Mae dosbarthiadau Bocsymarfer yn defnyddio symudiadau a thechnegau bocsio, tra bod Bocsfeistr yn canolbwyntio ar offer unigryw a phenodol ar gyfer sesiwn ymarfer corff cardiofasgwlaidd fydd yn tynhau'r corff cyfan.
Beth fydd dosbarth BOCSFEISTR yn ei wneud i mi?
Bydd dosbarthiadau Bocsfeistr yn gwneud i'ch calon guro'n fwy cyflym a'ch adrenalin godi. Mae'n effeithiol iawn o ran tynhau'r cyhyrau ac ymarferion cardiofasgwlaidd, ac mae trefn y dosbarth ac arbenigedd yr hyfforddwyr yn golygu bod modd i bobl o bob lefel ffitrwydd a gallu gymryd rhan yn yr un dosbarth gan weithio ar lefel sydd orau iddyn nhw.
Pa mor hir fydd dosbarth Bocsfeistr?
Bydd dosbarthiadau yn para rhwng hanner awr ac awr.
Pa mor aml dylwn i fynychu a beth ddylwn i'i wisgo?
Bydd angen i chi sicrhau eich bod chi'n gwisgo dillad cyfforddus sy'n eich caniatáu chi i symud. Cofiwch ddod â dŵr a thywel! Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n dod â'ch menig eich hunain, fodd bynnag mae modd i chi ofyn i'r Ganolfan Hamdden am fenig.
Prisoedd
Aelodau Hamdden am Oes AM DDIM
Talu wrth ddefnyddio - £5.75
Gostyngiadau - £3.45