System Ewropeaidd yw'r rhaglen Eco-ysgolion. Ei bwriad yw cynnwys datblygu cynaliadwy a gwelliannau i'r amgylchedd mewn amrywiaeth o weithgareddau y bydd ysgolion yn eu gwneud fel arfer.
Mae rhaid i bob plentyn, aelod o staff, aelod o Gorff Llywodraethu a rhieni disgyblion yr ysgol gymryd rhan yn y rhaglen. Prif nod y rhaglen yw bod yr egwyddorion y tu ôl iddi'n dod yn rhan arferol o fywyd bob dydd yr ysgol gyfan.
Mae'r rhaglen Eco-Ysgolion yn hyblyg, felly, mae modd i'r ysgolion bennu'u blaenoriaethau a'u targedau eu hunain a rheoli'u cynnydd eu hunain yn y rhaglen. Dydy'r cynllun ddim yn rhoi cyfyngiadau amser ar yr ysgol.
Ymhlith y materion amgylcheddol mae'r cynllun yn eu trafod mae: defnyddio ynni'n effeithlon, defnyddio dŵr, safle'r ysgolion, sbwriel, byw yn iach, cludiant a lleihau gwastraff.
Saith elfen allweddol Eco-Ysgolion:
- Eco-bwyllgor: Mae rhaid i'r ysgol sefydlu Eco-bwyllgor i arwain y gwaith ar y rhaglen Eco-ysgolion ac i ofalu bod yr ysgol gyfan yn rhan o'r broses. Os oes Cyngor Ysgol gan yr ysgol yn barod, mae modd iddo gyflawni swyddogaeth yr Eco-bwyllgor.
- Adolygiad Amgylcheddol: Er mwyn pennu pa faterion amgylcheddol mae eisiau mynd i'r afael â nhw'n gyntaf, rhaid adolygu perfformiad amgylcheddol presennol yr ysgol. Mae rhaid i'r adolygiad gynnwys yr ysgol gyfan ac mae rhaid casglu tystiolaeth er mwyn penderfynu pa fater y dylid mynd i'r afael ag ef yn gyntaf.
- Cynllun Gweithredu: Gan ddefnyddio'r dystiolaeth a gasglwyd yn rhan o'r Adolygiad Amgylcheddol, dylai cynllun gweithredu gael ei baratoi. Bydd e'n nodi'r gwelliannau angenrheidiol ac yn rhoi amserlen realistig ar gyfer dod â'r gwaith gwella i ben.
- Monitro cynnydd: Dylai'r Cynllun Gweithredu cytûn gynnwys system monitro cynnydd er mwyn i newidiadau gael eu gwneud wrth i'r Cynllun Gweithredu fynd yn ei flaen. Cyn belled ag y bo modd, dylai'r plant fod yn gyfrifol am fonitro cynnydd gan y bydd hynny'n sicrhau bod y cynllun o ddiddordeb iddyn nhw.
- Bod yn berthnasol i'r Cwricwlwm: Mae'n bwysig bod y rhaglen Eco-ysgolion yn berthnasol i gwricwlwm yr ysgol. Mae modd i'r cyfuno yma fod ar raddfa gymhwysol a chysylltu ag amryw bynciau. Ar y llaw arall, mae modd i'r rhaglen fod yn brosiect unigol sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Gweithredu.
- Dod â'r ysgol gyfan a'r gymuned ehangach yn rhan o bethau: Rhan o swyddogaeth y rhaglen Eco-ysgolion yw gwella ymwybyddiaeth ynglŷn â'r gweithgareddau amgylcheddol yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach. Bydd rhaid i'r ysgolion bennu cyfleoedd lle bydd modd iddyn nhw hyrwyddo'u gweithgareddau amgylcheddol. Gallen nhw drefnu Diwrnod o Weithredu er budd yr amgylchedd neu gynnal arddangosfa yn y llyfrgell leol. Dylai fod cysylltiadau rhwng y rhaglen, yr ysgol a'r gymuned ehangach yn ystod pob cam o'r broses.
- Eco-gôd: Mae'r Eco-gôd yn ddatganiad o genhadaeth yr ysgol ar faterion amgylcheddol. Dylai fod cyswllt rhwng y ddogfen yma a'r Cynllun Gweithredu gan ei bod hi'n dangos ymroddiad yr ysgol i wella'i pherfformiad o ran materion yr amgylchedd.
Gwobrau Eco-ysgolion
Mae modd i'r ysgolion sy'n dangos eu bod nhw'n ymroi i wella'u perfformiad amgylcheddol ennill gwobrau mawreddog Eco-ysgolion.
Mae 3 math o wobrau Eco-ysgolion
- Efydd
- Arian
- Y Faner Werdd
Efydd
Mae'r wobr efydd yn seiliedig ar hunanasesiad yr ysgol ac mae'r enillwyr yn cael tystysgrif efydd.
Cyn gwneud cais am wobr efydd, bydd disgwyl i'r ymgeiswyr sefydlu cylch amgylcheddol yn yr ysgol a fyddai wedi gwneud arolwg amgylcheddol syml ac wedi dechrau gweithredu ar bethau wedi'u cytuno er mwyn gwella perfformiad amgylcheddol yr ysgol.
Dylai fod gan y cylch amgylcheddol hysbysfwrdd a dylai rhieni a'r gymuned ehangach wybod am waith amgylcheddol yr ysgol.
Arian
Mae'r wobr arian yn seiliedig ar hunanasesiad yr ysgol ac mae enillwyr yn cael tystysgrif arian.
Bydd llawer o gynrychiolaeth gan yr Eco-bwyllgor ar y lefel yma, a bydd cyfarfodydd rheolaidd ac achlysuron mwy ffurfiol. Bydd rhaid gwneud arolwg mwy manwl a pharatoi cynllun gweithredu sy'n cynnwys targedau penodol.
Dylai'r ysgol gyfan chwarae rhyw fath o ran yng ngweithgareddau Eco-ysgolion, a thrwy ymgynghori â'r ysgol a'r gymuned mae'r Eco-Bwyllgor yn ymrói i arolygu'r cynllun gweithredu a'r Eco-gôd.
Y Faner Werdd
Os yw'r ysgol yn credu ei bod hi wedi bodloni'r meini prawf disgwyliedig, does dim rhaid iddi ennill gwobrau efydd nac arian cyn cyflwyno cais am wobr y Faner Werdd. Bydd aseswyr allanol yn ymweld â'r ysgol ac yn paratoi adroddiad ynglŷn â'r dystiolaeth sydd yn yr ysgol a'r trafodaethau maen nhw'n eu cael gyda'r plant a'r staff sy'n rhan o'r cynllun. Maen nhw'n penderfynu wedyn a yw cais yr ysgol yn deilwng o wobr y Faner Werdd.
Mae rhaid i'r ysgolion adnewyddu eu Baner Werdd bob yn ail flwyddyn nes iddyn nhw ennill eu pedwaredd Faner Werdd. Mae rhaid i'r ysgolion sydd eisiau adnewyddu'u gwobrau, ddangos y ffyrdd maen nhw'n parhau'u hymroddiad i wella'r amgylchedd a'u cynnydd yn hynny o beth. Ar ôl i'r ysgol ennill ei phedwaredd Faner Werdd, mae'n ei chadw am byth.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r rhaglen Eco-Sgolion, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus www.keepwalestidy.org/eco-sgolion
Cysylltu â ni
Carfan Datblygu Cynaliadwy
Gwasanaethau'r Priffyrdd a Gofal y Strydoedd,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Sardis
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU
Ffôn: 01443 432999