Mae'r Cyngor yn rheoli tua 750 cilometr o hawliau tramwy cyhoeddus. Mae'r rhwydwaith yn darparu cysylltiadau rhwng y cefn gwlad a threfi/pentrefi, ac yn galluogi'r cyhoedd i archwilio'u cefn gwlad a'u treftadaeth leol.
Beth yw Hawl Tramwy Cyhoeddus?
Hawl tramwy cyhoeddus yw llwybr sydd wedi'i gofrestru ar y Map Diffiniol o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Mae yna lwybrau mewn trefi, mewn pentrefi ac yn y cefn gwlad. Serch hynny, ddylai llwybrau troed ddim cael eu cymysgu â llwybrau troed y priffyrdd, hynny yw, palmentydd ar ochr y ffordd.
Llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd yw Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Mae'r Cyngor yn gwneud ei orau er mwyn sicrhau bod hawliau tramwy cyhoeddus wedi'u harwyddbostio'n glir oddi ar y ffyrdd a bod marciau ar hyd y llwybrau.
Yn ogystal â hyn, mae yna lwybrau cyhoeddus caniataol o fewn y Fwrdeistref. Mae perchenogion y tir yma, ar y cyd â'r Cyngor, wedi rhoi caniatâd i aelodau'r cyhoedd gerdded ar draws y tir. Dydy'r llwybrau yma ddim wedi'u cofnodi ar y Map Diffiniol.
Pa gyfrifoldebau sydd gan y Cyngor?
Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed er mwyn cynnal a chadw rhwydwaith yr hawliau tramwy cyhoeddus gan gynnal partneriaethau cynnal gyda chynghorau tref a phlwyf. Er mwyn cynnal rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus, rydyn ni'n cyflawni'r tasgau isod:
- gosod arwyddion ble mae llwybrau yn gadael ffordd fetel
- gosod arwyddion ar lwybrau sydd ddim yn glir
- cynnal arwyneb y llwybr ar gyfer cerddwyr a cheffylau (ble y bo'n addas)
- torri a chlirio llystyfiant
- gosod a chynnal pontydd
- cyflawni gwaith draenio
Mae perchenogion a meddianwyr tir yn gyfrifol am reoli llystyfiant er mwyn sicrhau bod y llwybr yn glir ar gyfer y cyhoedd. Mae gan berchenogion tir ddyletswydd i sicrhau bod camfeydd a gatiau ar lwybrau troed a llwybrau ceffylau mewn cyflwr da.
Canllawiau ar gyfer y rheiny sy'n defnyddio llwybrau cyhoeddus yn ystod tywydd garw neu ar ôl hynny
Mae'r rhwydwaith llwybrau cyhoeddus yn cynnwys llwybrau, llwybrau ceffylau a chilffyrdd. Mae ansawdd wynebau'r llwybrau yma yn amrywio yn ôl eu defnydd. Er enghraifft, dylai arwyneb y llwybr troed bod yn addas er mwyn i'r cyhoedd ddefnyddio'r hawl tramwy. Bydd gan rai llwybrau arwyneb naturiol; bydd cyflwr y llwybr yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys lleoliad, amodau tywydd a'r tymhorau. Bydd yr un peth yn wir am lwybrau lled-drefol, a allai fod â wyneb tarmac neu garreg.
Mae pawb sy'n defnyddio llwybr cyhoeddus yn gyfrifol am gymryd y camau gofal angenrheidiol ymlaen llaw cyn eu defnyddio. O ganlyniad i hynny, dylai'r defnyddiwr asesu cyflwr cyffredinol y llwybr, cymryd gofal priodol a bod yn barod i ddefnyddio llwybr arall yn ôl yr angen. Yn ogystal â hynny, dylai'r defnyddiwr wisgo dillad ac esgidiau addas, gan ddibynnu ar y tywydd. Efallai y bydd dillad sy'n gwrthsefyll dŵr, esgidiau glaw (wellingtons) a/neu ddillad cynnes ychwanegol yn briodol.
Dylai'r defnyddiwr gymryd gofal arbennig yn ystod tywydd garw neu ar ôl tywydd garw, e.e. cyfnodau o law anarferol o drwm sy'n peri i rai wynebu fynd yn llithrig a/neu'n wlyb gan ddibynnu ar y tir.
Gorchmynion Addasu'r Map Diffiniol
Yn rhan o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, mae modd i unrhyw berson sydd eisiau hawlio hawl tramwy cyhoeddus newydd, neu addasu neu ddileu hawl tramwy cyfredol wneud cais am Orchymyn Addasu. Mae modd i chi edrych ar gofrestr y Ceisiadau Gorchymyn Addasu y Map Diffiniol ar-lein.
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (ROWIP) 'Llwybrau'r Fro 2'
Mae Cynllun 'Llwybrau'r Fro Dau' wedi cael ei lunio yn unol â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ac mae'n ystyried canllawiau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi.
Mae'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yn ddogfen strategol 10 mlynedd sy'n nodi sut mae'r Cyngor yn bwriadu gweithio gydag eraill i helpu i reoli a gwella rhwydwaith Hawliau Tramwy RhCT er mwyn ei wneud yn fwy defnyddiol i'r cyhoedd.
Llwybrau'r Fro Dau: Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Rhondda Cynon Taf 2019-2029
Rhoi gwybod am broblem
Rhoi gwybod am broblem sy'n ymwneud â Hawl Tramwy Cyhoeddus ar-lein
Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Uned 7c Parc Busnes Hepworth
Lon Coedcae
Pontyclun
CF72 9DX
Tel: 01443 425 001