Skip to main content

Cynllun Lliniaru Llifogydd Park Lane

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT), ac yntau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, yn dechrau cynllun lliniaru llifogydd a fydd yn dechrau adeiladu ym mis Awst yn y caeau uwchben parc Aberdâr a Park Lane. Bydd y cynllun arfaethedig yn rhan o gynllun rheoli dalgylch Uwch sy'n bwriadu lliniaru risg llifogydd i dua 122 o dai, 30 busnes a nifer o briffyrdd.

Mae'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yn gweithredu yn unol ag amcan y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol er mwyn lleihau'r goblygiadau sy'n gysylltiedig â llifogydd. Cafodd y strategaeth ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2013 yn unol ag Adran 10 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae amcan y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn cydfynd â'r 4 amcan cenedlaethol sydd wedi'u nodi yn y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ac Erydu Arfordirol.

Bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei gynnal yn Nhrecynon o fewn Ward Etholiadol Gorllewin Aberaman/Llwydcoed. Caiff yr ardal hon ei nodi yn 4edd o ran risg o fewn Cynllun Rheoli Peryglon o Lifogydd RhCT. Mae’r gwaith arfaethedig yn dod o fewn Cymuned Trecynon, fel y nodwyd gan y gofrestr cymunedau mewn perygl (CaRR), a chaiff yr ardal hon ei nodi ar safle 27 yng Nghymru ar gyfer perygl llifogydd dŵr wyneb.

Disgrifiad o’r Gwaith

Mae’r cynllun arfaethedig yn amlinellu’r cyfle i greu gwlypdir gwahanu o fewn y dalgylch uchaf drwy ddadsianelu cwlfert/ceuffos ar gwrs dŵr cyffredin.

Mae’r gwaith hwn yn seiliedig ar egwyddor rheoli perygl llifogydd naturiol gyda nifer o welliannau amgylcheddol yn cael eu harchwilio i hwyluso datblygu gwlyptir ecolegol amrywiol gyda defnydd amwynder cysylltiedig i’r gymuned leol.

Mae ardal Park Lane yn Aberdâr wedi bod yn destun sawl achos o lifogydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Digwyddod y digwyddiad mwyaf arwyddocaol ar y 12fed a’r 13eg o Hydref 2018 yn dilyn storm Callum, lle’r oedd 5 ystafell ddosbarth mewnol a dau tŷ wedi dioddef o lifogydd mewnol gydag 20 o dai ychwanegol yn dioddef o lifogydd allanol. Y digwyddiad llifogydd hwn oedd yr 2il/3ydd digwyddiad yn dilyn storm Bronagh a ddigwyddodd ar yr 20fed a’r 21ain o Fedi 2018 a nododd yr un lefel o lifogydd mewnol.

Mewn ymateb i’r digwyddiadau hyn, mae RhCT wedi cynnig cynnal gwaith gwella draeniad tir ar y cwrs dŵr cyffredin a man agored cyhoeddus cyfagos o barc Aberdâr a fydd yn galluogi’r ardal i gael ei hailbroffilio i wanhau’r llifau dŵr wyneb brig ar y cwrs dŵr dienw yn Nhrecynon. Bydd y gwaith arfaethedig yn cynnwys creu sianel wedi’i graddio i ganiatau system gwahanu dŵr storm well o fewn ardal y cae a dad-lwyfannu rhan o’r cwrs dŵr cyffredin er mwyn gosod strwythur pont llydan ar y llwybr troed presennol sy’n mynd dros y cwrs dŵr. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys creu llwybr cynnal a chadw o amgylch y basn gwahanu a fydd yn dyblu fel llwybr amwynder i breswylwyr lleol a defnyddwyr y parc.

Prif amcan y gwaith arfaethedig yw lleihau llif dŵr storm o'r dalgylch er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd yn ardal Park Lane, Aberdâr. Bydd hyn yn atal systemau draenio trefol rhag gorlwytho.

Mae'r gwaith arfaethedig yn bwriadu darparu gostyngiad o 50% i’r briglifau sy’n llifo i lawr yr cwrs dŵr cyffredin, gan leihau’r perygl llifogydd cyffredinol i dri rhwydwaith cwrs dŵr cyffredin sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r rhwydweithiau presennol.

