Efallai bod pontio o'r ysgol uwchradd yn un o'r digwyddiadau mwyaf newidiol sy'n wynebu person ifanc a'i deulu, ac mae'r broses yn aml yn anodd ac yn ddryslyd. Mae modd i benderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud wrth i ni baratoi i adael yr ysgol gael effaith ar weddill ein bywydau.
Mae'n bwysig bod disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)/ Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), eu teuluoedd ac eraill yn eu cylch o gefnogaeth yn ymwneud â chynllunio'n gynnar. Mae hyn i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi ac mae ymdrech i ymgysylltu â nhw'n briodol fel bod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail gwybodaeth.
Pobl ifanc heb ddatganiad o anghenion addysgol arbennig (AAA)
Nid oes gofyniad i gynllun trosglwyddo gael ei baratoi ar gyfer pobl ifainc sydd heb ddatganiad. Fodd bynnag, mae cod ymarfer anghenion addysgol arbennig y mae'n rhaid i'r Awdurdod Lleol ac ysgolion eu hystyried.
Mae hyn yn nodi y gallai'r ALl ac ysgol y person ifanc ddymuno paratoi cynllun pontio a chynnig arweiniad i ddisgyblion ag AAA sy'n debygol o fod angen cymorth pan fyddan nhw’n symud i addysg bellach neu hyfforddiant. Efallai bod hyn yn gyrsiau cyswllt ysgol neu goleg neu leoliadau gwaith.
Pobl ifanc â datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)
Os oes gan berson ifanc ddatganiad o AAA yna bydd yr adolygiad blynyddol cyntaf ar ôl ei ben-blwydd yn 14 oed ac adolygiadau dilynol yn canolbwyntio ar ei anghenion wrth iddo symud i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Dylai gynnwys gweithwyr proffesiynol o asiantaethau a fydd yn hanfodol yn ystod ei flynyddoedd ôl-ysgol.
Rhaid gwahodd cynrychiolwyr o'r Bwrdd Iechyd Lleol a'r Gwasanaethau Cymdeithasol a Gyrfa Cymru i gyfarfodydd adolygu. Bydd Gyrfa Cymru yn sicrhau bod yr holl gyfleoedd addysg a hyfforddiant pellach yn cael eu hystyried.
Byddan nhw'n helpu i nodi targedau penodol i sicrhau bod hyfforddiant annibyniaeth, sgiliau personol, rhyngweithio cymdeithasol ac agweddau eraill o'r cwricwlwm ehangach yn cael eu cefnogi'n llawn.
Bydd adroddiad adolygu a chynllun pontio yn cael eu paratoi, dylai hyn gasglu gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol sy'n adnabod y person ifanc.