Y Garfan Gwybyddiaeth a Dysgu
Mae'r garfan Gwybyddiaeth a Dysgu gan gynnwys y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (MEAS) yn garfan o athrawon a chymorthyddion cymorth dysgu ymrwymedig a phrofiadol sy'n gweithio'n rhan o Wasanaeth Cynnal Dysgu Rhondda Cynon Taf.
Mae'r garfan Gwybyddiaeth a Dysgu yn cynnig cyngor ac arweiniad yn y Gymraeg neu'r Saesneg i ysgolion cynradd ac uwchradd ar hyd ystod tri phrif faes:
- Anawsterau Dysgu Penodol a Chyffredinol
- Anghenion Dysgu Cymhleth
- Atgyfeiriadau i'r Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (MEAS)
Gall y garfan Gwybyddiaeth a Dysgu gynnig cymorth ysgol ar gyfer disgyblion unigol, grwpiau o ddisgyblion neu'r ysgol gyfan. Mae ysgolion yn cyrchu'r cymorth drwy'r broses atgyfeirio. Mae atgyfeiriadau newydd o ran y meysydd Anawsterau Dysgu Penodol a Chyffredinol ac Anghenion Dysgu Cymhleth yn cael eu trafod mewn cyfarfod wythnosol, ac mae atgyfeiriadau i MEAS yn cael eu trafod mewn cyfarfodydd misol.
Plant sy'n wynebu anawsterau â llythrennedd gan gynnwys dyslecsia
Er bod plant yn dysgu ar gyflymderau gwahanol i'w gilydd, mae rhai disgyblion yn cael anhawster yn benodol felly â darllen a sillafu. Weithiau rydyn ni'n cyfeirio at hyn fel Anhawster Llythrennedd Penodol neu Dyslecsia. Mae Rhondda Cynon Taf wedi mabwysiadu amlddiffiniad o dyslecsia, sy'n cwmpasu diffiniad ar waith y British Psychological Society (BPS) ac sy'n dwyn i ystyriaeth ganfyddiadu'r Rose Report (2009)
Diffiniad y BPS o dyslecsia (1999):
- “Dyslexia is evident when accurate and fluent word reading and/or spelling develops very incompletely or with great difficulty. This focuses on literacy learning at the ‘word level’ and implies that the problem is persistent and severe despite appropriate learning opportunities. It provides the basis of a staged process of assessment through teaching.”
Yn adroddiad Rose (2009) dyma sy'n cael ei nodi:
- “Characteristic features of dyslexia are difficulties in phonological awareness, verbal memory, and verbal processing speed;
- dyslexia occurs across the range of intellectual abilities;
- co-occurring difficulties may be seen in aspects of language, motor coordination, mental calculation, concentration, and personal organisation, but these are not, by themselves, markers of dyslexia and
- a good indication of the severity and persistence of dyslexic difficulties can be gained by examining how the individual responds, or has responded to, well-founded intervention.”
Fydd pob plentyn sy'n cael darllen a sillafu'n anodd ddim yn wynebu Anhawster Llythrennedd Penodol, ond rydyn ni'n gwybod bod llawer o'r cyngor sy'n cael ei argymell ar gyfer disgyblion sy'n wynebu Anhawster Llythrennedd Penodol yn addas ar gyfer y disgyblion hynny sydd ag anghenion dysgu mwy cyffredinol.
Dyma sut y gallwch chi helpu gartref
Os oes gyda phlentyn dyslecsia, mae'n bosib y byddan nhw'n fwy blinedig na phlant eraill ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Mae'n anodd ymdopi â maes llafur sy'n gofyn llawer o'u meysydd dysgu gwanaf; mae'n bosib y byddan nhw hefyd yn gweithio'n galed ar geisio cadw rheolaeth ar deimladau negyddol ynghylch eu gallu, gan gynnwys embaras a rhwystredigaeth, gan geisio cuddio hyn. O ganlyniad, gall dicter a blinder fod yn amlwg ar adeg gwaith cartref; sy'n golygu mai gwneud gweithgareddau'n hwyl, ac yn ysgogol yw'r ffordd orau ymlaen.
