Ac yntau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA), bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT), yn cychwyn Cynllun Lliniaru Llifogydd yn yr ardal o amgylch Treorci. Bwriad y gwaith yw gwella cyflwr adeileddol rhwydweithiau cwlferi o dan y ddaear, hwyluso gwelliannau i'r cwlfer a'r sianeli cysylltiol yn Nhreorci. Bydd hyn yn lleihau'r posibilrwydd o fethiant strwythurol o fewn y rhwydweithiau cwlferi yn y tymor byr wrth wella effeithlonrwydd hydrolig y cilfachau/sianeli cwlfer. Bydd y gwelliannau yma'n lleihau'r perygl o lifogydd glaw mewn ardal lle yr ystyrir bod risg uchel o lifogydd.
Mae'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yn gweithredu yn unol ag amcan y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol er mwyn lleihau'r goblygiadau sy'n gysylltiedig â llifogydd. Cafodd y strategaeth ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2013 yn unol ag Adran 10 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae amcan y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn cydfynd â'r 5 amcan cenedlaethol sydd wedi'u nodi yn y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ac Erydu Arfordirol.
Bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei gynnal o gwmpas Dwyrain y fynwent, Ffordd y Fynwent, sydd o fewn Ward Etholiadol Treorci a nodir mai dyma’r ward risg uchaf o lifogydd yng Nghynllun Rheoli Risg Llifogydd (FRMP) RhCT. Mae’r gwaith arfaethedig yn dod o fewn Cymuned Treorci, fel y nodwyd gan y gofrestr cymunedau mewn perygl (CaRR), a chaiff yr ardal hon ei nodi ar safle 3 yng Nghymru ar gyfer perygl llifogydd dŵr wyneb.
Disgrifiad o'r Gwaith
Mae ardal Treorci wedi bod yn destun sawl digwyddiad o lifogydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Y digwyddiad mwyaf arwyddocaol oedd llifogydd ar 15 ac 16 Chwefror 2020 yn dilyn Storm Dennis, lle aeth dŵr i mewn i 42 eiddo gyda nifer o eiddo arall yn dioddef llifogydd allanol.
Mae RhCT wedi ymateb i'r llifogydd yma trwy gynnig gwneud gwaith gwella draenio tir i wella cyflwr adeileddol rhwydweithiau cwlferi o dan y ddaear, hwyluso gwelliannau i'r cwlfer a'r sianeli cysylltiol yn Nhreorci. Bydd hyn yn lleihau'r posibilrwydd o fethiant strwythurol o fewn y rhwydweithiau cwlferi yn y tymor byr wrth wella effeithlonrwydd hydrolig y cilfachau/sianeli cwlfer. Bydd y gwelliannau yma'n lleihau'r perygl o lifogydd glaw mewn ardal lle yr ystyrir bod risg uchel o lifogydd.
Yn rhan o'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol y Cyngor, byddwn ni'n ymdrechu i fodloni'r amcanion canlynol.
1
|
Lleihau'r boblogaeth sy'n cael ei heffeithio gan beryglon o lifogydd.
|
2
|
Lleihau aflonyddwch o fewn y gymuned drwy leihau nifer yr adeiladau preswyl a masnachol sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd.
|
3
|
Lleihau peryg bywyd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd dwfn a chyflym.
|
4
|
Lleihau aflonyddwch i seilwaith critigol neu gefnogi paratoi cynlluniau i ganiatáu cynnal eu gweithrediad.
|
5
|
Gwella/peidio ag effeithio ansawdd y dŵr.
|
7
|
Sicrhau bod prosiectau'n cael eu cynllunio mewn ffordd gynaliadwy.
|
11
|
Gwella dealltwriaeth o beryglon llifogydd dŵr ffo, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin a chynllunio sut i rannu gwybodaeth â chymunedau a busnesau ynglŷn â phob math o lifogydd.
|
Mae'r cynllun hefyd yn bwriadu cynnig nifer o fanteision yn rhan o 'Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru'.
- Cymru iachach – Bydd y gwaith yma'n cefnogi lliniaru llifogydd yn uniongyrchol i oddeutu 92 eiddo ac yn fuddiol i 211 o drigolion (rydyn ni'n cymryd yn ganiataol bod 2.3 o breswylwyr fesul cartref yn genedlaethol) a fyddai, yn ei dro, yn gwella lles meddyliol ac iechyd y gymuned leol.
- Cymru gydnerth – Fel sefydliad, mae diogelwch ein cymunedau yn bwysig iawn inni, a bydd y gwaith yma'n lleihau'r risg o lifogydd yn sylweddol i drigolion yn ardal Treorci.
- Cymru sy'n fwy cyfartal – Bydd y gwaith yma er budd pob rhan o'r gymdeithas. Bydd cyfle i bawb gyflawni eu potensial trwy leihau'r tebygolrwydd o lifogydd a sicrhau gwytnwch tymor hir i'r gymuned leol.
- Cymru o Gymunedau Cydlynys – Mae cysylltedd yn hollbwysig a bydd y gwaith yma'n caniatáu inni gynnal llwybrau sylweddol bwysig y gymuned. A ninnau'n sefydliad, mae diogelwch ein cymunedau yn bwysig iawn inni a bydd y gwaith yma hefyd yn lleihau'r risg i gymudwyr, i'r rheiny sy'n mynd i ysgolion a busnesau lleol yn sylweddol.
Hysbysiad o Fwriad i ddechrau gwaith gwella draenio'r tir
Mae'r cynllun lliniaru llifogydd wedi'i nodi yn gynllun datblygu a ganiateir o dan Rhan 14 (Datblygu gan Gyrff Draenio) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Fel y cyfryw, mae'r cyngor yn cynnal proses ymgynghori o dan Reoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999 a 2006. Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 20 Ionawr 2022 a 21 Chwefror 2022.
Dydy'r Cyngor ddim yn bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas â'r gwaith gwella arfaethedig. Gan gyfeirio at Atodlen 2 o Reoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999, yn ogystal â nodweddion y gwaith gwella, lleoliad y gwaith gwella a math a nodweddion yr effaith bosibl, ni fydd y gwaith yn cael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd.
Mae manylion disgrifiad y gwaith uchod a dyma grynhoi'r cynlluniau:
- Gwaith i wella cyflwr cwlferi cyrsiau dŵr cyffredin yn strwythurol;
- Gosod gwell strwythur mewnfa ac allfa i'r cwlfer;
- Gwaith i wella cyflwr rhannau sgwriedig y sianel cwrs dŵr arferol yn strwythurol;
- Creu trac mynediad diwygiedig o amgylch y cilfachau cwlfer i hwyluso gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol;
- Adfer pob ardal y mae'r gwaith uchod yn effeithio arno.
Os yw rhywun yn dymuno gwneud sylwadau ysgrifenedig am effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig, mae modd iddo wneud hynny drwy eu hanfon at y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng-flaen yn Nhŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU o fewn 30 diwrnod ar ôl dyddiad yr Hysbysiad yma neu drwy anfon e-bost i RheoliPeryglLlifogydd@rhondda-cynon-taf.gov.uk.
Mae modd cael rhagor o wybodaeth ynghylch y gwaith gwella gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng-flaen yn Nhŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU trwy e-bostio
RheoliPeryglLlifogydd@rhondda-cynon-taf.gov.uk. Mae cynllun cyffredinol wedi'i ddarparu isod.