Bydd 11 cartref a 3 adeilad masnachol yn ardal Cilfynydd ar eu hennill yn sgil cynllun a fydd yn cyfrannu at eu diogelu rhag llifogydd.
Diolch i gymorth Grant Rheoli Perygl Llifogydd Llywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chyllid cyfalaf Cyngor Rhondda Cynon Taf, bydd y cynllun yn lliniaru materion sy'n gysylltiedig â llifogydd hanesyddol o gwmpas y geuffos yn Pant Ddu Road ac ardal y Lido.
Bydd y prosiect yn cynnwys adnewyddu a chodi uchder wal y llifogydd ger y fewnfa ynghyd ag ad-drefnu'r rhwyll. Gan fod malurion naturiol o'r bryniau yn ffactor sy'n cyfrannu at y broblem ger y "Lido", bydd yr ardal yma'n cael ei had-drefnu i sefydlogi'r waliau, atal malurion a chaniatáu pysgod i basio. Bydd hyn yn lleihau ar y swp o falurion sy'n teithio i lawr yr afon i'r rhwyll a lleihau'r difrod i'r rhwyll sy'n tueddu i ddigwydd wrth ei lanhau. Bydd system yn cael ei osod ger y rhwyll i rybuddio'n carfannau cynnal a chadw bod rhwystaru posibl.
Bydd y perygl o lifogydd lleol yn parhau i fod yn broblem yn ystod ac ar ôl y prosiect ac mae Carfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y gymuned a chyfadrannau Rheoli Gwastraff a Gofal y Strydoedd y Cyngor i leihau'r risg.
Serch hynny, mae'r perygl llifogydd yn cynyddu'n sylweddol os oes achosion o dipio anghyfreithlon mewn nentydd a cheuffosydd, neu ar eu glannau. Rydyn ni, felly, yn mynnu bod y cyhoedd yn defnyddio dulliau swyddogol a chyfreithlon i gael gwared ar eu gwastraff.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau'r Cyngor o ran casglu gwastraff, a'i bolisïau, ewch i www.rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 425001.