Os yw tasgau gwaith cartref penodol yn rhy anodd ar gyfer eich plentyn, neu os ydyn nhw'n cymryd min nos cyfan i'w gorffen bron â bod, fe ddylech chi drafod hyn â'r athro neu athrawes osododd y gwaith. Efallai y bydd modd cytuno wedyn i:
- ddiwygio lefel tasgau gwaith cartref, sawl un sy'n cael ei gosod, neu'r dull o'u cofnodi;
- caniatáu dyddiadau cyflwyno gwaith cartref hwy;
- cynnwys rhagor o dasgau amlsynhwyraidd.
Os yw'ch plentyn yn wynebu problemau wrth gopïo'r hyn yw'r dasg gan yr athro neu athrawes, neu wrth gofio beth ydyw, rhaid i hyn hefyd gael ei drafod â'r athro neu athrawes, a dylai system gyfathrebu effeithiol gael ei rhoi ar waith, e.e llyfr gartref-ysgol.
Gallai'r awgrymiadau cyffredinol isod fod o gymorth o ran teimlo dan lai o bwysau wrth wneud gwaith cartref:
Sefydlwch batrwm gwaith
- nodwch amser penodol o'r dydd (yn ddyddiol os yw’n bosib), a lle penodol, i wneud y gwaith cartref. Ardal dawel sydd orau;
- gallai defnyddio amserlen weledol a gosod terfyn amser gyda'ch plentyn fod o gymorth;
- casglwch ddeunyddiau defnyddiol fel papur, pinnau ysgrifennu, pensiliau, cyfrifiannell, geiriau sy'n cael eu defnyddio'n fynych ac ati, a chadwch nhw gyda'i gilydd mewn bocs gwaith cartref.
Lefel y cymorth
- trafodwch y gwaith cartref cyn dechrau arno, gan ofalu bod eich plentyn yn deall beth mae gofyn ei wneud;
- anogwch nhw i drafod eu syniadau, gallech efallai wneud cynllun, rhestr wirio, neu fap y meddwl; gwnewch restr o eiriau allweddol;
- rhannwch y dasg yn gamau bach. Efallai y bydd gofyn i chi eu helpu nhw i drefnu'r hyn sydd ei angen arnyn nhw, neu sut y byddan nhw'n gosod eu gwaith;
- trafodwch sut y byddan nhw'n cyflwyno eu gwaith, a nodi hyn. Gallai hyn fod drwy sgrifellu ar eu cyfer (scribbing), defnyddio cyfrifiadur, dictaffon, darluniau neu fapio'r meddwl;
- os bydd o gymorth gallwch nodi ar y daflen waith cartref neu lyfr gartref-ysgol pa mor hir gymerodd y dasg a pha mor hawdd/anodd roedd y plentyn yn teimlo oedd y dasg. Efallai y byddwch chi hefyd am wneud sylwadau ar faint o gymorth oedd ei angen ar eich plentyn;
- anogwch eich plentyn i wirio eu gwaith yn unol â'r canllawiau neu'r cynllun gwaith cartref, ac i wirio eu hatebion;
- anogwch eich plentyn i ail-ddarllen ei waith ysgrifenedig.
Peidiwch â gofidio am nifer y camgymeriadau sillafu, mae cynnwys eu gwaith yn llawer pwysicach.
