Skip to main content

Cynllun Lliniaru Llifogydd Cwmaman

Cyflwyniad

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac yntau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, yn dechrau ar y cynllun gwella draenio tir ar 24 Gorffennaf yn ardal Cwmaman. Bydd y cynllun arfaethedig yn rhan o gynllun rheoli dalgylch Uwch sy'n bwriadu lliniaru risg llifogydd i 37 o dai a 3 safle seilwaith pwysig.

Mae'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yn gweithredu yn unol ag amcan y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol er mwyn lleihau'r goblygiadau sy'n gysylltiedig â llifogydd. Cafodd y strategaeth ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2013 yn unol ag Adran 10 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae amcan y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn cydfynd â'r 4 amcan cenedlaethol sydd wedi'u nodi yn y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ac Erydu Arfordirol.

Bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei gynnal yng Nghwmaman o fewn Ward Etholiadol De Aberaman. Caiff yr ardal hon ei nodi yn 4edd o ran risg o fewn Cynllun Rheoli Peryglon o Lifogydd RhCT. Mae deilliannau'r cynllun yn dangos cysylltiad cryf rhwng llifogydd gweledig o'r 1980au a'r mapiau llifogydd a luniwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Disgrifiad o'r Gwaith

Mae dalgylch Nant Aman Fawr wedi bod yn destun ymchwiliad hydrolegol er mwyn gwella ein dealltwriaeth strategol o beryglon llifogydd mewn dalgylchoedd ehangach. Mae'r ymchwiliad yn ffurfio rhan o ddarpariaeth mesur 30 a neilltuwyd i Leoliad RCT0007 yn rhan o'r Cynllun Rheoli Peryglon o Lifogydd. Mae'r ymchwiliad wedi tynnu sylw at gyfleoedd i leihau briglifoedd; drwy addasu'r pwll trap silt uchaf a strwythur yr allfeydd sydd eisoes yn berchen ar y Cyngor. Bydd y gwaith arfaethedig yn cynnwys ailgynllunio y gored bresennol a gosod system gwahanu dŵr storm o fewn y dalgylch uchaf. Bydd strwythur yr allfa yn cynnwys ceuffos/pipell a chored orlif. Bydd y cloddiau o amgylch y pwll trap slit presennol yn cael eu haddasu i ganiatau system gwahanu dŵr storm well yn ystod cyfnodau o law trwm. Mae'r gwaith hefyd yn bwriadu lleihau uchder cloddiau carreg y pwll trap silt presennol. Bydd hyn yn creu silff a fydd yn annog gwelliannau i'r ecosystem/gwlyptir o ran ffawna daearol a dyfrol.

Prif amcan y gwaith arfaethedig yw lleihau llif dŵr storm o'r dalgylch er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd yn ardal Glanaman Road, Cwmaman. Bydd hyn yn atal systemau draenio trefol rhag gorlwytho.

Mae'r gwaith arfaethedig yn bwriadu lleihau'r briglif bron i 6.4% o fewn y dalgylch uchaf mewn digwyddiad o storm sy'n digwydd unwaith mewn 30 mlynedd (tebygolrwydd 3.3%) a gostyngiad o 1.2% mewn digwyddiad o storm sy'n digwydd unwaith mewn 100 mlynedd (tebygolrwydd 1%). Noder fod y stormydd a ddisgrifiwyd uchod yn cyfeirio at y tebygolrwydd o storm yn ôl ei maint bob blwyddyn yn hytrach na chyfnod amser. Gweler rhagor o wybodaeth o fewn y Cynllun Rheoli Peryglon o Lifogydd.

Yn rhan o'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol y Cyngor, byddwn ni'n ymdrechu i fodloni'r amcanion canlynol:

1

Lleihau'r   boblogaeth sy'n cael ei heffeithio gan beryglon o lifogydd.

2

Lleihau   aflonyddwch o fewn y gymuned drwy leihau nifer yr adeiladau preswyl a   masnachol sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd.

3

Lleihau peryg   bywyd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o   lifogydd dwfn a chyflym.

4

Lleihau   aflonyddwch i'r seilwaith critigol neu gefnogi cynlluniau i gynnal yr   ymgyrch.

5

Gwella/peidio   ag effeithio ansawdd y dŵr.

6

Gwella   naturioldeb lle bo'n bosib – lleihau addasiadau i sianeli, ardaloedd dyfrol,   a chreu neu wella storfeydd gorlifdiroedd naturiol sy'n gysylltiedig â   mentrau cadwraeth a thirweddau.

7

Sicrhau bod   prosiectau'n cael eu cynllunio mewn ffordd gynaladwy.

8

Cynnal, neu   wella statws Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol   Arbennig, Safleoedd Pwysig o ran Natur a  Chadwraeth a chyfrannu at gynllun gweithredu   bioamrywiaeth RhCT.

11               

Gwella   dealltwriaeth o beryglon llifogydd dŵr ffo, dŵr daear a dyfrgyrsiau cyffredin   a chynllunio sut i rannu gwybodaeth â chymunedau a busnesau ynglŷn â phob   math o lifogydd.

Mae'r cynllun hefyd yn bwriadu cynnig nifer o fanteision yn rhan o Fesur Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

  • Adeiladu Cymru fwy llewyrchus – Bydd y gwaith yma'n helpu cadw llwybr y gymuned yn agored ac yn lliniaru llifogydd ar gyfer trigolion Glanaman (newid yn yr hinsawdd).
  • Cymru Gydnerth – Ni fydd y gwaith arfaethedig yn cael effaith wael ar yr amgylchedd naturiol. Bydd yn gwella gallu'r ardaloedd i addasu i newid. Bydd y gwaith yn ein galluogi ni i reoli llif y dŵr sy'n deillio o newid yn yr hinsawdd.
  • Cymru Gyfartal – Bydd y gwaith o fudd i bob rhan o'r gymdeithas. Bydd cyfle i bawb gyflawni eu potensial drwy wella mynediad i'r ardal.
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus – Mae diogelwch ein cymunedau yn hanfodol. Bydd y gwaith hwn yn lleihau risg yn sylweddol.

Ymgynghoriad ar Hysbysiad o Fwriad i Ddechrau Gwaith Gwella Draenio'r Tir Wedi'i Gwblhau

Mae'r cynllun lliniaru llifogydd wedi'i nodi yn gynllun datblygu a ganiateir o dan Rhan 14 (Datblygu gan Gyrff Draenio) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995.  Fel y cyfryw, mae'r cyngor wedi cwblhau proses ymgynghori o dan Reoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999 a 2006.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, doedd dim tystiolaeth o gynrychioliadau mewn perthynas ag effeithiau sylweddol y gwaith gwella arfaethedig ar yr amgylchedd; felly bydd y gwaith bellach yn mynd yn ei flaen.

Dechrau Gwaith Y Prosiect 

Mae'r gwaith ecolegol wedi'i gwblhau erbyn hyn; bydd y prif gam adeiladu yn dechrau ar 24 Gorffennaf. Bydd y gwaith adeiladu yn digwydd o fewn yr ardal waith ar Nant Aman Fawr, sy 0.5 cilomedr i ffwrdd o'r ardal breswyl agosaf.