Skip to main content
 

Dathliadau Pen-blwydd 90ain Lido Ponty

 

Ymunwch â ni ar gyfer achlysur arbennig iawn i ddathlu pen-blwydd 90ain Lido Ponty, Lido Cenedlaethol Cymru.

Ar ddydd Sadwrn, 12 Awst, byddwn ni'n dathlu ein pen-blwydd mewn steil drwy gynnal parti pwll trwy'r dydd a barbeciw gyda'r nos.

Bydd pob sesiwn nofio rhwng 10.30am a 6pm yn cynnwys ein hoff bethau, gan gynnwys Olwynion Zorb, cychod a thegannau gwynt. Bydd yna nifer o weithgareddau ychwanegol er mwyn nodi'r pen-blwydd arbennig yma. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn arw at ddiwrnod llawn hwyl yn Lido Ponty!

Bydd pob sesiwn yn para 90 munud. Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n cadw lle ar-lein er mwyn osgoi cael eich siomi.

Dim ond hyn a hyn o docynnau fydd ar gael ar y diwrnod ar gyfer bob sesiwn.

Bydd plant o dan 16 oed unwaith eto yn cael nofio AM DDIM. Bydd raid i oedolion dalu £1.00 a bydd raid talu £2.50 ar gyfer gweithgareddau.

Parti Pwll a Barbeciw

Gyda'r nos, byddwn ni'n cynnal Parti Pwll a Barbeciw arbennig. Bydd yr achlysur yma'n cael ei gynnal rhwng 7.30pm a 9pm. Bydd modd i gwsmeriaid roi cynnig ar weithgareddau yn ogystal â mwynhau barbeciw wrth i'r haul fachlud dros Lido Ponty.   

Pris mynediad ar gyfer y Parti Pwll a'r Barbeciw yw £5 y pen. Mynediad AM DDIM i blant dan 5 oed.

Dim ond hyn a hyn o docynnau sydd ar gael wrth y Dderbynfa. Casglwch eich tocynnau nawr i osgoi cael eich siomi. Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n archebu tocynnau ar-lein.

Parti pwll a barbeciw min nos
cadw logo RCT CBC Logo lottery fund logo erdf logo