Syniadau ar gyfer annog darllen
- gwnewch amser i ddarllen er pleser, gallai rhai plant fwynhau llyfrau comics neu lyfrau clywedol;
- gwnewch amser i ddarllen i'ch plant hyd yn oed pan fyddan nhw, fwy neu lai, yn gallu darllen drostyn nhw eu hunain;
- rhannwch y gwaith darllen pan fydd llyfr wedi dod gartref: gallai e/hi ddarllen tudalen/paragraff/brawddeg ac yna gallwch chi ddarllen y dudalen/paragraff neu frawddeg nesaf. Neu fe allech chi ddarllen y stori i ddechrau a gofyn i'ch plentyn ei darllen wedi hynny, fel bod llai o bwysau arno/arni gan y bydd wedi cael amser i'w darllen gyntaf;
- y ffordd orau o ddysgu darllen yw bod yn gallu adnabod llythrennau'r wyddor neu gyfuniadau o lythrennau ar ffurf darluniau o'r synau sydd mewn geiriau (nid enwau'r llythrennau i ddechrau) ac yna eu cyfuno i wneud gair. Fe allwch chi helpu drwy chwarae gemau syml fel 'Rwy'n gallu gweld gyda fy llygad bach i.’
Syniadau ar gyfer annog sillafu
- gwnewch hyn yn brofiad amlsynhwyraidd, ymarferwch gan ddefnyddio llythrennau magnetig, clai, gan ddefnyddio sialc neu bapur du;
- gall bod â 'geiriau heriol' ar gerdyn mewn lle hawdd cyfeirio ato, helpu i dawelu'r meddwl;
- mae dysgu 2-3 gair yr wythnos yn drwyadl yn well na 10 sy'n mynd yn angof;
- helpwch eich plentyn i ddysgu sut mae defnyddio geiriadur a gwiriwr sillafu ar y cyfrifiadur.
Syniadau ar gyfer annog ysgrifennu:
- caniatewch amser ychwanegol;
- ysgrifennwch unrhyw air sy'n heriol i'w sillafu, lythyren wrth lythyren;
- anogwch ddefnyddio iaith dda, ehangach, hyd yn oed os nad yw'ch plentyn yn sicr o'r sillafiadau;
- anogwch ddefnyddio gliniadur/cyfrifiadur/dyfais notepad;
- gallai meddalwedd llais i destun weddu i fyfyrwyr hŷn.
- gall desg ar lethr (neu ffeil lever arch) wneud ysgrifennu (a darllen) yn haws;
- gall pinnau sydd wedi'u dylunio'n arbennig ag arnyn nhw gripiau amrywiol wneud ysgrifennu'n rhwyddach.
Anawsterau â Mathemateg gan gynnwys Dyscalcwlia
Mae plant yn dysgu sgiliau rhifedd ar gyflymderau gwahanol i'w gilydd. Gall rhai plant ei chael hi'n anodd iawn dysgu sgiliau, syniadau a ffeithiau'n ymwneud â rhifau. Weithiau rydyn ni'n rhoi'r enw Dyscalcwlia ar hyn.
Mae Dyscalcwlia yn anhawster penodol a pharhaol yn ymwneud â deall rhifau a allai arwain at ystod eang o anawsterau o ran mathemateg. Fe fydd yn annisgwyl o safbwynt oedran, lefel addysg a phrofiad a gall ddigwydd ar draws ystod oedrannau a gallu.
Y ffordd orau o feddwl am anawsterau o ran mathemateg yw fel continwwm, nid categorïau penodol. Gall fod nifer o ffactorau cydgysylltiedig (casual factor, hynny yw mae un peth yn gallu arwain at nifer o bethau eraill) ynghlwm â’r anawsterau yma. Mae Dyscalcwlia ar un pegwn y sbectrwm a bydd modd ei wahaniaethu oddi wrth faterion mathemateg eraill yn sgil pa mor ddifrifol yw'r anawsterau o ran synnwyr rhifau, gan gynnwys adnabod niferoedd heb eu cyfrif (subitising), cymariaethau maint symbolaidd a heb fod yn symbolaidd, a rhoi mewn trefn. Gall ddigwydd ar ei ben ei hun ond yn aml mae'n cyd-ddigwydd ag anawsterau dysgu penodol eraill, gorbryder yn ymwneud â mathemateg a chyflyrau meddygol. (BDA, 2019)
Gall plant wynebu problemau'n ymwneud â:
- dilyn dilyniant
- sut mae gofod yn cael ei drefnu
- adnabod patrymau
- cael darlun yn eu pen
- amcangyfrif
Efallai y byddan nhw'n:
- ei chael hi'n anodd 'gweld' bod pedwar gwrthrych yn bedwar heb eu cyfrif
- ei chael hi'n anodd symud ymlaen i gyfrif mewn deuoedd, trioedd ac ati
- dibynnu ar eu bysedd / blociau
- ei chael hi'n anodd tynnu i ffwrdd oherwydd bod gofyn cyfrif am yn ôl ac fe allan nhw golli eu lle
- fod â hunan-barch isel
- efallai y bydd gyda nhw orbryder yn ymwneud â mathemateg ac y byddan nhw'n ceisio osgoi mathemateg ble bynnag sydd bosib.
