Mae miloedd o wirfoddolwyr chwaraeon yn Rhondda Cynon Taf sy'n rhoi'u hamser er mwyn gwneud yn siŵr bod chwaraeon yn digwydd yn eu cymunedau. Mae gan ardal RhCT dros 300 o glybiau chwaraeon cymunedol, dros 100 o ysgolion a llawer o grwpiau a sefydliadau cymunedol sy'n dibynnu ar wirfoddolwyr i sicrhau bod chwaraeon ar gael.
Sut mae'r gwirfoddolwyr hyn yn chwarae rhan?
Heb wirfoddolwyr fyddai dim modd i chwaraeon cymunedol ddigwydd. Mae'r rhan fwyaf o chwaraeon cymunedol yn cael eu darparu gan ysgolion a chlybiau chwaraeon, ac fel y dywedon ni uchod - maen nhw'n dibynnu ar wirfoddolwyr. Er mwyn i glwb chwaraeon arferol redeg yn ddi-dor, mae angen gwirfoddolwyr arno i lenwi'r rolau canlynol:
- Cadeirydd
- Ysgrifennydd
- Trysorydd
- Hyfforddwr
- Swyddog Diogelu
Bydd gan rai o glybiau rolau fel:
- Cydlynydd Gwirfoddolwyr
- Trysorydd
- Swyddog Marchnata / Codi Arian
- Swyddog Ecwiti'r Clwb
Mae gan ysgolion cynradd ac uwchradd staff wedi’u talu i roi gwersi addysg gorfforol, ond mae'n bosib eu bod nhw'n dibynnu ar eraill i gefnogi'u darpariaeth o chwaraeon allgyrsiol. Mae aelodau o'r teulu megis rhieni, brodyr a chwiorydd, weithiau yn gwirfoddoli i helpu gyda thimau chwaraeon.
Sut ydyn ni'n cefnogi'r gwirfoddolwyr hyn?
Mae Chwaraeon RhCT yn cefnogi gwirfoddolwyr y gymuned trwy wneud y canlynol:
Os ydych chi'n wirfoddolwr yn y gymuned ac eisiau rhagor o wybodaeth - cliciwch y dolennau a chysylltu â charfan Chwaraeon RhCT am fanylion pellach.
Hoffech chi fod yn wirfoddolwr yn y gymuned?
Meddyliwch am eich cymuned - pa ysgolion, clybiau chwaraeon, grwpiau neu sefydliadau sy ar gael? Cysylltwch â nhw i ofyn a oes rôl gyda nhw i chi'i gwneud..
Ddim yn siŵr? Cofrestrwch i fod yn wirfoddolwr ar ran Chwaraeon RhCT a byddwn ni'n dod o hyd i leoliad ar eich cyfer.