Skip to main content

Cynllun Lliniaru Llifogydd Bronallt Terrace Lane

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT), ac yntau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, yn dechrau cynllun lliniaru llifogydd a fydd yn dechrau adeiladu ym mis Mawrth yn y caeau uwchben Bronallt Terrace. Bydd y cynllun arfaethedig yn rhan o gynllun rheoli dalgylch Uwch sy'n bwriadu lliniaru risg llifogydd i dua 36 o dai preswyl, 3 busnes a nifer o briffyrdd.

Mae'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yn gweithredu yn unol ag amcan y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol er mwyn lleihau'r goblygiadau sy'n gysylltiedig â llifogydd. Cafodd y strategaeth ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2013 yn unol ag Adran 10 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae amcan y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn cydfynd â'r 5 amcan cenedlaethol sydd wedi'u nodi yn y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ac Erydu Arfordirol.

Bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei gynnal yn Abercwmboi o fewn Ward Etholiadol De Aberaman. Caiff yr ardal hon ei nodi yn 4edd o ran risg o fewn Cynllun Rheoli Peryglon o Lifogydd RhCT. Mae’r gwaith arfaethedig yn dod o fewn Cymuned Abercwmboi, fel y nodwyd gan y gofrestr cymunedau mewn perygl (CaRR), a chaiff yr ardal hon ei nodi ar safle 27 yng Nghymru ar gyfer perygl llifogydd dŵr wyneb.

Disgrifiad o’r Gwaith

Mae ardal Abercwmboi wedi bod yn destun sawl digwyddiad o lifogydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Y digwyddiad mwyaf arwyddocaol oedd llifogydd ar 15 ac 16 Chwefror 2020 yn dilyn Storm Dennis, lle aeth dŵr i mewn i 28 eiddo gyda 32 eiddo arall yn dioddef llifogydd allanol. Y digwyddiad o lifogydd yma oedd yr 2ail digwyddiad yn dilyn Storm Bronagh a Callum a ddigwyddodd yn ystod 2018 a nododd yr un lefel o lifogydd mewnol.

Mae RhCT wedi ymateb i'r llifogydd yma trwy gynnig gwneud gwaith gwella draenio tir i hwyluso gwlypdir gwanhau o fewn dalgych uchaf, a gynlluniwyd i leihau’r llifoedd brig tuag at y cwlfert bresennol ynghyd â darparu basn rheoli malurion i leihau potensial malurion sy’n rhwystro strwythur cwlfert i lawr yr afon, sydd mewn ardal y mae risg uchel o lifogydd.

Bydd y gwaith arfaethedig cychwynnol yma'n anelu at ddarparu Safon Amddiffyn Q100 + 40% ar newid yn yr hinsawdd i gymuned Abercwmboi.

Yn rhan o'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol y Cyngor, byddwn ni'n ymdrechu i fodloni'r amcanion canlynol.

1

Lleihau'r boblogaeth sy'n cael ei heffeithio gan beryglon o lifogydd.

2

Lleihau aflonyddwch o fewn y gymuned drwy leihau nifer yr adeiladau preswyl a masnachol sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd.

3

Lleihau peryg bywyd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd dwfn a chyflym.

4

Lleihau aflonyddwch i'r seilwaith critigol neu gefnogi cynlluniau i gynnal yr ymgyrch.

5

Gwella/peidio ag effeithio ansawdd y dŵr.

6

Gwella  naturioldeb lle bo'n bosib – lleihau addasiadau i sianeli, ardaloedd dyfrol, a chreu neu wella storfeydd gorlifdiroedd naturiol sy'n gysylltiedig â mentrau cadwraeth a thirweddau.

7

Sicrhau bod prosiectau'n cael eu cynllunio mewn ffordd gynaladwy.

8

Cynnal, neu wella statws Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol   Arbennig, Safleoedd Pwysig o ran Natur a  Chadwraeth a chyfrannu at gynllun gweithredu bioamrywiaeth RhCT.

11               

Gwella dealltwriaeth o beryglon llifogydd dŵr ffo, dŵr daear a dyfrgyrsiau cyffredin a chynllunio sut i rannu gwybodaeth â chymunedau a busnesau ynglŷn â phob math o lifogydd.

