Mae digonedd o gefn gwlad i’w fwynhau yn Rhondda Cynon Taf – mae tua 80% o’r fwrdeistref yn ardal wledig.
Mae modd i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd fwynhau'r golygfeydd anhygoel ac amrywiol - o’r tirweddau garw a dramatig yn sgîl cloddio yng Nghwm Rhondda i fryniau gleision Taf Elái a rhostiroedd Cwm Cynon.
Fforwm Mynediad Lleol
Mae'r Cyngor newydd ailsefydlu Fforwm Mynediad Lleol (FfMLl) statudol. Mae hyn yn ofynnol yn unol â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
Daeth pumed tymor y Fforwm Mynediad Lleol i ben ym mis Ionawr 2022.
Pwrpas y Fforwm yw rhoi cyngor i'r Cyngor, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a chyrff eraill sy'n gweithredu o dan Ran I o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Bydd y cyngor mewn perthynas â gwella mynediad cyhoeddus at dir yn y Cyngor ar gyfer gweithgareddau hamdden awyr agored a mwynhau’r ardal, ynghyd ag unrhyw faterion perthnasol eraill. Yn unol â'r gyfraith, mae rhaid i'r cyrff hyn ystyried y cyngor sy'n cael ei roi gan y Fforwm.
Mae Rheoliadau yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Fforwm gwrdd o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Ond, rydyn ni'n rhagweld y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn fwy aml, pan fo'n gyfleus i aelodau'r Fforwm, ynghyd â lleoliad sy'n gyfleus.
Meysydd Gwaith
Bydd y Fforwm Mynediad Lleol (FfMLl) yn rhoi cyngor ynghylch agweddau ar fynediad cyhoeddus yn RhCT, gan gynnwys hawliau tramwy cyhoeddus a'r hawl mynediad newydd i gefn gwlad agored a thir comin cofrestredig. Bydd y Fforwm yn ystyried pob math o fynediad, gan gynnwys marchogaeth, beicio a gyrru oddi ar y ffordd, nid mynediad ar droed yn unig.
Yn ogystal â hynny, mae'r Fforwm yn cynorthwyo gyda gweithredu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Cyflwynwch gais i ymuno
Mae'r Cyngor yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â chweched tymor y Fforwm.
Anfonwch y cais trwy e-bost: FfMLl@rctcbc.gov.uk
Anfonwch y cais trwy'r post:
Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Adran y Cefn Gwlad
Uned 7E Parc Busnes Hepworth
Lôn Coedcae
Pont-y-clun
CF72 9DX
Adroddiadau Blynyddol
FFORWM MYNEDIAD LLEOL Adroddiad blynyddol 2018
Mynediad Agored
Yn sgil Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 mae hawliau newydd i bobl sy’n mynd ar droed i dir agored neu dir comin, ac mae’r ddeddf hefyd yn gwella’r cyfreithiau hawl dramwy gyhoeddus. Bydd pobl yn cael mynd i ardaloedd gwledig sydd ar fapiau fel tir agored, sef tir sy’n cael ei ddiffinio fel mynydd, rhostir, rhosydd, tir comin a thir sy’n cael ei alw’n dir mynediad gan y perchennog.
Mae’r tir mynediad agored newydd yn golygu bod rhagor o gefn gwlad ar gael ar gyfer cerdded, rhedeg, dringo, gwylio adar a chael picnic. Mae rhai cyfyngiadau ar dir mynediad, er enghraifft, does dim hawl defnyddio beiciau arferol neu gerbydau modur ar y tir mynediad newydd.
Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 hefyd yn rhoi’r cyfle i berchnogion tir neilltuo ardaloedd penodol o’u tir yn dir mynediad. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi neilltuo pob coedwig y mae’n berchen arni yn dir mynediad, ond mae rhai coedwigoedd ar dir wedi’u rhentu sydd ddim yn dir mynediad.
Agorodd y tir mynediad agored ym mis Mai 2005. Mae modd dod o hyd i dir mynediad agored drwy e-bostio:cefngwlad@rctcbc.gov.uk neu ewch ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru https://naturalresources.wales
Arwyddion Mynediad
Mae'r arwyddion mynediad yma'n dangos ble bydd tir;
Access Signs
mynediad yn dechrau....
|
 |
ac yn gorffen.... |
 |