Yn rhan o'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol y Cyngor, byddwn ni'n ymdrechu i fodloni'r amcanion canlynol:

1

Lleihau'r boblogaeth sy'n cael ei heffeithio gan beryglon o lifogydd.

2

Lleihau aflonyddwch o fewn y gymuned drwy leihau nifer yr adeiladau   preswyl a masnachol sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd.

3

Lleihau peryg bywyd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio   gan beryglon o lifogydd dwfn a chyflym.

4

Lleihau aflonyddwch i'r seilwaith critigol neu gefnogi cynlluniau i   gynnal yr ymgyrch.

5

Gwella/peidio ag effeithio ansawdd y dŵr.

6

Gwella  naturioldeb lle bo'n bosib – lleihau addasiadau i   sianeli, ardaloedd dyfrol, a chreu neu wella storfeydd gorlifdiroedd naturiol   sy'n gysylltiedig â mentrau cadwraeth a thirweddau.

7

Sicrhau bod prosiectau'n cael eu cynllunio mewn ffordd gynaladwy.

8

Cynnal, neu wella statws Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Safleoedd o   Ddiddordeb Gwyddonol   Arbennig, Safleoedd Pwysig o ran Natur a    Chadwraeth a chyfrannu at gynllun gweithredu bioamrywiaeth RhCT.

11               

Gwella dealltwriaeth o beryglon llifogydd dŵr ffo, dŵr daear a   dyfrgyrsiau cyffredin a chynllunio sut i rannu gwybodaeth â chymunedau a   busnesau ynglŷn â phob math o lifogydd.

Mae'r cynllun hefyd yn bwriadu cynnig nifer o fanteision yn rhan o Fesur Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

  • Cymru Iachach – Bydd y gwaith yn cefnogi’n uniongyrchol y gwaith o leddfu llifogydd i oddeutu 122 o dai (gyda nifer ohonynt wedi dioddef llifogydd ddwywaith yn ystod tymor y storm 2018-19).
  • Cymru Gydnerth – Nod y gwaith arfaethedig yw creu gwlypdir sy’n gwanhau’r dalgylch uchaf drwy ddad-lwyfannu darn o gwrs dŵr cyffredin sy’n gwella’r ecoleg bresennol drwy ailgyflwyno amgylchedd naturiol a bioamrywiol ar gyfer ffawna a fflora lleol. Bydd y gwaith hefyd yn darparu cydnerthedd cymdeithasol drwy wella’r defnydd o amwynderau yn ardal y gwlyptir, gan ddarparu amgylchedd naturiol rhyngweithiol sy’n addasu i effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol.
  • Cymru Gyfartal – Bydd y gwaith o fudd i bob rhan o'r gymdeithas. Bydd cyfle i bawb gyflawni eu potensial drwy leihau’r tebygolrwydd o lifogydd a galluogi gwydnwch hirdymor ar gyfer y gymuned lleol, yn benodol Ysgol Arbennig Park Lane.
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus – Mae cysylltedd yn hanfodol a bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i gynnal llwybrau sylweddol bwysig y gymuned. Fel sefydliad, mae diogelwch ein cymunedau yn hanfodol a bydd y gwaith hwn yn lleihau risg i gymudwyr, defnyddwyr ysgolion a busnesau lleol yn sylweddol.
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang – Mae’r prosiect yn cynnig defnyddio technegau rheoli perygl llifogydd naturiol i liniaru’r perygl llifogydd presennol tra’n gwella’r amgylchedd ecolegol a chymdeithasol lleol.

Hysbysiad o Fwriad i Ddechrau Gwaith Gwella Draenio'r Tir

Mae'r cynllun lliniaru llifogydd wedi'i nodi yn gynllun datblygu a ganiateir o dan Rhan 14 (Datblygu gan Gyrff Draenio) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995.  Fel y cyfryw, mae'r cyngor wedi cwblhau proses ymgynghori o dan Reoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999 a 2006.

Dechrau Gwaith Y Prosiect 

Amcangyfrifir y bydd prif gam yr adeiladu yn dechrau ar y 10fed Awst a disgwylir iddo gymryd 12 wythnos i’w gwblhau. Bydd y gwaith adeiladu yn digwydd o fewn yr ardal waith yn Park Lane, Aberdâr ac mae cynllun trefniant cyffredinol ar gael i’w weld.