Skip to main content

Y Garfan Cynnal Ymddygiad

Rôl y Garfan:

Mae aelodau Carfan Cynnal (Cymorth) Ymddygiad (CCY) yn ymarferwyr ymroddedig sydd â phrofiad helaeth o weithio yn ysgolion Rhondda Cynon Taf yn hyrwyddo lles emosiynol ac ymddygiad plant a phobl ifainc. Mae'r garfan yn rhan o Wasanaeth Cynnal Dysgu yr Awdurdod Lleol (ALl). Ymdrechu i gyflawni deilliannau cadarnhaol ar gyfer plant a phobl ifainc a'u teuluoedd yw'r nod o ran y garfan yma, a'r bwriad yw cynorthwyo ysgolion i ddatblygu diwylliant o reoli ymddygiad mewn modd cadarnhaol ac effeithiol. Mae Rhondda Cynon Taf wedi buddsoddi mewn hyfforddiant gan Nurture UK ar gyfer pob ysgol ac mae'n datblygu Dull Ystyriol o Drawma.

Rydyn ni o'r farn:

  • bod ymddygiad yn ffordd o fynegi anghenion sydd heb eu diwallu
  • bod pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu cael ei glywed a bod modd dysgu strategaethau iddyn nhw er mwyn llwyddo a dysgu
  • bod gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i gyfle cyfartal a chael ei gynnwys, ac y dylai ei anghenion unigol gael eu bodloni drwy ddull sy'n canolbwyntio ar y plentyn
  • bod modd i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu ei fedrau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a chreu'i gyfleoedd ei hun i newid
  • y gall cymorth cynnar wedi'i dargedu helpu i ddatblygu annibyniaeth a chydnerthedd emosiynol
  • bod perthnasoedd cadarnhaol rhwng yr ysgol, teuluoedd, plant a phobl ifainc yn helpu i oresgyn rhwystrau o ran dysgu ac ymgysylltu
  • bod rhieni/gwarcheidwaid yn ddylanwadol a bod modd iddyn nhw ysgogi newid ar gyfer eu plant
  • y gall pob plentyn a pherson ifanc lwyddo, datblygu ei gryfderau unigol a gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r gymdeithas.

Ymhlith dulliau craidd mae ymgynghori ar sut mae rhoi cymorth yn ymwneud ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol (SEBD), a rhoi cyngor ac arweiniad ynghylch hyn, ar lefel ysgol gyfan, grŵp ac yn unigol. Felly hefyd o ran asesu a nodi anghenion disgyblion, ymateb i atgyfeiriadau unigol, pecynnau hyfforddiant a datblygiad proffesiynol sydd wedi'i deilwra i'r unigolyn.  Mae ysgolion yn cyrchu cymorth drwy broses atgyfeirio; mae atgyfeiriadau newydd yn cael eu trafod bob wythnos.  Mae modd cael cyngor, cymorth ac arweiniad yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

Drwy weithio'n effeithiol mewn partneriaeth, bydd y CCY yn anelu at wella profiadau plant a phobl ifainc sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol sylweddol a sicrhau eu bod nhw'n cael eu cynnwys. Bydd hynny'n lleihau'r angen i ysgolion wahardd y plant a phobl ifainc dan sylw.

Y Cymorth sydd ar gael ar gyfer Datblygiad Strategol Ysgolion:

  • cyngor a hyfforddiant ar gyfer athrawon a staff cymorth gan gynnwys achrediad Team Teach
  • hwyluso dull amlasiantaeth at reoli ymddygiad
  • cyngor ar gyfer ysgolion ynghylch prosesau gwahardd am gyfnod penodol neu'n barhaol
  • cyngor ar strategaethau atal gwahardd
  • gwaith systemig i gefnogi datblygu a gwella ysgolion
  • ymgynghori a chyngor ar ddatblygu polisïau a gweithdrefnau ynghlwm â pherthnasoedd, ymddygiad a lles cadarnhaol
  • ymweliadau cymorth i fynd i'r afael â meysydd pryder, e.e. gwahardd, achosion o fwlio, defnyddio cyfnodau tawelu, ymyrryd yn gorfforol mewn modd cadarnhaol ac ati 
  • cymorth ar gyfer gwaith prosiect ac ymyriadau mewn ysgolion
  • archwiliad ac adolygiadau ysgol gyfan, e.e. strategaethau gwrth fwlio, darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (AAA) ar gyfer ymddygiad/lles ac ati
  • rhoi cyngor i ysgolion ynghylch datblygiadau cenedlaethol a lleol yn ymwneud ag ymddygiad a lles.

