddus neu lwybr troed, neu sianelu ceblau o dan y llwybr troed. Mae hyn oherwydd materion atebolrwydd cyhoeddus, gan gynnwys y risg o beryglon baglu a materion diogelwch trydanol mwy cymhleth ar y pwynt defnydd. Er gwaethaf hyn, mae’r Cyngor wedi sicrhau cyllid i osod Mannau Gwefru Cerbydau Trydan mewn nifer o fannau parcio cyhoeddus ar draws y Fwrdeistref Sirol, yn agos at ardaloedd preswyl, ar ôl gweithio’n agos gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ar raglen ranbarthol o bwyntiau gwefru.
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – Darpariaeth Wefru Gyhoeddus
Wrth weithio mewn partneriaeth ag Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae’r Cyngor yn falch o gadarnhau y bydd Connected Kerb Ltd yn dechrau gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus mewn 31 o feysydd parcio ar draws Rhondda Cynon Taf, yn rhan o waith ehangach ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ardal sy’n croesi 10 awdurdod lleol.
Mae gwaith darparu mannau gwefru cerbydau trydan eisoes wedi dechrau yn y safleoedd sydd wedi'u nodi. Bydd cymysgedd o bwyntiau gwefru cyflym 7kw a 22kw. Bydd pob un o'r pwyntiau gwefru cerbydau trydan newydd yn y 31 safle oll wedi'u gosod cyn diwedd y flwyddyn.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith gosod, lleoliadau'r safleoedd wedi'u cadarnhau a sawl man gwefru fydd yn cael eu gosod, bwriwch olwg ar ein gwefan. Tudalen ymgyrchoedd gwefru cerbydau trydan.
Am ragor o wybodaeth a chwestiynau cyffredin yn ymwneud â gweithredu'r mannau gwefru cerbydau trydan yn y meysydd parcio, ewch i: Connected Kerb - Cwestiynau Cyffredin
Gweld y dogfennau canlynol sy'n ymwneud â'r Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan;
Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan.
Cysylltwch â ni trwy e-bostio: GwefruCerbydauTrydan@rctcbc.gov.uk