Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â chynnydd Cynllun Lliniaru Llifogydd Fflatiau Cae-nant.
Mae'r cynllun bellach wedi sicrhau cyllid partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chartrefi RhCT fel bod modd i'r gwaith barhau i liniaru'r llifogydd yn 6 eiddo. Mae cwmni Horan Construction Ltd wedi'i apwyntio yn Brif Gontractwr, a bydd y gwaith yn dechrau tua diwedd Awst 2013.
Llifogydd posibl cyn y gwaith.
Llifogydd posibl ar ôl y gwaith.
Rydyn ni wedi sylwi bod oedolion a phlant yn cerdded trwy safle'r gwaith yn rheolaidd. Hoffen ni ofyn i chi beidio â mynd ar gyfyl y safle gwaith er eich diogelwch eich hun.
Uned Materion y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n darparu'r wybodaeth yma ar ran Carfan y Cynllun.
Carfan y Cynllun (pob ymholiad)
Ffôn: 01443 494809
Asiant y safle – Ffôn: 07779 033552