Cymorth ar gyfer ysgolion i gefnogi Ymyraethau Grŵp:

Gall y canlynol fod ymhlith y rhain:

  • cyngor ac arweiniad ar sail ymgynghori ynghylch ymyriadau grŵp a/neu strategaethau i wella ymddygiad a lles
  • ymyriadau grŵp wedi'u hanelu at ddatblygu sgiliau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol
  • dadansoddi perthnasoedd yn yr ystafell ddosbarth a datblygu ymyriadau i sicrhau newid
  • datblygu dulliau pontio
  • cynorthwyo ysgolion i ddatblygu darpariaeth fewnol ar gyfer disgyblion sy'n agored i niwed, sydd wedi'u dadrithio a/neu sydd wedi'u hymddieithrio
  • cymorth ar gyfer trefnu'r ystafell ddosbarth a'i rheoli
  • addysgu enghreifftiol, ac ar y cyd, i hyrwyddo rheoli ymddygiad a pherthnasoedd cadarnhaol mewn modd cadarn yn yr ystafell ddosbarth
  • dadansoddi ac ymyriadau amgylcheddol
  • hyfforddiant ar gyfer sesiynau chwarae penodol ar sail cyd-chwarae yn ystod amseroedd sydd heb eu strwythuro, e.e amseroedd cinio
  • sgiliau cymdeithasol dysgwyr a datblygu sgiliau staff cymorth

Y Cymorth sydd ar gael gan y Garfan Cynnal Ymddygiad ar gyfer Unigolion:

Gall y canlynol fod ymhlith y rhain:

  • ymgynghori, cyngor ac arweiniad ynghylch ymyriadau i wella ymddygiad a lles
  • ymgynghori, cyngor ac arweiniad ar ddatblygu Cynlluniau Chwarae Unigol, Cynlluniau Ymddygiad Unigol, Cynlluniau Cymorth Bugeiliol, Asesiadau Risg, Cynlluniau Ymdrin Cadarnhaol
  • cymryd rhan mewn adolygiadau cynnydd, e.e. Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar Unigolion, Cynlluniau Cymorth Bugeiliol, ac Asesiadau Risg
  • datblygu strategaethau cymorth ar y cyd ar gyfer disgyblion
  • hyfforddi plant a phobl ifainc ynglŷn â strategaethau ymddygiad
  • cymorthfeydd ymddygiad/sesiynau galw heibio ar gyfer rhoi cyngor i blant, pobl ifainc, staff neu rieni
  • cymorth pwrpasol ar gyfer trosglwyddo ac ailintegreiddio
  • ymyriadau therapiwtig/sy'n canolbwyntio ar atebion
  • arsylwi ar anghenion plant a phobl ifainc a'u hasesu
  • cyngor, cymorth a hyfforddiant ar gyfer staff ystafell ddosbarth a staff bugeiliol
  • ymyriadau, cyfarfodydd a chynadleddau adferol
  • gweithredu amlasiantaeth i gefnogi rhieni/gwarcheidwaid, gan gynnwys bod yn bresennol mewn cyfarfodydd
  • cyngor ac arweiniad ynghylch gwahardd
  • cymorth i hwyluso ailintegreiddio yn dilyn cyfnod o waharddiad
  • cynrychiolaeth mewn cyfarfodydd panel/Pwyllgor Disgyblu

Arweiniad ar Wrth Fwlio

Arweiniad RhCT yn seiliedig ar arweiniad Llywodraeth Cymru ynghylch gwrth fwlio – at ddibenion herio bwlio mewn ysgolion.

Mae'r arweiniad wedi’i anelu at gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, awdurdodau lleol, rhieni, gwarcheidwaid a phlant a phobl ifainc.