Cyflwyniad
Ac yntau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA), bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT), yn cychwyn Cynllun Lliniaru Llifogydd yn yr ardal o amgylch priffordd Glenboi. Bydd y gwaith yn hwyluso gorsaf bwmpio priffyrdd well, fydd wedi'i chynllunio i ddarparu ar gyfer llifoedd o ddŵr wyneb dros y tir a chwrs dŵr cyffredin sy'n mynd i mewn i'r man isel yn ffordd Glenboi. Bydd hynny'n lleihau'r llif i lawr tuag at y sianel bresennol lle y mae risg uchel o lifogydd.
Mae'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yn gweithredu yn unol ag amcan y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol er mwyn lleihau'r goblygiadau sy'n gysylltiedig â llifogydd. Cafodd y strategaeth ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2013 yn unol ag Adran 10 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae amcan y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn cydfynd â'r 5 amcan cenedlaethol sydd wedi'u nodi yn y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ac Erydu Arfordirol.
Ardal Glenboi yw ardal arfaethedig y gwaith. Mae'r ardal o fewn Ward Etholiadol Gorllewin Aberpennar ac wedi'i nodi yn rhif 18 ar y rhestr o wardiau sydd â'r risg uchaf o lifogydd yng Nghynllun Rheoli Risg Llifogydd (FRMP) RhCT. Yn ardal gymunedol Abercwmboi bydd y gwaith arfaethedig, sydd yn safle 130 yng Nghymru ar gyfer risg llifogydd dŵr wyneb ar Gofrestr Cymunedau mewn Perygl (CaRR).
Disgrifiad o'r Gwaith
Mae ardal Glenboi wedi bod yn destun sawl digwyddiad o lifogydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Y digwyddiad mwyaf arwyddocaol oedd llifogydd ar 15 ac 16 Chwefror 2020 yn dilyn Storm Dennis, lle aeth dŵr i mewn i 9 eiddo gyda 15 eiddo arall yn dioddef llifogydd allanol. Y digwyddiad o lifogydd yma oedd y 4ydd digwyddiad yn dilyn Storm Bronagh a Callum a ddigwyddodd yn ystod 2018 a nododd yr un lefel o lifogydd mewnol.
Mae RhCT wedi ymateb i'r llifogydd yma trwy gynnig gwneud gwaith gwella draenio tir i wella'r orsaf bwmpio priffyrdd. Diben yr orsaf yw darparu ar gyfer llifoedd dros y tir o ddŵr wyneb a chwrs dŵr cyffredin sy'n mynd i mewn i'r man isel yn ffordd Glenboi. Bydd hynny'n lleihau'r llif i lawr tuag at y sianel bresennol lle y mae risg uchel o lifogydd.
Bydd y gwaith arfaethedig cychwynnol yma'n anelu at ddarparu Safon Amddiffyn Q100 + 40% ar newid yn yr hinsawdd i gymuned Glenboi.
Yn rhan o'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol y Cyngor, byddwn ni'n ymdrechu i fodloni'r amcanion canlynol.
1
|
Lleihau'r boblogaeth sy'n cael ei heffeithio gan beryglon o lifogydd.
|
2
|
Lleihau aflonyddwch o fewn y gymuned drwy leihau nifer yr adeiladau preswyl a masnachol sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd.
|
3
|
Lleihau peryg bywyd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd dwfn a chyflym.
|
4
|
Lleihau aflonyddwch i seilwaith critigol neu gefnogi paratoi cynlluniau i ganiatáu cynnal eu gweithrediad.
|
5
|
Gwella/peidio ag effeithio ansawdd y dŵr.
|
6
|
Sicrhau bod prosiectau'n cael eu cynllunio mewn ffordd gynaliadwy.
|
7
|
Gwella dealltwriaeth o beryglon llifogydd dŵr ffo, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin a chynllunio sut i rannu gwybodaeth â chymunedau a busnesau ynglŷn â phob math o lifogydd.
|
Mae'r cynllun hefyd yn bwriadu cynnig nifer o fanteision yn rhan o 'Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru'.
