Skip to main content

Proses Asesu Statudol - Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)

Dylai fod modd i bob ysgol roi llawer iawn o gymorth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, a hynny drwy'u hadnoddau eu hunain

Serch hynny, efallai y bydd rhai plant sydd ag anghenion mwy dwys neu gymhleth angen rhagor o gymorth does dim modd i ysgolion eu darparu.

Efallai y bydd angen cymorth gan wasanaethau arbenigol ar y plant a'r bobl ifainc yma er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cyflawni eu potensial.

Caiff asesiad statudol ei gynnal ar gyfer nifer fach o blant er mwyn deall eu hanghenion mwyaf cymhleth. Mae modd i hyn arwain at ddatganiad anghenion addysgol arbennig a fydd yn amlinellu'r cymorth y bydd y plentyn neu'r person ifanc yn ei gael, ac yn nodi pa ysgol fydd e/hi'n ei mynychu.