Mae dosbarth FFITRWYDD DAWNS yn cyfuno gweithgareddau dawns a ffitrwydd mewn un dosbarth, gan gynnig cerddoriaeth wych a gweithgareddau erobeg.
Beth fydd dosbarth FFITRWYDD DAWNS yn ei wneud i mi?
Yn gyntaf, bydd y dosbarth yn gwneud i chi symud! Bydd hyn yn helpu i wneud eich calon guro'n fwy cyflym ar gyfer cryfder cardiofasgwlaidd ac erobeg, yn ogystal â llosgi calorïau. Bydd y rheiny ohonoch chi sy'n mwynhau dawnsio yn hoffi'r gerddoriaeth wych, awyrgylch ardderchog a symudiadau dawns hwyl – fyddwch chi ddim yn gwybod eich bod chi mewn dosbarth ymarfer corff!
Pa mor hir fydd dosbarth Ffitrwydd Dawns?
Bydd dosbarthiadau'n para rhwng 45 munud ac awr.
Pa mor aml dylwn i fynychu a beth ddylwn i'i wisgo?
Mae dosbarthiadau Ffitrwydd Dawns yn berffaith i'w mwynhau unwaith yr wythnos. Dewch â dillad cyfforddus mae modd i chi ddawnsio ynddyn nhw ac esgidiau ymarfer addas neu esgidiau meddal. Cofiwch ddod â photel o ddŵr!
Prisoedd
Aelodau Hamdden am Oes AM DDIM
Talu wrth ddefnyddio - £5.75
Gostyngiadau - £3.45