Bwriad Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 yw troi'r Gyfarwyddeb Llifogydd (Cyfarwyddeb 2007/60/EC ynglŷn ag asesu a rheoli perygl llifogydd) yn gyfraith ddomestig yng Nghymru a Lloegr, ac i roi ei gofynion ar waith.
O dan y ddeddfwriaeth yma, mae pob Awdurdod Unedol yng Nghymru yn cael ei benodi yn Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA). Yn sgil hyn, maen nhw hefyd wedi cael, yn ffurfiol, nifer o gyfrifoldebau allweddol o ran rheoli perygl llifogydd lleol.
Mae'n rhoi dyletswydd ar Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol i baratoi nifer o ddogfennau, gan gynnwys:
- Asesiadau Cychwynnol o'r Bygythiad Llifogydd:
- Mapiau perygl llifogydd a mapiau risg llifogydd:
- Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd
Mae'r tabl canlynol yn dangos yr elfennau gwaith sy'n ofynnol gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, ac yntau'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol o dan Reoliadau Perygl Llifogydd 2009, ynghyd â'u hamserlenni priodol. Mae'r ddwy elfen gyntaf, Cam 1, yn cael eu cynnwys yng ngwaith paratoi’r Adroddiad ar gyfer yr Asesiad Cychwynnol o'r Bygythiad Llifogydd (PFRA).
Elfennau gwaith sy'n ofynnol o dan Reoliadau Perygl Llifogydd 2009
Elements of work required under Flood Risk Regulations 2009
Dyddiad Darparu
| Eitem i'w darparu | Sylwadau ac Eitemau sydd wedi'u darparu |
Cam 1 |
22 Mehefin 2011
|
Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol i baratoi Adroddiad ar gyfer Asesiad Cychwynnol o'r Bygythiad Llifogydd (PFRA)
|
Mae'r PFRA yn ymarfer sgrinio lefel uwch sy'n dod o hyd i fannau lle mae perygl sylweddol o ddŵr wyneb a dŵr daear, a bod eisiau archwiliad pellach drwy baratoi mapiau a chynlluniau rheoli.
Dylai'r PFRA ganolbwyntio ar beryglon llifogydd lleol, dŵr wyneb, dŵr daear, cyrsiau dŵr cyffredin a chamlesi.
|
22 Mehefin 2011
|
LLFA, ar sail y PFRA, i adnabod Ardaloedd Perygl Llifogydd
|
Mae Ardaloedd Perygl Llifogydd yn ardaloedd sy'n peri perygl sylweddol ar sail canfyddiadau'r PFRA, meini prawf Gweinidog Cymru a chanllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd.
|
22 Rhagfyr 2011
|
Adroddiadau PFRA wedi'u hadolygu gan Asiantaeth yr Amgylchedd a'u cyhoeddi
|
Cyngor RhCT wedi adolygu a chymeradwyo'r PFRA
Bwriwch olwg dros yr Asesiad Cychwynnol o'r Bygythiad Llifogydd (pdf)
|
Cam 2 |
22 Mehefin 2013
|
LLFA i baratoi Mapiau Risg Llifogydd a Mapiau Perygl Llifogydd ar gyfer ardaloedd lle mae perygl o lifogydd.
|
Cael eu defnyddio i nodi lefel y perygl a’r risg ym mhob ardal lle mae perygl o lifogydd, er mwyn llywio Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd.
|
22 Rhagfyr 2013
|
Mapiau i gael eu hadolygu gan Asiantaeth yr Amgylchedd a'u cyhoeddi
|
|
Cam 3 |
22 Mehefin 2015
|
LLFA i baratoi Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd ar gyfer ardaloedd lle mae perygl o lifogydd.
|
Cynlluniau sy'n nodi amcanion a strategaethau rheoli llifogydd ar gyfer ardaloedd lle mae perygl o lifogydd.
|
22 Rhagfyr 2015
|
Cynlluniau i gael eu hadolygu gan Asiantaeth yr Amgylchedd a'u cyhoeddi
|
Bwriwch olwg ar y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd (pdf) , Atodiadau’r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd (pdf) ac Adroddiad Ymgynghori’r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd(pdf)
|
Cam 4 |
22 Rhagfyr 2017
|
Atodiad ar gyfer yr asesiad perygl llifogydd rhagarweiniol: adolygiad cylch 1. |
Gweld yr asesiad p erygl llifogydd rhagarweiniol-ychwanegiad |