Sut y bydd yr ysgol yn helpu?
- Bydd angen addysgu sgiliau rhifedd yn benodol i blant sydd â phroblemau mathemateg.
- Mae rhaid i dasgau fod yn canolbwyntio ar y disgybl, ac yn rhai sy'n defnyddio adnoddau amlsynhwyraidd a dylen nhw gael eu cwblhau wrth bwysau'r plentyn.
Dyma sut y gallwch chi helpu gartref.
- Byddwch yn gadarnhaol ynghylch mathemateg – ceisiwch beidio â dweud pethau fel dwi’n methu gwneud mathemateg, neu ro'n i'n casáu mathemateg yn yr ysgol
- Nodwch fathemateg mewn bywyd bob dydd; gwnewch eich plentyn yn rhan o weithgareddau sy'n ymwneud â rhifau a mesur fel siopa, coginio a theithio. Ar gyfer plant hŷn cofiwch gynnwys darllen amserlenni trên/bws, siaradwch am bellteroedd, amseroedd hoff raglenni teledu
- Dysgwch sut mae dweud yr amser
- Siaradwch am arian – gadewch iddyn nhw amcangyfrif y costau.
- Rhowch ganmoliaeth i'ch plentyn am ei ymdrech.
Plant sydd ag Anghenion Dysgu Cymhleth
- Mae Plant sydd ag Anghenion Dysgu Cymhleth yn debygol o wynebu anawsterau sylweddol o ran sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol, deall dysgu newydd, sgiliau gwrando a thalu sylw a chymhwyso'r hyn maen nhw'n ei wybod i sefyllfaoedd eraill. Mae'n debygol o effeithio ar sut maen nhw'n dysgu drwy gydol eu bywyd, ac felly bydd angen cynllunio addysgol unigol ar eu cyfer.
- Fe fydd gyda nhw anawsterau dysgu sylweddol drwy ystod sawl maes, a fyddan nhw ddim yn digwydd yn sgil bylchau yn eu profiadau. Ymhlith enghreifftiau o'r anawsterau yma mae iaith fynegiannol, iaith dderbyniadol, gweithredu goruchwyliol (executive function), talu sylw, a deall cymdeithasol.
- Efallai y bydd rhai plant a phobl ifainc ag anghenion meddygol cymhleth y mae gofyn cael cynllun gofal GIG ar eu cyfer.
- Efallai y bydd ar y plentyn / person ifanc angen cymorth hirdymor o ran anghenion gofal personol.
- Wrth gael ei atgyfeirio at y gwasanaeth, bydd anghenion y disgybl yn cael eu trafod â'r ysgol a bydd argymhellion a chyngor addas yn cael eu rhoi gan yr Athrawes/Athro Arbenigol. Efallai y bydd rhagor o gymorth a chyngor ymgynghorol yn cael ei roi yn dibynnu ar gymhlethdod anghenion y myfyrwyr.
- Fe fyddan nhw'n cynghori i waith dosbarth gael ei wahaniaethu mewn modd addas fel bod y plentyn / person ifanc yn gallu dysgu a chwblhau tasgau dan ei bwysau ei hun.
