Skip to main content

Cynllun Lliniaru Llifogydd Rhydfelen

Mae tua 300 o dai yn ardal Rhydfelen ar eu hennill yn sgil cynllun sydd wedi cyfrannu at eu diogelu rhag llifogydd.

Mae dros £3 miliwn wedi cael ei wario yn yr ardal ac mae hynny wedi darparu diogelwch rhag llifogydd i tua 280 eiddo preswyl, Ysgol Gynradd Heol y Celyn, yn ogystal â ffyrdd lleol a llwybr seiclo Taith Taf.

Diolch i gymorth Grant Rheoli Perygl Llifogydd gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chyngor Rhondda Cynon Taf, mae'r cynllun wedi datrys hen broblem y llifogydd dŵr wyneb yn ardal Ystad Fferm Glyn-taf a Sycamore Street yn Rhydfelen. Ers 1993, mae tua 100 o gartrefi wedi cael eu heffeithio gan lifogydd ar sawl achlysur ac mae llawer yn rhagor ohonyn nhw wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol.

Mae'r cynllun wedi defnyddio technegau draenio cynaliadwy, gan gynnwys pyllau wyneb, addasu neu adnewyddu ceuffosydd, systemau gorlifo, sianeli llifddwr a storfeydd/pibellau ar gyfer dŵr storm. Yn ogystal â'r gwaith ffisegol, mae ymgyrch wedi cael ei chyflwyno er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â llifogydd ac mae cysylltiadau wedi'u meithrin â'r gymuned.

Cododd cyfle unigryw i ystafelloedd newid y clwb pêl-droed lleol gael eu defnyddio'n swyddfeydd safle a chawson nhw eu hadnewyddu heb gost ychwanegol i'r prosiect. O ganlyniad, manteisiodd y gymuned ar hynny yn ogystal ag ar y prosiect ei hun.

Mae'r perygl o lifogydd lleol yn parhau ers i'r prosiect ddod i ben ac mae'r garfan Rheoli Perygl Llifogydd yn parhau i weithio gyda'n partneriaid yn y gymuned, Cymdeithas Tai Newydd, Cartrefi RhCT ac adrannau Rheoli Gwastraff a Gofal y Strydoedd y Cyngor i leihau'r perygl yma.

 Serch hynny, mae'r perygl o lifogydd yn cynyddu'n sylweddol lle mae sbwriel yn cael ei adael yn anghyfreithlon mewn nentydd a cheuffosydd ac o'u cwmpas. O'r herwydd, rydyn ni'n gofyn i'r cyhoedd ddefnyddio dulliau swyddogol a chyfreithiol o gael gwared â sbwriel yn unig.