Mae'n ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn ôl y gyfraith, baratoi a chynnal Cynllun Datblygu Lleol. Cafodd ei Gynllun Datblygu Lleol presennol (2006-2021) ei fabwysiadu yn 2011. Mae Cynllun Datblygu Lleol yn rhoi strategaeth defnydd tir a datblygiad cyffredinol i'r Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â fframwaith polisi a dyraniadau sy'n benodol i safle ar gyfer ystod o fathau datblygu. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol, ochr yn ochr â Chynlluniau a Pholisi Cenedlaethol, yn llywio penderfyniadau ar geisiadau cynllunio yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd Adolygiad ffurfiol o'r Cynllun Datblygu Lleol presennol ei ystyried yn angenrheidiol yn 2019. Mae'n bosibl y bydd canlyniadau ac ystyriaethau hyn i'w gweld yn Adroddiad Adolygu CynllunDatblygu Lleol (2006-2011), wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor Tachwedd 2019. Prif gasgliad yr Adroddiad Adolygu oedd ei bod hi'n angenrheidiol i ddechrau paratoi Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig llawn ar gyfer 2020-2030.
Wedyn, cafodd Cytundeb Cyflawni ei baratoi gan nodi amserlen ar gyfer paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig. Cafodd y Gytundeb Cyflawni eu gymeradwyo gan y Cyngor ym mis Gorffenaf ac gan Lywodraeth Cymru ar 14ed Medi 2020. Mae’r amserlen yn gosod allan yr holl gamau ffurfiol angenrheidiol fel a ganlyn;
Cam Allweddol | Amserlen |
Pendant
|
|
Cytundeb Cyflawni
|
Cyflwyno i Lywodraeth Cymru – Awst 2020
|
Dechrau gwaith paratoi cyn-adneuo
|
Medi 2020
|
Ymgynghoriad (Cyn-adneuo) Strategaeth a Ffefrir
|
Tachwedd/Rhagfyr 2021
|
Ymgynghoriad y Cynllun Datblygu Lleol Adnau
|
Hydref/Tachwedd 2022
|
Mynegol
|
|
Cyflwyno'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig i Lywodraeth Cymru
|
Ebrill 2023
|
Archwiliad Annibynnol
|
Awst/Medi 2023
|
Mabwysiadu
|
Mawrth 2024
|
Mae'r Cytundeb Cyflawni hefyd yn nodi Cynllun Cyfranogiad Cymunedol manwl. Mae'r Cynllun Cyfranogiad Cymunedol yn nodi egwyddorion, strategaeth a mecanweithiau'r Awdurdod Lleol ar gyfer cyfranogiad cynnar, parhaus ac eang gan randdeiliaid wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig. Bydd hyn yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, y cyhoedd, grwpiau cymunedol, datblygwyr masnachol, cyrff cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau.
Ar ôl y broses baratoi gynhwysfawr yma, bwriedir y bydd strategaeth ddiwygiedig, cyfres o bolisïau a dyraniadau i ffurfio'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig terfynol. Bydd hyn yn cynnwys ystod o feysydd datblygu a mynd i'r afael â materion sy'n benodol i Rondda Cynon Taf. Disgwylir y byddai'r polisïau a dyraniadau safle yma yn gysylltiedig â thai, datblygiadau masnachol a diwydiannol, ochr yn ochr â thwristiaeth, priffyrdd, mwynau a chynigion gwastraff (ymhlith eraill). Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig hefyd yn ceisio amddiffyn asedau wedi'u hadeiladu'n unigryw ac asedau naturiol y Fwrdeistref Sirol, megis ein hadeiladau a strwythurau mwyaf pwysig, tirwedd, ecoleg a'n mannau gwyrdd; mae'r rhain i gyd yn cynnwys ac yn annog ffordd fwy cynaliadwy ac ystyrlon o ran carbon o fyw.
Unwaith iddo gael ei fabwysiadu, bydd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig yn rhoi sicrwydd i gymunedau'r Fwrdeistref Sirol o ran lleoliad a math o ddatblygiadau sydd ar y gweill. Bydd hefyd yn sicrhau bod egwyddorion cynllunio cenedlaethol creu lleoedd wrth wraidd y broses creu cynlluniau, gan adlewyrchu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig hefyd yn dod yn fynegiant defnydd tir Cynllun Corfforaethol Rhondda Cynon Taf a chynnwys egwyddorion ac amcanion Cynllun Llesiant Cwm Taf.
Bydd y Cynllun Datblygu Lleol presennol a fabwysiedir yn parhau i fod yn fecanwaith ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio hyd at 31 Rhagfyr 2021.
Bydd y dudalen yma yn cael ei diweddaru ymhellach ochr yn ochr â pharatoi camau ffurfiol y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig.
Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig, cysylltwch â'r Garfan Polisi Cynllunio trwy ddefnyddio'r manylion isod. O ganlyniad i'r cyfyngiadau presennol, byddai'n well pe bai modd i chi gysylltu trwy e-bost:
Mae'r garfan fel arfer yn gweithio o'r cyfeiriad canlynol er bod aelodau'r garfan yn gweithio gartref ar hyn o bryd (Medi 2020). Mae'n bosibl y bydd peth oedi wrth gyfathrebu trwy'r post.
Carfan Polisi Cynllunio
Llawr 2
Tŷ Sardis
Heol Sardis
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF37 1DU.
Ffon: 01443 281129
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.