Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT), yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, yn dechrau gwaith ar Gynllun Lliniaru Llifogydd yng Nghwmaman, Aberdâr.
Nod y gwaith gwella arfaethedig yw lliniaru'r perygl o lifogydd i tua 78 eiddo preswyl. Amcangyfrifir y bydd y gwaith o fudd i 179 o drigolion (yn seiliedig ar ddeiliadaeth gyfartalog o 2.3).
Mae’r Cyngor yn cynnig gwneud gwaith gwella draenio tir ar gwrs dŵr cyffredin (Nant Aman Fach) tua’r gogledd o Heol Glanaman a thua’r gorllewin o Briffordd Brynhyfryd. Bwriad y gwaith yw cynyddu uchder y sianeli cwrs dŵr arferol er mwyn darparu'n well ar gyfer cyfaint y dŵr sy'n cael ei gludo drwy strwythur y cwlfer. Bydd hyn yn gwella effeithlonrwydd hydrolig y fewnfa/sianeli'r cwlfer. Bydd y gwelliannau yma'n lleihau'r perygl o lifogydd glaw mewn ardal lle yr ystyrir bod risg uchel o lifogydd.
Mae'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yn gweithredu yn unol ag amcan y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol er mwyn lleihau'r goblygiadau sy'n gysylltiedig â llifogydd. Cafodd y strategaeth ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2013 yn unol ag Adran 10 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae amcan y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn cyd-fynd â'r 5 amcan cenedlaethol sydd wedi'u nodi yn y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ac Erydu Arfordirol.
Yn ôl safleoedd presennol y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd, mae cymuned Cwmaman wedi’i chydnabod fel ardal â risg sylweddol o lifogydd. Yn benodol, mae Cwmaman wedi’i rhestru fel y gymuned sy’n wynebur perygl mwyaf ond tri o ran bod yn agored i lifogydd.
Disgrifiad o'r Gwaith
Mae'r gwaith arfaethedig yn bwriadu manteisio i’r eithaf ar gapasiti sianel y cwrs dŵr arferol drwy safoni uchder waliau sianel y cwrs dŵr. Bydd y gwaith yma'n cynnwys gwaith strwythurol i godi uchder waliau presennol y sianel, ynghyd â gwaith i atgyweirio a sefydlogi ochrau'r sianel bresennol.
Trwy gynyddu uchder y sianel, mae cyfaint y dŵr mae modd ei gynnwys yn y sianel a'r gilfach i lawr yr afon hefyd yn cynyddu. Mae'r capasiti ychwanegol yma'n galluogi'r sianel i drin mwy o ddŵr yn ystod cyfnodau o lif uchel neu law trwm, gan leihau'r perygl o lifogydd yn yr ardaloedd cyfagos.
Yn rhan o'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol y Cyngor, byddwn ni'n ymdrechu i fodloni'r amcanion canlynol.
1
|
Lleihau'r boblogaeth sy'n cael ei heffeithio gan beryglon o lifogydd.
|
2
|
Lleihau aflonyddwch yn y gymuned drwy leihau nifer yr adeiladau preswyl a masnachol sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd.
|
3
|
Lleihau perygl bywyd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd dwfn a chyflym.
|
4
|
Lleihau aflonyddwch i'r seilwaith hanfodol neu gefnogi cynlluniau i gynnal yr ymgyrch.
|
5
|
Gwella/peidio ag effeithio ansawdd y dŵr.
|
6
|
Gwella naturioldeb lle bo'n bosib - lleihau addasiadau i sianeli, ardaloedd dyfrol, a chreu neu wella storfeydd gorlifdiroedd naturiol sy'n gysylltiedig â mentrau cadwraeth a thirweddau.
|
7
|
Sicrhau bod prosiectau'n cael eu cynllunio mewn ffordd gynaliadwy.
|
8
|
Cynnal, neu wella statws Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur a chyfrannu at gynllun gweithredu bioamrywiaeth RhCT.
|
11
|
Gwella dealltwriaeth o beryglon llifogydd dŵr ffo, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin a chynllunio sut i rannu gwybodaeth â chymunedau a busnesau ynglŷn â phob math o lifogydd.
|
Mae'r cynllun yn bwriadu cynnig nifer o fanteision yn rhan o 'Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru'.
Cymru Iachach – Bydd y gwaith yma'n cefnogi’r gwaith o liniaru llifogydd yn uniongyrchol mewn tua 78 eiddo ac yn cefnogi iechyd meddwl ac iechyd 179 o drigolion y mae eu heiddo mewn perygl o lifogydd yn y dyfodol.
Cymru Gydnerth – Nod y gwaith yma yw gwella gwytnwch hirdymor y cwrs dŵr cyffredin mewn ceuffos sy’n hwyluso ac yn gwella cydnerthedd cymdeithasol ac economaidd presennol yr ardal drwy leihau aflonyddwch a difrod/colledion i eiddo preswyl.
