Mae Rhaglen Gyfalaf Draenio Tir y Cyngor yn gefn i gynlluniau draenio tir a lliniaru llifogydd. Mae’r rhain yn ceisio lleihau’r perygl o lifogydd, yn gyffredinol, sy’n cael eu hachosi gan gyrsiau dŵr cyffredin. Er hynny, mae eu graddfa, a’r costau, yn golygu eu bod nhw y tu allan i’r fframwaith arferol ar gyfer gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
Y Cyngor yw’r Awdurdod Draenio Tir ac mae modd i ni fanteisio ar gymorth grant Llywodraeth Cymru (85%) o dan Adran 59 o Ddeddf Draenio Tir 1991.
Mae ceisiadau llwyddiannus ar gyfer cymorth o'r math yma yn dibynnu ar allu'r Awdurdod Draenio Tir i gyflwyno achos sy'n dangos bod manteision y cynllun dan sylw yn drech na'i gost. Mae hefyd eisiau dangos bod arian cyfatebol (15%) ar gael o'r sector cyhoeddus neu'r sector preifat.
Mae'r Awdurdod Draenio Tir, fel arfer, yn hwyluso'r cynlluniau yma oherwydd mae'n bosibl eu bod nhw ar dir cyhoeddus neu dir prifat ac mae posibilrwydd bod nifer o fudd-ddeiliaid. Er mwyn gwneud yn siŵr bod peryglon llifogydd mawr yn cael eu lliniaru, mae pwerau caniatáu cyfreithiol gan yr Awdurdod Draenio, dan Ddeddf Draenio Tir 1991, i gael mynediad a chynnal gwaith draenio tir hanfodol yn ôl y gofyn.