Bydd llawer o blant yn cael trafferth ynglŷn â’u datblygiad a’u haddysg ar ryw bwynt yn eu bywydau. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn gwella gyda chymorth eu teuluoedd, ysgolion a ffrindiau.
Gall y seicolegydd plant ac addysg gynnig cyngor ychwanegol os yw’r teulu neu’r ysgol yn cael trafferth helpu’r plentyn i wella. Ein gwaith ni yw asesu anghenion y plant yma a chynghori eu rhieni/cynhalwyr (gofalwyr), yr ysgol neu’r Cyngor am y ffordd orau o’u helpu nhw.
Mae gan bob ysgol gymorth seicolegydd addysg a phlant – sef arbenigwr ym maes datblygiad ac addysg plant a phobl ifainc.
Maen nhw’n cynnig asesiad, cyngor a chymorth i rieni ac athrawon lle mae yna bryder am ddatblygiad, dysgu neu ymddygiad plant a phobl ifainc.
Rhaid i rieni/cynhalwyr gytuno cyn i'r seicolegwyr addysg a phlant ddechrau gweithio gyda phlant ifainc.
Os yw rhieni/cynhalwyr yn tybio y gall fod anghenion addysgol arbennig gyda'u plentyn, fe ddylen nhw, yn y lle cyntaf, siarad â chydlynydd anghenion addysgol arbennig (SENCo – Special Educational Needs Co-ordinator) yr ysgol neu’r ganolfan cyn oed ysgol.
Bydd modd i’r ysgol neu’r ganolfan ymyrryd a monitro cynnydd y disgybl.
Os bydd y problemau’n parhau, bydd y Cydlynydd, â chaniatâd y rhiant, yn rhoi gwybod i'r gwasanaeth seicoleg addysg a phlant. Os yw rhiant plentyn ifanc iawn yn poeni, byddai’n syniad trafod hyn gydag ymwelydd iechyd neu feddyg.
Fel arfer, bydd seicolegwyr addysg a phlant yn asesu plentyn yn yr ysgol. Byddan nhw’n gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys:
- Trafod y plentyn gyda rhieni/cynhalwyr, athrawon ac eraill sy’n ei adnabod yn dda
- Arsylwi’r plentyn yn y dosbarth neu ar yr iard chwarae
- Adolygu gwaith y plentyn yn y dosbarth
- Siarad â’r plentyn
- Cynnal profion o sgiliau a/neu ddatblygiad deallusol y plentyn
Gallan nhw weld sut y bydd y plentyn yn ymateb i’r hyn maen nhw wedi’i argymell. Mae seicolegwyr addysg a phlant yn gallu cynnig awgrymiadau i rieni am sut i helpu datblygiad ac addysg eu plentyn.
Fel arfer, byddan nhw’n cynghori athrawon i awgrymu ffyrdd y byddai modd gwella dysgu neu ymddygiad y plentyn a helpu plant ag anawsterau dysgu i ymdopi â’u gwaith yn y dosbarth.
Yr ysgol yw’r lle gorau i drafod a oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig. Byddan nhw’n esbonio’r drefn a pha gamau y dylid eu cymryd i helpu’ch plentyn. Bydd yr ysgol yn esbonio beth yn union sy’n digwydd ym mhob cam o weithdrefnau AAA.
Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth seicoleg addysg a phlant? Cysylltwch â ni.
Gwasanaeth Addysg a Gwasanaethau i Blant
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Tŷ Trevithick
Abercynon
Aberpennar
CF45 4UQ
Ffôn: 01443 744000
Ffacs: (01443) 744023
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.