- Mae'n bosib y bydd yr Athrawes / Athro Arbenigol yn argymell i'r plentyn neu'r person ifanc gael cymorth mewn ffyrdd gwahanol yn unol â'u hanghenion yn yr ystafell ddosbarth. Efallai y byddan nhw'n argymell rhaglen i'r disgybl ei dilyn, mewn grwpiau bychan o dro i dro, neu un wrth un am ran o'r diwrnod.
- Mae’n bosib y bydd yr athrawes/athro arbenigol yn cynghori'r ysgol i ymgymryd â hyfforddiant penodol i fod yn gymorth i'r plentyn.
Dyma sut y gallwch chi helpu gartref.
Trefn arferol a strwythur: Rydyn ni'n gwybod bod cael trefn arferol a strwythur ar waith yn helpu plant i ddeall beth sy'n digwydd o'u cwmpas, a'i fod yn gwneud iddyn nhw deimlo'n saff. Gall rhoi amserlen weledol iddyn nhw neu 'hysbysfwrdd Nawr a Nesaf' fod yn gymorth o ran hyn.
Cyfathrebu: Ceisiwch ddefnyddio arwyddion, lluniau, neu symbolau i fod yn gymorth iddyn nhw ddeall yr hyn sy'n ddisgwyliedig ganddyn nhw ac/neu er mwyn cyfathrebu eu hanghenion i eraill.
- Dywedwch enw'r plentyn er mwyn cael ei sylw cyn rhoi cyfarwyddyd iddo.
- Rhowch amser i'r plentyn brosesu eich cyfarwyddiadau ac i ymateb.
- Defnyddiwch iaith fwy syml, defnyddiwch frawddegau clir, byr.
- Siaradwch yn y ffurf gadarnhaol (e.e. dywedwch, “cerdda” yn hytrach na “paid â rhedeg”).
- Pan fyddwch chi'n siarad defnyddiwch arwyddion (e.e. Makaton – mae dolenni cymorth pellach ar waelod y dudalen), symbolau (e.e. cynrychioliadau syml o'r gair), a chynrychioliadau gweledol eraill (e.e. ffotograffau) i gefnogi eich iaith lafar.
- Anogwch y plentyn i ddefnyddio unrhyw adnoddau neu systemau sydd wedi cael eu hargymell (e.e. lluniau, symbolau, arwyddion, cymorth cyfathrebu).
- Rhowch strwythur i weithgareddau a'r diwrnod a chyfathrebwch hyn i'r plentyn, yn enwedig newidiadau i'r drefn arferol.
- Rhowch gyfleoedd i'r plentyn ddefnyddio iaith, cynigiwch opsiynau a pheidiwch â chymryd yn ganiataol beth fydd ei anghenion. Newidiwch drefn yr opsiynau rydych chi'n eu rhoier mwyn gofalu bod y plentyn yn gofyn yn wirioneddol felly am ei ddewis.
Gofynion: Gofalwch fod y pethau rydyn ni'n gofyn i blentyn ei wneud, yn bethau sy'n cyd-fynd â'u hanghenion unigol. Fe fyddan nhw'n teimlo dan ragor o bwysau os byddan nhw'n teimlo wedi eu llethu gan y dasg, neu yn wir os nad yw'r gweithgareddau penodol yn eu hysgogi'n ddigonol.
Yr Amgylchedd Ffisegol: Weithiau bydd rhai pobl ifainc sydd ag Anghenion Dysgu yn fwy sensitif i'r amgylchedd ffisegol na phlant eraill, gallai hyn olygu ystyried lefel synau, goleuadau, neu arogleuon.
Cwsg, poen, iechyd: gan fod nifer o bobl ifainc sydd ag Anawsterau Dysgu yn ei chael hi'n anodd cyfathrebu ynghylch eu hanghenion ag eraill, efallai y bydd gyda nhw anawsterau sydd heb gael eu nodi cyn hyn, fel bod wedi blino, mewn poen neu'n anghyfforddus mewn rhyw ffordd. Gwiriwch eu bod nhw'n iawn yn rheolaidd ac ystyriwch eu bod nhw o bosib yn anghyfforddus.
