Skip to main content

Gwybodaeth mewn perthynas â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg

Nod Llywodraeth Cymru yw gweddnewid y disgwyliadau, y profiadau a'r deilliannau ar gyfer plant a phobl ifainc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Er mwyn gwneud hynny, maen nhw wedi datblygu Anghenion Dysgu Ychwanegol,  a fydd yn trawsnewid y systemau ar wahân ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) mewn ysgolion ac anawsterau dysgu a/neu anableddau (AAD) mewn addysg bellach, i greu system unedig ar gyfer cefnogi dysgwyr o 0 i 25 gydag ADY.

Bydd y system wedi'i diwygio yn:

  • Sicrhau fod pob dysgwr ag ADY yn cael ei gefnogi i oresgyn rhwystrau rhag dysgu ac yn gallu cyflawni ei botensial llawn.
  • Gwella cynllunio a chyflwyno cefnogaeth i ddysgwyr o 0 i 25 oed gydag ADY, gan roi anghenion, barn, dymuniadau a theimladau'r dysgwyr wrth wraidd y broses.
  • Canolbwyntio ar bwysigrwydd nodi anghenion yn gynnar a rhoi ymyriadau amserol ac effeithiol ar waith sy'n cael eu monitro a'u haddasu i sicrhau eu bod yn cyflawni'r deilliannau sy'n cael eu dymuno.

Mae deddfwriaeth newydd a chanllawiau statudol yn ddim ond un agwedd, er ei bod yn un sylfaenol, o'r pecyn ehangach o ddiwygiadau angenrheidiol. Mae'r Rhaglen Trawsnewid ADY hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ar gyfer y gweithlu addysg, i ddarparu cefnogaeth effeithiol i ddysgwyr ag ADY yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â gwneud mynediad i gefnogaeth arbenigol, gwybodaeth a chyngor yn haws .

Nodau'r Ddeddf:

Cyflwyno'r term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Mae'r Ddeddf yn disodli'r termau 'anghenion addysgol arbennig' (AAA) ac 'anawsterau dysgu a/neu anableddau' (AAD) gyda'r term newydd ADY.

Ystod oedran rhwng 0 a 25 

Bydd un system ddeddfwriaethol yn ymwneud â'r gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i blant a phobl ifainc rhwng 0-25 oed sydd ag ADY. Mae hyn yn lle'r ddwy system ar wahân sy'n gweithredu ar hyn o bryd i gefnogi plant a phobl ifainc o oedran ysgol gorfodol sydd ag AAA; a phobl ifainc mewn addysg bellach sydd ag AAD.

Cynllun unedig

Bydd y Ddeddf yn creu un cynllun statudol (y Cynllun Datblygu Unigol (CDU)) i ddisodli'r amrywiaeth bresennol o gynlluniau AAA statudol neu anstatudol neu AAD ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion ac addysg bellach.

Cynyddu cyfranogiad plant a phobl ifainc

Mae'r Ddeddf yn mynnu bod barn y dysgwyr bob amser yn cael ei hystyried fel rhan o'r broses gynllunio, ynghyd â barn eu rhieni. Mae'n hollbwysig bod plant a phobl ifainc yn gweld y broses gynllunio fel rhywbeth sy'n cael ei wneud gyda nhw yn hytrach nag iddyn nhw.

Dyheadau uchel a deilliannau gwell

Bydd pwyslais CDUau ar wneud darpariaeth sy'n cyflawni deilliannau pendant sy'n cyfrannu mewn modd ystyrlon i'r plentyn neu'r person ifanc yn cyrraedd eu potensial llawn.

System symlach a llai gwrthwynebol

Dylai'r broses o baratoi a diwygio CDU fod yn llawer symlach na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn achos datganiadau AAA.

Mwy o gydweithio

Bydd y system newydd yn annog gwell cydweithio a rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau, sy'n hanfodol i sicrhau bod anghenion yn cael eu nodi'n gynnar a bod y gefnogaeth gywir yn cael ei rhoi ar waith i alluogi plant a phobl ifainc i gyflawni deilliannau cadarnhaol.