- Cymru iachach – Bydd y gwaith yma'n cefnogi lliniaru llifogydd yn uniongyrchol i oddeutu 24 eiddo ac yn lleihau effaith unigedd ar gyfer 491 eiddo preswyl arall. Byddai'r gwaith felly yn fuddiol i 1,184 o drigolion (rydyn ni'n cymryd yn ganiataol bod 2.3 o breswylwyr fesul cartref yn genedlaethol) a fyddai, yn ei dro, yn gwella lles meddyliol ac iechyd y gymuned leol.
- Cymru gydnerth – Fel sefydliad, mae diogelwch ein cymunedau yn bwysig iawn inni, a bydd y gwaith yma'n lleihau'r risg o lifogydd yn sylweddol i drigolion yn ardal Glenboi yn Aberpennar. Bydd y gwaith yn darparu gwytnwch cymdeithasol pellach trwy ddarparu mynediad parhaus i drigolion Glenboi a Fernhill i'r gymuned ehangach (lleihau unigedd trwy lifogydd) a'r warchodfa natur leol 'Pwll Waun Cynon' (Priffordd Glenboi gerllaw).
- Cymru sy'n fwy cyfartal – Bydd y gwaith yma er budd pob rhan o'r gymdeithas. Bydd cyfle i bawb gyflawni eu potensial trwy leihau'r tebygolrwydd o lifogydd a sicrhau gwytnwch tymor hir i'r gymuned leol.
- Cymru o Gymunedau Cydlynys – Mae cysylltedd yn hollbwysig a bydd y gwaith yma'n caniatáu inni gynnal llwybrau sylweddol bwysig y gymuned. A ninnau'n sefydliad, mae diogelwch ein cymunedau yn bwysig iawn inni a bydd y gwaith yma hefyd yn lleihau'r risg i gymudwyr, i'r rheiny sy'n mynd i ysgolion a busnesau lleol yn sylweddol.
Hysbysiad o Fwriad i ddechrau gwaith gwella draenio'r tir
Mae'r cynllun lliniaru llifogydd wedi'i nodi yn gynllun datblygu a ganiateir o dan Rhan 14 (Datblygu gan Gyrff Draenio) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Fel y cyfryw, mae'r cyngor yn cynnal proses ymgynghori o dan Reoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999 a 2006. Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 9 Rhagfyr 2021 a 8 Ionawr 2022.
Dydy'r Cyngor ddim yn bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas â'r gwaith gwella arfaethedig. Gan gyfeirio at Atodlen 2 o Reoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999, yn ogystal â nodweddion y gwaith gwella, lleoliad y gwaith gwella a math a nodweddion yr effaith bosibl, ni fydd y gwaith yn cael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd.
Mae manylion disgrifiad y gwaith uchod a dyma grynhoi'r cynlluniau:
- Gwella'r orsaf bwmpio priffyrdd bresennol
- Gosod prif reilffordd newydd ar draws Heol Aberdâr
- Gwella seilwaith draenio priffyrdd ym mhriffordd Glenboi
- Gosod system ddraenio rhyng-gipio llif dros y tir ym mhriffordd Glenboi
- Inswleiddio compownd gorsaf bwmpio wedi'i huwchraddio a mynediad i'r safle
- Gwelliannau i allfeydd gorsafoedd pwmpio Headwall
- Gosod basn bio-gadw i ddarparu ar gyfer dŵr wyneb
- Adfer pob ardal y mae'r gwaith uchod yn effeithio arno
Os yw rhywun yn dymuno gwneud sylwadau ysgrifenedig am effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig, mae modd iddo wneud hynny drwy eu hanfon at y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng-flaen yn Nhŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU o fewn 30 diwrnod ar ôl dyddiad yr Hysbysiad yma neu drwy anfon e-bost i RheoliPeryglLlifogydd@rhondda-cynon-taf.gov.uk.
Mae modd cael rhagor o wybodaeth ynghylch y gwaith gwella gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng-flaen yn Nhŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU trwy e-bostio RheoliPeryglLlifogydd@rhondda-cynon-taf.gov.uk. Mae cynllun cyffredinol wedi'i ddarparu isod.