Canllaw Grantiau Chwaraeon RhCT
Mae’r canllaw canlynol yn cynnwys rhestr o nifer o grantiau lleol a chenedlaethol y mae’n bosib y bydd eich clwb neu sefydliad chwaraeon yn gymwys ar eu cyfer nhw. Beth am fwrw golwg dros y rhestr a defnyddio’r manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth?
CANLLAW GRANTIAU CHWARAEON RHCT
Grantiau Chwaraeon Cymru
Mae Chwaraeon Cymru yn cynnig dau gyfle ariannu.
Cronfa Cymru Actif: Mae hwn yn grant o rhwng £300 a £50,000 i'ch helpu i gael mwy o bobl i gymryd rhan, neu i'ch helpu i gadw pobl i gymryd rhan yn eich clwb neu weithgaredd i'r dyfodol.
Cronfa Crowdfunder: Mae hwn yn gyfle i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer gwelliannau rydych chi am eu gwneud yn eich clwb neu weithgaredd nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â chael pobl i chwarae neu gymryd rhan.