Sut mae modd i ni eich helpu chi?
Mae modd i'n Carfan Chwaraeon yn y Gymuned a Gweithgarwch Corfforol helpu i ddatblygu'ch clwb chwaraeon neu'ch sefydliad chi er mwyn annog rhagor o bobl i fod yn fwy gweithgar yn fwy aml.
Mae modd i ni gynnig amrywiaeth o gymorth i chi, gan gynnwys:
Os ydych chi eisiau cymorth gyda'r uchod, cofrestrwch ar gyfer y Achredu Clybiau Chwaraeon RhCT a chyflwyno ffurflen gais am gymorth cynllun. Bydd Swyddog yn cysylltu â chi er mwyn rhoi cymorth gyda'ch cynllun ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen gais.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: Chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk
Cefnogaeth I Glybiau - gwefan Chwaraeon Cymru
www.chwaraeon.cymru/grantiau-a-chyllid/club-solutions/ – Dyma wefan wedi'i datblygu gan Chwaraeon Cymru mewn partneriaeth â Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol ac Awdurdodau Lleol. Mae'n cynnwys pum adran sy'n darparu gwybodaeth a chanllawiau ynglŷn â'r pynciau canlynol:
- Rheoli eich clwb
- Cyllid clwb
- Hybu eich clwb
- Pobl yn eich clwb
- Cyfleusterau
Mae pob adran yn cynnwys polisïau, templedi ac offer cynllunio sydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim. Mae hefyd astudiaethau achos o glybiau eraill ar draws Cymru, sy'n darparu enghreifftiau ymarferol o'r pethau sydd wedi gweithio ar eu cyfer nhw.