Mae'n ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn ôl y gyfraith, baratoi a chynnal Cynllun Datblygu Lleol. Cafodd y Cynllun Datblygu Lleol presennol (2006-2021) ei fabwysiadu yn 2011 ac roedd yn destun Adolygiad llawn yn 2019. Daeth canlyniadau'r Adroddiad Adolygu cysylltiedig i gasgliad y dylai'r Cyngor ddechrau Adolygiad llawn o'r Cynllun Datblygu Lleol.
Cam allweddol cyntaf y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLlD) yw ysgrifennu Cytundeb Cyflawni ar gyfer ei baratoi. Mae'r Cytundeb Cyflawni wedi'i rannu'n ddwy ran allweddol:
- Yr Amserlen ar gyfer rheoli prosiect y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig, nodi camau statudol y broses creu cynlluniau a phan fyddwn ni wedi ymrwymo iddyn nhw gael eu cynnal. Mae hyn hefyd yn pennu ac yn dangos argaeledd adnoddau cyllidebol a staff angenrheidiol sydd eu hangen i baratoi'r cynllun.
- Mae'r Cynllun Cyfranogiad Cymunedol yn nodi egwyddorion, strategaeth a mecanweithiau ar gyfer cyfranogiad cynnar, parhaus ac eang gan randdeiliaid wrth baratoi'r CDLlD. Mae'r Cynllun Cyfranogiad Cymunedol yn dangos sut, pwy a phryd y bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ceisio cyfranogiad ac ymgysylltiad y rhanddeiliaid yma. Bydd hyn yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, y cyhoedd, grwpiau cymunedol, datblygwyr masnachol, cyrff cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau.
Ym mis Mawrth/Ebrill 2022, cymeradwyodd y Cyngor a Llywodraeth, Gytundeb Cyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2022-2037 gyda dyddiad dechrau Ebrill 2022. Ym mis Gorffennaf 2023, cymeradwywyd gwelliant i'r DA a'i amserlen. Mae Amserlen newydd y DA yn nodi amserlen ar gyfer cwblhau'r CDLl Diwygiedig hyd at ei fabwysiadu ym mis Mai 2026, fel a ganlyn.
Cam Allweddol
|
Dyddiad
|
Paratoi Cam Cyn-adneuo'r CDLl Diwygiedig gan gynnwys y Strategaeth a Ffefrir
|
O Ebrill 2022
|
Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir
|
Ionawr/Chwefror 2024
|
Paratoi'r CDLl Adneuo Diwygiedig
|
Mawrth 2024
|
Ymgynghoriad ar y CDLl Adneuo Diwygiedig
|
Ionawr/Chwefror 2025
|
Gosod y CDLl Diwygiedig ger bron Llywodraeth Cymru
|
Mehefin 2025
|
Archwiliad Annibynnol
|
Tachwedd/Rhagfyr 2025
|
Mabwysiadu
|
Mai 2026
|
Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig, cysylltwch â'r Garfan Polisi Cynllunio trwy ddefnyddio'r manylion isod. Byddai'n well pe bai modd i chi gysylltu trwy e-bost;
Mae'r garfan yn gweithio o'r cyfeiriad canlynol er bod aelodau'r garfan yn gweithio gartref ar hyn o bryd (Medi 2020). Mae'n bosibl y bydd peth oedi wrth gyfathrebu trwy'r post.
Os hoffech weld copi caled o'r ddogfen, mae hwn ar gael i'w weld yn ein llyfrgelloedd a chanolfannau Un Bob Un. Mae copi o'r ddogfen hefyd ar gael i'w harchwilio yn ein prif swyddfa yn Ty Sardis, Pontypridd yn ystod oriau swyddfa arferol, yn amodol ar apwyntiad ymlaen llaw.
Carfan Polisi Cynllunio
Llawr 2
Tŷ Sardis
Heol Sardis
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF37 1DU.
Ffon: 01443 281129