Mae ein hinsawdd yn newid. Mae daroganwyr yn awgrymu y byddwn ni’n gweld lefelau môr uwch, rhagor o law a rhagor o lifogydd rheolaidd. Bydd rhagor ohonon ni’n cael ein heffeithio gan lifogydd. Bydd canlyniadau'r llifogydd hynny'n fwy o berygl i fywydau, yr economi a'r amgylchedd.
Mae ail gam yr ymgynghoriad ar ddraft Strategaeth a Chynllun Gweithredu y Cyngor ar Reoli Perygl Llifogydd Lleol ar y gweill. Bydd yr ymgynghoriad yn galluogi preswylwyr, gweithwyr CBSRhCT, partneriaid risg ac awdurdodau cyfagos i weld y Strategaeth ddrafft a rhoi adborth i lywio’r fersiwn derfynol.
Bydd yr ymgynghoriad yma’n para 6 wythnos rhwng 21 Awst I 2 Hydref 2023.
Dydy hi ddim yn bosibl atal llifogydd, sy'n broses naturiol a fydd yn digwydd er gwaethaf gweithredu gan ddyn. Serch hynny, gallwn ni gymryd camau i reoli'r peryglon o'u herwydd a lleihau eu hamlder a'u canlyniadau.
Cafodd Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 ei chyflwyno yn dilyn adolygiad o’r llifogydd a ddigwyddodd ledled y DU yn 2007. Bwriad y Ddeddf yw rheoli perygl llifogydd ar gyfer pobl, cartrefi a busnesau mewn modd mwy cynhwysfawr.
O dan y ddeddfwriaeth yma, daeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) ac mae dyletswydd arno i ddatblygu, cynnal, cymhwyso a monitro strategaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol (Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol). Wrth ddatblygu’r Strategaeth Leol, bydd yr Awdurdod yn cydbwyso anghenion y cymunedau, yr economi a’r amgylchedd.
Bydd y strategaeth leol yn mynd i'r afael â pherygl llifogydd lleol yn unig. Diffiniad llifogydd lleol yn ôl y ddeddf yw:
- dŵr ffo arwynebol
- dŵr daear
- cyrsiau dŵr arferol
Bydd y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn rhan o'r fframwaith lle bydd cymunedau yn cael rhagor o gyfle i ddweud eu dweud mewn penderfyniadau rheoli risg lleol. Ar y cyd â'r Strategaeth Genedlaethol, bydd y Strategaethau Lleol yn annog dulliau rheoli perygl mwy effeithiol drwy alluogi pobl, cymunedau, busnesau a'r sector cyhoeddus i weithio gyda'i gilydd i wneud yr isod:
-
sicrhau dealltwriaeth glir o beryglon llifogydd ac erydu, yn genedlaethol ac yn lleol, fel y bydd modd blaenoriaethu buddsoddiad mewn rheoli risg yn fwy effeithiol;
-
pennu cynlluniau clir a chyson ar gyfer rheoli risg fel y gall cymunedau a busnesau wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch rheoli perygl gweddillol;
-
annog dulliau blaengar o fynd ati i reoli perygl llifogydd, gan ystyried anghenion y cymunedau a'r amgylchedd;
-
ffurfio cysylltiadau rhwng y strategaeth rheoli perygl llifogydd a chynllunio gofodol lleol;
-
sicrhau bod cynlluniau ac ymateb brys i lifogydd yn effeithiol a bod cymunedau'n gallu ymateb yn gywir i rybuddion am lifogydd;
-
helpu cymunedau i adfer yn fwy cyflym ac effeithiol ar ôl llifogydd.
Bydd yn gwneud hyn drwy fod yn sail dystiolaeth ar gyfer y penderfyniadau a'r gweithredoedd hanfodol ar gyfer rheoli perygl llifogydd. Caiff y Strategaeth Leol a chynlluniau a pholisïau’r dyfodol eu datblygu gyda chymunedau i sicrhau gwell dealltwriaeth o ddulliau rheoli perygl lleol, cynllunio cydlynol a chynaladwyedd. Bydd hefyd yn pwysleisio'r angen i gydbwyso gweithgareddau cenedlaethol a lleol ac arian.
Mae’r strategaeth yn nodi’n fanwl y nodau a’r mesurau sydd wedi’u datblygu, ar lefel uchel, ynglŷn â sut mae’r Awdurdod yn bwriadu rheoli perygl llifogydd drwy gydol cyfnod y strategaeth benodol yma a mabwysiadu dull cyfannol o reoli perygl llifogydd.
Cyhoeddwyd Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol bresennol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn 2013. Mae crynodeb o’r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Pe hoffech chi weld unrhyw un o’r dogfennau cysylltiedig neu gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r garfan rheoli perygl llifogydd drwy anfon e-bost: RheoliPeryglLlifogydd@rctcbc.gov.uk neu drwy anfon llythyr:
Carfan Rheoli Perygl Llifogydd a Thipio
Prosiectau Strategol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Sardis
Heol Sardis
Pontypridd
CF37 1DU