Skip to main content

Gwybodaeth a Chyngor i Rieni a Chynhalwyr

Mae'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n
gilydd mewn partneriaeth er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau ar gyfer eich plentyn.

Mae hyn yn galw am ymddiriedaeth, ymrwymiad a pharch, ac mae meithrin cydberthynas gadarnhaol rhwng pob unigolyn sy'n gweithio gyda'ch plentyn yn fater pwysig iawn.

Mae'n hanfodol fod pob partner yn chwarae rhan yn y gwaith o feithrin cydberthynas gadarnhaol ac adeiladol gyda'r ysgolion yn ogystal â'r Awdurdod Lleol, asiantaethau allanol a rhieni.

Mae'r gylchred barhaus yma yn cynnwys pedwar cam pwysig mewn perthynas â diwallu anghenion dysgu ychwanegol plant. Mae'r camau yma yn cynnwys:

  • Nodi ac asesu anghenion eich plentyn
  • Cynllunio darpariaeth addas
  • Rhoi camau gweithredu cytûn ar waith sydd â'r nod o sicrhau deilliannau amlwg
  • Adolygu'r ddarpariaeth er mwyn sicrhau ei bod hi'n diwallu anghenion eich plentyn