Cymru sy'n fwy cyfartal - Bydd y gwaith yma er budd pob rhan o'r gymdeithas. Bydd cyfle i bawb gyflawni eu potensial trwy leihau'r tebygolrwydd o lifogydd a sicrhau gwytnwch tymor hir i'r gymuned.
Cymru o Gymunedau Cydlynys - Mae cysylltedd yn hollbwysig a bydd y gwaith yma'n caniatáu inni gynnal llwybrau sylweddol bwysig y gymuned. A ninnau'n sefydliad, mae diogelwch ein cymunedau'n bwysig iawn inni a bydd y gwaith yma hefyd yn lleihau'r risg i gymudwyr a busnesau lleol yn sylweddol. Bydd y gwaith yma'n creu cydnerthedd cysylltedd i gymuned Cwmaman, trwy wneud Heol Glanaman yn fwy gwydn. Y llwybr trafnidiaeth yma yw'r brif briffordd sy'n gwasanaethu cymunedau Glanaman a Chwmaman ac mae llawer yn dibynnu arno.
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang – Bwriad rheoleiddio cyrsiau dŵr cyffredin yn RhCT yw hwyluso strategaeth sy'n seiliedig ar ddalgylchoedd i sicrhau bod seilwaith cyrsiau dŵr arferol yn llifo’n rhwydd ac yn ddirwystr ac wrth wneud hynny, sicrhau bod cyfraniad net cadarnhaol at les byd-eang y gymuned gyfan a chan gynnwys y trigolion hynny sy'n elwa o'r gwahanfeydd dŵr yn RhCT.
MAE CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF ("Y Cyngor") YN HYSBYSU fel a ganlyn yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999:
1. Mae’r Cyngor yn bwriadu gwneud gwaith gwella draenio tir ar gyrsiau dŵr cyffredin (Nant Aman Fach) tua’r gogledd o Heol Glanaman a thua’r gorllewin o Briffordd Brynhyfryd. Bwriad y gwaith yw cynyddu uchder y sianeli cwrs dŵr arferol er mwyn darparu'n well ar gyfer cyfaint y dŵr sy'n cael ei gludo drwy strwythur y cwlfert. Bydd hyn yn gwella effeithlonrwydd hydrolig y fewnfa/sianeli'r cwlfert. Bydd y gwelliannau yma'n lleihau'r perygl o lifogydd glaw mewn ardal lle yr ystyrir bod risg uchel o lifogydd.
2. Dyw'r Cyngor ddim yn bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas â'r gwaith gwella arfaethedig. Gan gyfeirio at Atodlen 2 o Reoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999, gan mai’r rhesymau dros beidio â bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol yw, o ystyried nodweddion y gwaith gwella, sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y gwaith gwella a math a nodweddion yr effaith posib ar yr amgylchedd gan y gwaith gwella, ni ystyrir y bydd y gwaith arfaethedig yn cael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd.
3. Bydd y mesurau lliniaru ac ataliol canlynol yn cael eu rhoi ar waith:
- Rheoli adeiladu i liniaru effeithiau sŵn, dirgryniad a llwch;
- Rheoli adeiladu i liniaru’r amser y mae gwaith yn gweithredu o fewn Cwrs Dŵr Cyffredin;
- Rheoli Adeiladu i liniaru'r potensial bod llygredd yn effeithio ar y rhwydweithiau cwrs dŵr arferol;
- Cydymffurfio â gofynion statudol ychwanegol sy’n ymwneud â Chaniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin (Adran 23 o’r Ddeddf Draenio Tir 1991).
4. Mae disgrifiad o leoliad, natur a maint y gwaith gwella yn Rhan I o'r Atodlen i'r Hysbysiad yma.
5. Os yw rhywun yn dymuno gwneud sylwadau ysgrifenedig am effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig, mae modd iddo wneud hynny drwy eu hanfon at y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng-flaen yn Nhŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU neu drwy anfon e-bost i RheoliPeryglLlifogydd@rhondda-cynon-taf.gov.uk o fewn 30 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi'r Hysbysiad yma.
6. Mae modd cael yr wybodaeth ychwanegol am y gwaith gwella yn Rhan II o'r Atodlen i'r Hysbysiad yma gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen yn Nhŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU trwy anfon e-bost i RheoliPeryglLlifogydd@rhondda-cynon-taf.gov.uk.
ATODLEN
Rhan I – manylion am y gwaith gwella
Lleoliad y gwaith gwella: Nant Aman Fach - cyrsiau dŵr cyffredin yng Nghwmaman sy'n tarddu o amgylch Gogledd Heol Glanaman a thua'r gorllewin o Briffordd Brynhyfryd. (OSGR 299623, 199556).
Natur a maint y gwaith gwella: Yr holl waith parhaol a'r gwaith dros dro sy'n gysylltiedig â'r canlynol:
- Gwaith i gynyddu uchder sianeli arferol y cwrs dŵr
- Adfer pob ardal y mae'r gwaith uchod yn effeithio arno.
Rhan II – Gwybodaeth ychwanegol
Mae lleoliadau'r gwaith arfaethedig i'w gweld ar Luniau Rhifau: