Skip to main content

Cynlluniau Llwybrau Diogel yn y Gymuned

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, caiff Cyngor Rhondda Cynon Taf ei wahodd i gyflwyno ceisiadau am gynllun Llwybrau Diogel yn y Gymuned i Lywodraeth Cymru.

Nod pennaf y cynllun Llwybrau Diogel yn y Gymuned yw annog rhagor o bobl i deithio mewn modd cynaliadwy, yn ogystal â gwella diogelwch ar y ffyrdd yn y gymuned ehangach, gan ganolbwyntio ar ardaloedd ag ysgolion.

Does dim modd gwarantu y bydd cyllid Llwybrau Diogel yn y Gymuned ar gael y flwyddyn ariannol nesaf, fodd bynnag, mae'r Cyngor wrthi'n paratoi rhaglen o gynlluniau fel byddai modd inni gyflwyno ceisiadau, pe baen ni'n cael ein gwahodd i wneud hynny. Hoffai'r Cyngor achub ar y cyfle yma i wahodd Cynghorau a Grwpiau Cymuned i gyflwyno cais ar gyfer y cynllun a ffurflen asesu os ydyn nhw o'r farn bod gofyniad i ddatblygu cynllun fydd yn annog rhagor o bobl i deithio mewn modd cynaliadwy, megis beicio, cerdded neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Ydych chi eisiau bod yn rhan o'r cynllun yma a/neu gael eich ystyried ar gyfer cynigion ariannu yn y dyfodol i weithredu cynllun gwelliannau yn eich cymuned? Os felly, cwblhewch y cais ar gyfer y cynllun a ffurflen asesu a'u dychwelyd yn unol â'r canllawiau wedi'u hatodi. 

Sicrhewch eich bod chi'n darllen y llythyr Mynegiant o Ddiddordeb sydd wedi'i atodi, gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig ynglŷn â'r broses cyflwyno cais am gynllun Llwybrau Diogel yn y Gymuned i Lywodraeth Cymru. 

Rydw i hefyd wedi atodi llyfryn sy'n esbonio sut bydd eich gwybodaeth bersonol chi'n cael ei defnyddio ar gyfer prosesau gweinyddu'r broses cyflwyno cais am gyllid Llwybrau Diogel yn y Gymuned yn rhan o'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn dydd Llun 17 Gorffennaf 2023 trwy e bostio StrategaethTrafnidiaeth@rhondda-cynon-taf.gov.uk neu drwy anfon y dogfennau i: Uned Strategaeth Trafnidiaeth, Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU.