Skip to main content

Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre

Diben Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre yw mynd i'r afael â'r materion llifogydd yng nghymuned Pentre yng Nghwm Rhondda. Mae'r dudalen yma'n darparu manylion am y gwaith arfaethedig a'u harwyddocâd i gymuned Pentre.

Mae mapiau Asesu Perygl Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi bod Pentre mewn perygl mawr o lifogydd o ffynonellau dŵr afonol a dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin. Mae Pentre hefyd wedi'i nodi'n ardal flaenoriaeth ar gyfer cyflawni gwaith lliniaru, a hynny'n seiliedig ar Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd Rhondda Cynon Taf, sy'n cadarnhau ymhellach y perygl llifogydd sylweddol yn y gymuned.

Diben Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre yw datblygu a gweithredu rhaglen o fesurau lliniaru llifogydd yn unol â chanllaw achos busnes Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru. Mae'r fenter yma'n cyd-fynd ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), sy’n canolbwyntio ar leihau’r perygl o lifogydd drwy roi mesurau lliniaru hirdymor cynaliadwy ar waith.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf, ar y cyd ag ymgynghorwyr penodedig RPS, wedi cynnal gwaith sgrinio a dadansoddi helaeth o opsiynau amrywiol i fynd i'r afael â'r perygl llifogydd ym Mhentre. Canlyniad y broses oedd nodi opsiwn a ffefrir ar gyfer datblygiad pellach. Mae gwybodaeth fanwl am yr opsiwn a ffefrir ar gael i'w hadolygu ar-lein trwy ofod ymgynghori rhithwir yma, a bydd gwybodaeth hefyd ar gael ar dudalen we ymgynghoriadau Rhondda Cynon Taf.

Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn achlysur ymgynghori wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Pentre, a gaiff ei gynnal ar 29 a 30 Mehefin, rhwng 11am a 6pm.

Rydyn ni'n gwerthfawrogi mewnbwn yr holl randdeiliaid wrth lunio Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre. Fe'ch anogir i gymryd rhan yn y broses ymgynghori drwy ddefnyddio unrhyw un o'r dulliau a nodir uchod.