Bydd dros 232 o adeiladau yn ardal Aberaman ar eu hennill yn sgil cynllun a fydd yn cyfrannu at eu diogelu rhag llifogydd.
Diolch i gymorth Grant Rheoli Perygl Llifogydd Llywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chyllid cyfalaf Cyngor Rhondda Cynon Taf, bydd y cynllun yn lliniaru materion sy'n gysylltiedig â llifogydd hanesyddol o gwmpas y geuffos yn Cardiff Road a'r cyrsiau dŵr ymhellach i lawr.
Bydd y cynllun yn cynnwys adnewyddu'r geuffos yn Cardiff Road. Ymhellach lawr yr afon, bydd y gwaith yn cynnwys cynyddu'r capasiti ar gyfer y dŵr yn ogystal â diogelu rhag erydu i'w gwneud nhw'n fwy cadarn yn ystod stormydd garw. Bydd rhai strwythurau presennol yn cael eu haddasu i alluogi dŵr i lifo'n haws, a systemau gorlifo hefyd yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd hanfodol er mwyn atal rhwystrau. Bydd system yn cael ei gosod ger y rhwyll a fydd yn rhybuddio'n carfannau cynnal a chadw am rwystrau posibl.
Bydd y perygl o lifogydd lleol yn parhau i fod yn broblem yn ystod ac ar ôl y prosiect ac mae Carfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y gymuned a chyfadrannau Rheoli Gwastraff a Gofal y Strydoedd y Cyngor i leihau'r risg.
Serch hynny, mae'r perygl llifogydd yn cynyddu'n sylweddol os oes achosion o dipio anghyfreithlon mewn nentydd a cheuffosydd, neu ar eu glannau. Rydyn ni, felly, yn mynnu bod y cyhoedd yn defnyddio dulliau swyddogol a chyfreithlon i gael gwared ar eu gwastraff.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau'r Cyngor o ran casglu gwastraff, a'i bolisïau, ewch i www.rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 425001.
Gwelliannau i Cardiff Road
Mae'r Cyngor yn bwriadu cynnal gwaith gwella'r briffordd yn Cardiff Road, Aberaman.
Y bwriad yw gwneud y gwaith ochr yn ochr â'r cynllun lliniaru llifogydd i achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl yn yr ardal leol.
Bydd y prosiect yn cynnwys lledu'r briffordd rhwng y cyffyrdd ag Abergwawr Street a Curre Street, rheoli traffig a rhoi wyneb newydd ar y briffordd rhwng Sunnybank Street, cyffordd Lewis Street a Mount Hill Street.