Osgoi anghytundebau a datrys anghytundebau'n gynharach

Bydd y system newydd yn canolbwyntio ar sicrhau, pan fo anghytundebau yn digwydd am CDU neu'r ddarpariaeth y mae'n ei gynnwys, bod y mater yn cael ei ystyried a'i ddatrys ar y lefel fwyaf lleol bosibl.

Hawliau apêl clir a chyson

Pan nad yw'n bosib datrys anghytundebau ynghylch cynnwys CDU ar lefel leol, bydd y Ddeddf yn sicrhau bod hawl gan blant a phobl ifainc sydd â hawl i CDU (a'u rhieni yn achos y rhai sydd dan 16 oed) hawl i apelio i dribiwnlys.

Côd gorfodol

Bydd y Côd yn sicrhau bod gan y system ADY newydd set o baramedrau clir sy'n cael eu gorfodi'n gyfreithiol y mae rhaid i awdurdodau lleol a'r sefydliadau eraill hynny sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifainc ag ADY eu gweithredu.

Y rhesymau y tu ôl i'r newidiadau arfaethedig:

  • Mae gan ddysgwyr yr hawl i gael mynediad cyfartal i addysg sy'n cwrdd â'u hanghenion ac sy'n eu galluogi i gyfranogi mewn dysgu a mwynhau dysgu.
  • Mae'r system gyfredol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifainc ag AAA ac anawsterau dysgu a/neu anableddau yn seiliedig ar fodel a gafodd ei gyflwyno fwy na 30 mlynedd yn ôl nad yw bellach yn addas i'r pwrpas.
  • O dan y system newydd bydd y cynllunio'n hyblyg ac yn ymatebol; bydd gweithwyr proffesiynol yn fwy medrus a hyderus wrth nodi anghenion a defnyddio strategaethau i helpu dysgwyr i oresgyn eu rhwystrau rhag dysgu.
  • Bydd y dysgwr wrth wraidd popeth sy'n cael ei wneud.

Sut bydd y newidiadau yn cael eu gweithredu

Mae'r rhaglen Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cynnwys 5 prif thema:

  1. Deddfwriaeth a Chanllawiau Statudol
  2. Gweithredu/Cefnogi Pontio
  3. Datblygu'r Gweithlu
  4. Codi Ymwybyddiaeth
  5. Polisi Cefnogol

1. Deddfwriaeth a Chanllawiau Statudol

Cafodd y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Llun 12 Rhagfyr 2016.

Mae'r Ddeddf yn creu'r fframwaith deddfwriaethol er mwyn gwella'r ffordd y caiff darpariaeth dysgu ychwanegol ei chynllunio a'i darparu. Bydd hyn yn digwydd drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o ran canfod anghenion yn gynnar, sicrhau bod gweithdrefnau cymorth a monitro effeithiol ar waith ac addasu ymyraethau er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cyflawni'r amcanion disgwyliedig.

2. Gweithredu/Cefnogi Pontio

Er mwyn sicrhau bod y system newydd yn cael ei gweithredu'n llwyddiannus ac yn gyson, mae'n hanfodol bod gwasanaethau'n cael eu cefnogi i baratoi ar gyfer y newidiadau sydd ar y gweill ac i ddatblygu arferion gweithio aml-asiantaethol a thraws-sectorol agosach.

Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Cyllid Arloesi ADY: cefnogi prosiectau partneriaeth rhanbarthol rhwng  Awdurdodau Lleol, ysgolion, SABau, darparwyr arbenigol, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a'r trydydd sector.
  • Grŵp Gweithredu Strategol ADY: gweithgor ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol, byrddau iechyd lleol a'r sector addysg bellach.

Yn gynnar yn 2019 bydd rhaglen helaeth o hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ar sail y Côd newydd, cyn cyflwyno'r system newydd.

3. Datblygu'r Gweithlu

Mae gweithlu medrus yn ganolog i'r rhaglen drawsnewid a bydd yn effeithio ar dair lefel:

Datblygu Sgiliau Craidd

  • Ar gyfer pob ymarferydd i gefnogi ystod eang o ADY cymhlethdod isel mwy cyffredin mewn lleoliadau/ysgolion a mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • Mae hyn yn cynnwys cyflwyno arfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n agwedd ganolog i'n dull newydd, ar draws yr holl leoliadau addysg/ysgolion.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu rhaglen hyfforddi i ddarparu pecyn hyfforddi aml-asiantaeth i'w gyflwyno yn y broses o fewnblannu.

