Skip to main content

Addysg cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae’r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant yn Rhondda Cynon Taf yn rhan allweddol o drefniadau’r Cyngor i gefnogi disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
    

Mae’r gwasanaeth yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Seicoleg Addysg
  • Gwasanaeth Cynnal Dysgu
  • Y Blynyddoedd Cynnar a Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol
  • Addysg Heblaw yn yr Ysgol
  • Gwasanaeth Gweinyddu Anghenion Dysgu Ychwanegol

Sut mae dysgwyr ag ADY yn cael eu cefnogi i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg?

Mae gan bob tîm yn y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant arbenigwyr ADY sy’n siarad Cymraeg ac sy’n darparu cymorth a hyfforddiant i ysgolion cyfrwng Cymraeg ar gefnogi disgyblion sydd ag ADY.

O fis Medi 2024, bydd yno 3 Dosbarth Cynnal Dysgu cyfrwng Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf i gefnogi dysgwyr oed cynradd ac uwchradd sydd ag anghenion dysgu sylweddol. Bydd y rhain yn:

  • YGG Awel Taf – 2 Ddosbarth Cynnal Dysgu newydd i blant yn y Cyfnod Sylfaen.
  • Ysgol Garth Olwg – darpariaeth arbenigol i blant oed uwchradd yng nghyfnodau allweddol 3 a 4.

Os hoffech gael sgwrs ag aelod o staff yn y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: cynllunioysgolion@rctcbc.gov.uk

Tudalennau Perthnasol