Bydd disgwyl i wirfoddolwyr Mabwysiadu Llwybr gerdded ar hyd eu llwybr o leiaf ddwywaith y flwyddyn, ac yna anfon ffurflen adborth am ei gyflwr a pha mor hawdd y mae i'w ddefnyddio.
Cyflwyno’ch Arolwg Cyflwr Llwybr
Os ydych chi eisiau rhoi gwybod am unrhyw fater, a dydych chi ddim yn rhan o’r cynllun, anfonwch e-bost i: gwasanaethauigwsmeriaid@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Bydd yr wybodaeth rydych chi’n ei darparu yn helpu’r Cyngor i gadw’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus mewn cyflwr da i bawb eu mwynhau. Does dim rhaid i wirfoddolwyr gysylltu â pherchenogion tir neu wneud unrhyw waith ymarferol ar y llwybr.
Nodwch, dydyn ni ddim yn prosesu ceisiadau i ymuno â'r cynllun ar hyn o bryd. Byddwn ni’n diweddaru'r dudalen we yma pan fyddwn ni’n chwilio am wirfoddolwyr newydd.
Pe hoffech chi wybod rhagor am y cynllun Mabwysiadu Llwybr, cysylltwch â ni:
E-bost – parciaucefngwlad@rctcbc.gov.uk
Post:
Lôn Coed Cae
Pont-y-clun
CF72 9DX
Rhif Ffôn: 01443 425001