Mae'r cynllun hefyd yn bwriadu cynnig nifer o fanteision yn rhan o Fesur Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

  • Cymru iachach – Bydd y gwaith yma'n cefnogi lliniaru llifogydd yn uniongyrchol i oddeutu 36 eiddo ac yn lleihau effaith unigedd ar gyfer 24 eiddo preswyl arall. Byddai'r gwaith felly yn fuddiol i 138 o drigolion (rydyn ni'n cymryd yn ganiataol bod 2.3 o breswylwyr fesul cartref yn genedlaethol) a fyddai, yn ei dro, yn gwella lles meddyliol ac iechyd y gymuned leol.
  • Cymru gydnerth – Nod y gwaith arfaethedig yw creu gwlypdir gwanhau o fewn dalgych uchaf, sy’n gwella’r ecoleg bresennol drwy ailgyflwyno amgylchedd naturiol a bioamrywiol ar gyfer ffawna a fflora lleol. Bydd y gwaith yn darparu gwytnwch cymdeithasol pellach trwy gynllun addasol a fwrierdir i reoli effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
  • Cymru sy'n fwy cyfartal – Bydd y gwaith yma er budd pob rhan o'r gymdeithas. Bydd cyfle i bawb gyflawni eu potensial trwy leihau'r tebygolrwydd o lifogydd a sicrhau gwytnwch tymor hir i'r gymuned leol.
  • Cymru o Gymunedau Cydlynys – Mae cysylltedd yn hollbwysig a bydd y gwaith yma'n caniatáu inni gynnal llwybrau sylweddol bwysig y gymuned. A ninnau'n sefydliad, mae diogelwch ein cymunedau yn bwysig iawn inni a bydd y gwaith yma hefyd yn lleihau'r risg i gymudwyr, i'r rheiny sy'n mynd i ysgolion a busnesau lleol yn sylweddol.
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang – Mae’r prosiect yn cynnig defnyddio technegau rheoli perygl llifogydd naturiol i liniaru’r perygl llifogydd presennol tra’n gwella’r amgylchedd ecolegol a chymdeithasol lleol.

Hysbysiad o Fwriad i Ddechrau Gwaith Gwella Draenio'r Tir

Mae'r cynllun lliniaru llifogydd wedi'i nodi yn gynllun datblygu a ganiateir o dan Rhan 14 (Datblygu gan Gyrff Draenio) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Fel y cyfryw, mae'r cyngor yn cynnal proses ymgynghori o dan Reoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999 a 2006. Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 20 Ionawr 2022 – 21 Chwefror 2022.

Dydy'r Cyngor ddim yn bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas â'r gwaith gwella arfaethedig. Gan gyfeirio at Atodlen 2 o Reoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999, yn ogystal â nodweddion y gwaith gwella, lleoliad y gwaith gwella a math a nodweddion yr effaith bosibl, ni fydd y gwaith yn cael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd.

Mae manylion disgrifiad y gwaith uchod a dyma grynhoi'r cynlluniau:

  1.  Gwaith i leihau llif y dŵr wyneb/cyrsiau dŵr cyffredin, a thrwy hynny leihau llifoedd brig sy'n llifo i'r seilwaith cwlferi presennol i lawr yr afon;
  2.  Creu basn graddedig i hwyluso gwanhau llif y dŵr wyneb a llif y cwrs dŵr arferol yn ardal y cae;
  3.  Creu llwybr cynnal a chadw o amgylch y basn gwanhau gan gynnwys rampiau mynediad;
  4.  Gosod sianeli dargyfeirio a strwythurau cwlferi i ddargyfeirio'r cwrs dŵr i mewn ac allan o'r basn gwanhau;
  5.  Creu pant er mwyn darparu ar gyfer draenio dŵr wyneb  yn rhan ogleddol y cae;
  1. Adfer pob ardal y mae'r gwaith uchod yn effeithio arno.

Os yw rhywun yn dymuno gwneud sylwadau ysgrifenedig am effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig, mae modd iddo wneud hynny drwy eu hanfon at y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng-flaen yn Nhŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU o fewn 30 diwrnod ar ôl dyddiad yr Hysbysiad yma neu drwy anfon e-bost i RheoliPeryglLlifogydd@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Mae modd cael rhagor o wybodaeth ynghylch y gwaith gwella gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng-flaen yn Nhŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU trwy e-bostio RheoliPeryglLlifogydd@rhondda-cynon-taf.gov.uk. Mae cynllun cyffredinol wedi'i ddarparu isod.