Bydd adeiladau yn ardal Cwmdâr ar eu hennill yn sgil cynllun a fydd yn cyfrannu at eu diogelu rhag llifogydd.
Diolch i gymorth Grant Rheoli Perygl Llifogydd Llywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chyllid cyfalaf Cyngor Rhondda Cynon Taf, bydd y cynllun yn lliniaru materion sy'n gysylltiedig â llifogydd hanesyddol o gwmpas y cwlfert yn Bwllfa Road.
Mae'r gwaith prosiect yn cynnwys adeiladu mewnlif newydd y tu ôl i Bwllfa Road fydd yn cario pibell fwy o faint o'i chymharu â'r un bresennol. Bydd ffosydd wedi'u leinio a heb eu leinio, i gario'r llif i'r fewnfa arfaethedig, yn cael eu hadeiladu.
Bydd system geuffos newydd yn cael ei hadeiladu o'r fewnfa, ar draws Bwllfa Road a bydd yn ailgysylltu â'r system bresennol yn y cae ger Dare Road. Bydd y system ddraenio yma'n fwy effeithiol a bydd cynnydd o 400% yn ei gallu o'i chymharu â'r un bresennol.
Er mwyn gwneud rhywfaint o'r gwaith isadeiledd pwysig yma, bydd angen rhoi mesurau rheoli traffig dros dro ar waith.
Bydd y perygl o lifogydd lleol yn parhau i fod yn broblem yn ystod ac ar ôl y prosiect ac mae Carfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y gymuned a chyfadrannau Rheoli Gwastraff a Gofal y Strydoedd y Cyngor i leihau'r risg.
Serch hynny, mae'r perygl llifogydd yn cynyddu'n sylweddol os oes achosion o dipio anghyfreithlon mewn nentydd a cheuffosydd, neu ar eu glannau. Rydyn ni, felly, yn mynnu bod y cyhoedd yn defnyddio dulliau swyddogol a chyfreithlon i gael gwared ar eu gwastraff.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau'r Cyngor o ran casglu gwastraff, a'i bolisïau, ewch i'r adran 'Gwasanaethau Gwastraff' ar wefan y Cyngor, neu ffonio 01443 425001.