Y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (MEAS)
Mae disgybl yn ddisgybl Saesneg yn Iaith Ychwanegol (EAL) oherwydd iddo gael ei eni mewn gwlad arall neu oherwydd bod ei rieni'n siarad iaith wahanol i'r Saesneg gartref. Felly, mae'r Saesneg yn ail (trydydd, pedwerydd, pumed neu chweched) iaith[MC1] . Mae'n iaith ychwanegol. Mae Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig Rhondda Cynon Taf yn rhoi cymorth i ysgolion â phob agwedd ar Saesneg yn Iaith Ychwanegol (EAL) ac mae’n cynnig hyfforddiant, cymorth, a chyngor er mwyn gofalu bod ysgolion o gymorth i ddisgyblion o grwpiau ethnig lleiafrifol o ran EAL, a hyrwyddo'u cyflawniadau hefyd.
Mae'r gwasanaeth yn cynnig ymatebion cyflym i geisiadau am asesiadau neu gymorth o ran EAL ar gyfer disgybl sydd newydd gyrraedd. Mae lles disgyblion hefyd yn rhan o'r gwaith cymorth sy'n cael ei wneud mewn ysgolion.
Mae'r garfan o Gymorthyddion Cymorth Dysgu yn gosod targedau iaith ar y cyd â staff mewn ysgolion ac yn gweithio'n agos gydag ysgolion i olrhain cynnydd disgyblion o grwpiau ethnig lleiafrifol sydd wedi'i nodi'n rhai sy'n tanberfformio, a gofalu eu bod yn cael y cymorth sydd eu hangen arnyn i’r graddau gorau posib. Mae staff MEAS hefyd yn cynghori ynghylch consesiynau arholiadau, yn rhoi cyngor i ddisgyblion ynghylch paratoi ar gyfer arholiadau ieithoedd y cartref, defnyddio iaith yn gymdeithasol, mentora a chymorth iaith neu academaidd, yn enwedig cyn arholiadau.
Ar ben hynny, gall Rhondda Cynon Taf fod o gymorth wrth gyfieithu gwybodaeth yn ymwneud â'r ysgol ar gyfer disgyblion a rhieni ac mae'n cynghori ysgolion ynghylch Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu Cymru (WITS) a'r Llinell Iaith.
Os yw'r disgybl yn ddwyieithog (yn siarad dwy iaith) yn amliaith (yn siarad nifer o ieithoedd), mae hyn fel arfer yn cael effaith gadarnhaol ar ei gyflawniad yn yr ysgol.
Po fwyaf o ieithoedd y nifer fwyaf o lwybrau a dolenni sydd rhwng ieithoedd a'r ymennydd.
Bydd y disgyblion hynny sy'n dysgu'r Saesneg o'r newydd neu sydd ar gamau cynnar dysgu'r iaith, yn cael cymorth drwy gyfrwng amrywiaeth o strategaethau mewn dosbarthiadau prif ffrwd.
Gallai'r isod fod ymhlith y rhain:
- Cyfaill i fod yn gymorth yn gymdeithasol felly.
- Partneriaid siarad yn y dosbarth i fod yn gymorth o ran iaith a chyfathrebu.
- Cyfleoedd i ddatblygu eu hiaith yn y dosbarth drwy chwarae gemau iaith a gwrando ar eraill yn siarad yn Saesneg.
- Addysgu geiriau newydd iddyn nhw cyn y bydd arnyn nhw angen eu defnyddio.
- Defnyddio dyddiaduron, geiriaduron electronig, iPads ac arnyn nhw offer cyfieithu i fod yn gymorth o ran cyfieithu ac i gynnig delweddau gweledol o'r brif eirfa fydd yn cael ei haddysgu.
- Cael eu paru â phlant eraill sy'n siarad yr un iaith, lle bo hynny'n bosibl, er mwyn gwneud gwaith.