Datblygu Sgiliau Uwch

  • Trwy ddatblygu rôl 'Cydgysylltwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol, ' a fydd yn disodli'r Cydgysylltwyr Anghenion Addysgol Arbennig  cyfredol.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu llwybr dilyniant ar gyfer Cydgysylltwyr ADY.

Datblygu Sgiliau Arbenigol

  • Trwy system gynllunio gweithlu cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymorth arbenigol sy'n cael eu darparu gan yr ALl sydd ar gael i leoliadau addysg, e.e. Seicolegwyr addysg ac Athrawon sy'n gweithio gyda phlant sydd â nam ar eu golwg neu eu clyw.

4. Codi Ymwybyddiaeth

Mae'n hanfodol helpu pawb sydd yn y system i ddeall:

  • Y dystiolaeth ar gyfer arfer gorau
  • Beth mae modd inni ei ddisgwyl o ymyriadau?
  • Yr ymyriadau sy'n fwyaf tebygol o fod yn effeithiol
  • Rôl gweithwyr proffesiynol

Helpu i sicrhau disgwyliadau realistig a defnyddio adnoddau'n effeithiol.

Gweithgareddau codi ymwybyddiaeth wrth baratoi ar gyfer gweithredu'r system wedi ei thrawsnewid, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â rhanddeiliaid am eu dyletswyddau deddfwriaethol newydd, ac esbonio a hyrwyddo'r system a'r hawliau y mae'n eu rhoi i blant, pobl ifainc a rhieni/cynhalwyr.

5. Polisïau Cefnogol

Mae'n bwysig peidio â cholli golwg ar ddarpariaeth y canllawiau polisi effeithiol i sicrhau bod arfer da yn cael ei gefnogi a'i fewnosod yn y system AAA bresennol yn ogystal â'r system ADY yn y dyfodol.

Gweithredu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol 

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi datganiad yn nodi newidiadau i sut a phryd y caiff y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ei gweithredu. 

Mae mwy o wybodaeth am y Rhaglen i Drawsnewid y System ADY a chanllawiau ar y system AAA bresennol yma.

Hyfforddiant

Mae Hwb Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cwrs hyfforddi ar-lein sy'n amlinellu'r system unedig newydd ar gyfer cefnogi disgyblion ag ADY. Mae'r cwrs hyfforddi rhyngweithiol yn rhoi trosolwg rhagarweiniol o'r system ADY newydd, ac yn helpu'r rheiny sy'n rhan o'r system i ddeall y dyletswyddau deddfwriaethol newydd, a'r hawliau mae'n eu rhoi i blant, eu rhieni/gwarcheidwaid, a phobl ifainc. Rydyn ni'n annog staff ym mhob sector sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifainc, gan gynnwys staff cynorthwyol ysgolion, i gwblhau'r cwrs byr yma. Efallai bydd y cwrs o ddiddordeb i rieni a gwarcheidwaid hefyd.

Ymgynghoriad

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad ar gynrychiolwyr ar gyfer pobl ifainc, a rhieni plant, nad oes ganddynt alluedd meddyliol. Mae modd dod o hyd i'r adroddiad llawn yma.

Anfonwch unrhyw ymholiadau i SENReforms@gov.wales

Y wybodaeth ddiweddaraf am y system Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi heddiw bod y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r rheoliadau cysylltiedig wedi'u gosod gerbron Senedd Cymru.

Gallwch weld y Cod, Memorandwm Esboniadol a’r Asediad Effaith Integredig yma a'r rheoliadau cysylltiedig yma:

Gallwch ddarganfod mwy am y rhaglen drawsnewid ADY a chanllawiau ar y system AAA gyfredol yma gan gynnwys ein cwestiynau cyffredin a'n canllaw rhaglen trawsnewid ADY.

Danfonwch eich ymholiadau i SENReforms@llyw.cymru