Mae Cymdeithas Llywodraethwyr Rhondda Cynon Taf (RCTGA) yn agored i bob llywodraethwr ysgol yn Rhondda Cynon Taf. Mae pob Corff Llywodraethol yn enwebu cynrychiolydd RCTGA.
Mae Pwyllgor Gweithredol, sy'n cynnwys uchafswm o 15 o lywodraethwyr, yn gyfrifol am reoli'r Gymdeithas yn gyffredinol. Caiff Aelodau'r Pwyllgor Gweithredol eu hethol bob dwy flynedd ac maen nhw'n cynnwys cynrychiolwyr o bob sector.
Edrychwch ar Gyfansoddiad Cymdeithas Llywodraethwyr Rhondda Cynon Taf
Nod Cymdeithas Llywodraethwyr Rhondda Cynon Taf yw:
- Bod yn fforwm annibynnol ar gyfer Cyrff Llywodraethu Ysgolion yn Rhondda Cynon Taf;
- Hyrwyddo'r arfer orau ym maes llywodraethu yn ysgolion Rhondda Cynon Taf;
- Darparu gwybodaeth reolaidd ar gyfer Cyrff Llywodraethu ynglŷn â gwaith y Gymdeithas ac annog Cyrff Llywodraethu i gyflwyno materion sy'n achosi pryder iddyn nhw i'r Gymdeithas i'w trafod;
- Cefnogi partneriaethau gwaith rhwng cyrff amrywiol, gan gynnwys yr Awdurdod Lleol, sefydliadau i athrawon, rhieni, Consortiwm Canolbarth y De, a Llywodraethwyr Cymru;
- Hyrwyddo cefnogaeth rhwng ysgolion a rhwng Cyrff Llywodraethu;
- Dosbarthu'r wybodaeth berthnasol i Gyrff Llywodraethu yn Rhondda Cynon Taf;
- Bod yn fforwm ymgynghori sy'n cynrychioli Cyrff Llywodraethu yn Rhondda Cynon Taf; a
- Craffu ar strategaethau a pholisïau yn ymwneud ag ysgolion a Chyrff Llywodraethu, pan fo'n briodol.
Mae'r Pwyllgor Gweithredol yn cyhoeddi cylchlythyr chwarterol i sicrhau bod Llywodraethwyr yn gwybod am waith diweddaraf y Gymdeithas.
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.