Mae'n ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn ôl y gyfraith, baratoi a chynnal Cynllun Datblygu Lleol. Cafodd y Cynllun Datblygu Lleol presennol (2006-2021) ei fabwysiadu yn 2011. Cafodd Adolygiad ffurfiol o'r Cynllun Datblygu Lleol (2006-2021) ei ystyried yn hanfodol ym misoedd cynnar 2019 a chafodd ei gynnal o fis Mehefin ar ôl cymeradwyaeth Cabinet RhCT. Ar 17 Hydref 2019, cymeradwyodd y Cabinet Adroddiad Adolygu (Drafft) cynhwysfawr dilynol. Ar ôl hyn, roedd cyfnod o ymgynghori wedi'i dargedu â rhanddeiliaid statudol ar y ddogfen yma; a hynny cyn i'r Cyngor gytuno ar
Adroddiad Adolygu terfynol y Cynllun Datblygu Lleol (2006-2021) ar 27 Tachwedd 2019. Y prif gasgliad oedd paratoi Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig. Cafodd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ar 14ed Medi 2020.
Dyma ganlyniadau ehangach yr Adroddiad Adolygu;
Ers llunio'r Cynllun Datblygu Lleol presennol, mae nifer o newidiadau cyd-destunol wedi bod o ran nifer o agweddau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gymdeithas, a hynny mewn cysylltiad â'r Cynllun Datblygu Lleol a'r modd y mae'n cael ei gyflawni. Ar y cyd â hyn y mae'r prif newidiadau sydd wedi'u gwneud i ddeddfwriaeth genedlaethol a pholisi cynllunio cenedlaethol ers paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol presennol. Canlyniad hyn oll yw bod angen diweddaru ac ehangu sail dystiolaeth bresennol y Cynllun Datblygu Lleol lle bo'n addas. Yn y pen draw, byddai angen casglu hyn a thystiolaeth bellach i ddiwygio Strategaeth y Cynllun, yn ogystal â'r holl bolisïau a dyraniadau cysylltiedig, yn ôl yr angen.
Mae canlyniadau 8 Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol sydd wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn yn dangos bod holl feysydd pwnc y Cynllun Datblygu Lleol wedi datblygu'n sylweddol dros gyfnod y cynllun. Serch hynny, dydy hyn ddim ar y raddfa wedi'i nodi yn y Cynllun, nac ar bob dyraniad safle. Yn ogystal â hyn, mae'r adran gynllunio wedi derbyn nifer o geisiadau cynllunio y tu allan i ffiniau anheddiad y Cynllun Datblygu Lleol. Mae'n anoddach penderfynu ar y rhain mewn modd cyson. Mae'r Cynllun presennol yn dod i ben yn 2021.
Roedd hefyd angen ystyried cyfnod y cynllun yn y dyfodol a'i gysylltiad â'r Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer y deg Awdurdod Lleol yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae Rhondda Cynon Taf wedi cytuno i fod yn rhan o'r Cynllun Datblygu Strategol a chyfrannu ato. Ystyriwyd y byddai Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig yn dod i rym cyn y Cynllun Datblygu Strategol, a byddai'n dod oddi tano yn nhermau hierarchiaeth y cynlluniau. Byddai'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, ac ystyriaethau rhanbarthol yn rhan ohono, yn golygu bod modd gwneud penderfyniadau pwyllog i geisio alinio'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig â'r Cynllun Datblygu Strategol diweddar.
Felly, ystyrir bod gwaith paratoi Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig yn angenrheidiol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol yn y cyfnod dros dro, gyda chyfnod llai o 10 mlynedd, sef 2020-2030. Ar ôl i'r Cynllun Datblygu Strategol gael ei fabwysiadu, bydd Cynllun Datblygu Lleol Cryno yn dod oddi tan y Cynllun Datblygu Strategol.
Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig, cysylltwch â'r Garfan Polisi Cynllunio trwy ddefnyddio'r manylion isod. O ganlyniad i'r cyfyngiadau presennol, byddai'n well pe bai modd i chi gysylltu trwy e-bost:
Mae'r garfan fel arfer yn gweithio o'r cyfeiriad canlynol er bod aelodau'r garfan yn gweithio gartref ar hyn o bryd (Medi 2020). Mae'n bosibl y bydd peth oedi wrth gyfathrebu trwy'r post.
Carfan Polisi Cynllunio
Llawr 2
Tŷ Sardis
Heol Sardis
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF37 1DU.
Ffon: 01443 281129
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.