- Llyfrau ac e-lyfrau dwyieithog.
- Partneriaid darllen i helpu gyda gweithgareddau darllen a deall.
Dyma sut y bydd disgyblion EAL yn dysgu Saesneg.
Mae plant yn dysgu iaith gymdeithasol sylfaenol yn y lle cyntaf. Dyma eu Sgiliau Cyfathrebu Rhyngbersonol Sylfaenol neu BICS a gall gymryd oddeutu dwy flynedd i ddysgu'r rhain. E.e. ‘Good morning, how are you today?’ ‘My name is…,’ ‘I am having sandwiches today’, ‘I don’t understand’, ‘could you show me the way’? ‘May I go to the toilet please’ ac ati. Mae'n cymryd cyfnod hwy i ddysgu'r iaith academaidd y mae gofyn ei chael yn yr ystafell ddosbarth. Mae'n cymryd rhagor o amser i ddisgyblion EAL i ddal i fyny gyda'r cyd-ddisgyblion hynny sy'n uniaith gan fwyaf (eu cyfeillion yn y dosbarth sy'n siarad un iaith). Gall gymryd rhwng saith a deng mlynedd i ddysgu popeth y mae gofyn iddyn nhw ei wybod.
Gallai hyn gael ei addysgu'n benodol drwy greu rhestrau prif eirfa neu weithgareddau sy’n helpu o ran addysgu'r iaith benodol y mae gofyn ei deall yn y dosbarth ar gyfer testun neu bwnc penodol.
Gall plant greu eu geiriaduron eu hunain fel y gallan nhw ymarfer gartref. Efallai y bydd arnyn nhw angen partneriaid darllen i'w helpu nhw i ddeall ystyr y geiriau maen nhw'n eu darllen mewn llyfr
Pa mor hir fydd hi'n ei gymryd i fy mhlentyn ddeall Saesneg fel ail iaith?
Bydd y cyflymder y bydd plant yn dysgu Saesneg neu Gymraeg fel iaith newydd yn amrywio ac yn dibynnu ar amrywiol bethau gan gynnwys:
- Llythrennedd presennol yn eu hiaith gyntaf a'u gallu i gyfathrebu yn eu hiaith gyntaf neu iaith eu cartref.
- Addysg flaenorol
- Cymorth gan y teulu
- Gallu gwybyddol
- Oedran ar adeg dechrau dysgu'r ail iaith.
Sut y bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu?
Bydd ysgolion yn help eich plentyn drwy ofalu bod y canlynol ar waith:
- Bod yr ysgol yn amgylchedd diogel, croesawgar.
- Gofalu bod pob disgybl yn teimlo'n rhan o bethau.
- Annog siarad ieithoedd y cartref yn yr ysgol a gartref.
- Bydd staff yn siarad yn glir ac ar gyflymder arferol.
- Bydd staff yn osgoi defnyddio idiomau a dywediadau lleol a all fod yn ddryslyd mewn ail iaith neu yng nghamau cyntaf caffael iaith.
- Byddan nhw'n gwneud dysgu yn hwyl, yn weledol ac yn amlsynhwyraidd yn enwedig pan fydd y Saesneg yn newydd i'r plentyn.
- Bydd iaith yn cael ei hatgyfnerthu – drwy ailadrodd a modelu iaith, lafar ac ysgrifenedig.
- Bydd gweithgareddau dysgu ar y cyd yn cael eu cynllunio lle bydd plant yn dysgu gan ei gilydd, a chan fodelau da o ran y Saesneg.
- Bydd dulliau dysgu cyfunol ar waith lle maen nhw'n angenrheidiol; rhai rhaglenni ar-lein a rhai yn y dosbarth.
- Drwy geisio cyngor os yw'n angenrheidiol gan y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig, gwasanaethau eraill yn y maes Cynhwysiant os oes gyda'r plentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu fod angen darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) ar y plentyn dan sylw.