Skip to main content
 

Sefydlu Clwb Chwaraeon

Ydych chi eisiau sefydlu clwb chwaraeon newydd? Hoffech chi droi eich grŵp hamdden yn rhywbeth mwy ffurfiol? Ddim yn siŵr beth i'w wneud nesaf?

Dyma rai syniadau defnyddiol, ond mae croeso i chi gysylltu â ni i gael cymorth yn uniongyrchol gan Swyddog Chwaraeon yn y Gymuned.

 

Pum cam allweddol i sefydlu clwb chwaraeon

1. Chwilio am glybiau sydd ar gael yn barod

Yn gyntaf, mae angen i chi ystyried a oes angen clwb newydd mewn gwirionedd. Efallai bod hyn yn ymddangos braidd yn chwerthinllyd, ond mae angen gwneud yn siŵr bod digon o ddarpar aelodau ar gael ar gyfer y clwb. Efallai byddwch chi'n sylwi does dim ond ychydig iawn o gyfleoedd yn yr ardal, neu fod clwb tebyg iawn yn hyfforddi ychydig i lawr y ffordd. I wneud pethau'n haws, edrychwch ar ein rhestr o glybiau chwaraeon.

2. Chwilio am ganolfan addas

Mae amrywiaeth o ganolfannau chwaraeon yn Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys meysydd pob tywydd, neuaddau chwaraeon mewn canolfannau hamdden, canolfannau yn y gymuned, a chyfleusterau ar safleoedd ysgolion. Cofiwch bydd angen i'r ganolfan fod yn addas ar gyfer y gamp a'r grŵp oedran. Bydd hefyd angen ystyried y tywydd wrth ddewis y math o gyfleuster ar gyfer eich sesiynau hyfforddi.

3. Chwilio am wirfoddolwyr 

Mae gwirfoddolwyr a hyfforddwyr yn chwarae rôl hanfodol ym myd chwaraeon yn y gymuned. Heb amser, egni ac ymrwymiad y bobl hyn fyddai llawer o glybiau, sesiynau chwaraeon tîm a sesiynau hyfforddi ddim yn gallu cael eu cynnal. Yn fyr, gwirfoddolwyr a hyfforddwyr sy'n peri i chwaraeon ddigwydd. Heb y grŵp penodol yma o bobl ymroddgar, sy'n barod i roi o'u hamser i alluogi eraill i chwarae'r gamp o'u dewis, fyddai chwaraeon ar lawr gwlad ddim yn bodoli. Dydy chwilio am y math iawn o wirfoddolwyr ddim yn hawdd. Dyma rai syniadau i helpu'ch clwb i recriwtio gwirfoddolwyr ymroddgar, a'u cadw nhw.

4. Rhoi gwybod i bobl

Mae marchnata'n rhan hanfodol o lwyddiant unrhyw glwb. Mae'n sicrhau bod pobl yn cael gwybod am y clwb a'r mathau o wasanaethau i'w disgwyl. Bydd marchnata'n cyfrannu at ddenu aelodau. Gallwch chi ddechrau ar raddfa fechan drwy feithrin cysylltiadau â grwpiau yn y gymuned, yr ysgol gynradd leol neu'r ysgol uwchradd leol.

5. Cysylltu â ni

Mae Chwaraeon Rhondda Cynon Taf yn cyflogi arbenigwyr chwaraeon sy'n ceisio datblygu chwaraeon ym mhob cymuned yn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n gallu'ch helpu chi i ddatblygu'ch syniad cychwynnol, i chwilio am ganolfan addas neu i gael gafael ar gyllid i sefydlu'r clwb – mae Chwaraeon Rhondda Cynon Taf yn barod i'ch helpu chi bob cam o'r ffordd. I drafod eich prosiect, cysylltwch â ni.

 

Cwestiynau cyffredin

Pwy all fy helpu i sefydlu'r clwb?

Mae gan y Garfan Chwaraeon yn y Gymuned y sgiliau a'r profiad i'ch helpu i chi i ddatblygu'ch syniad. Mae modd trafod eich syniad cychwynnol â'r swyddog lleol, a chael cymorth ganddo bob cam o'r ffordd.

Sut galla i ddenu aelodau newydd?

Mae modd i chi ddenu aelodau newydd i'r clwb mewn sawl ffordd, ond, yn gyntaf, ystyriwch pwy yw'ch cynulleidfa darged? Bydd hyn yn eich helpu chi i chwilio am yr aelodau hyn mewn ffordd benodol. Er enghraifft, os ydych chi eisiau denu aelodau iau newydd, ystyriwch feithrin cysylltiadau gyda'r ysgol gynradd leol. Os ydych chi'n chwilio am aelodau newydd sy'n oedolion, ystyriwch hysbysebu yn y ganolfan hamdden, yn y feddygfa neu hyd yn oed yn siop y gornel.

Sut galla i ddenu gwirfoddolwyr i helpu yn y clwb?

Dyma rai syniadau i helpu'ch clwb i recriwtio gwirfoddolwyr ymroddgar, a'u cadw nhw.

Alla i gael gafael ar gyllid i gyrfrannu at sefydlu'r clwb?

Mewn gair… GALLWCH!

Mae grantiau ar gael i gyfrannu at sefydlu clybiau chwaraeon newydd drwy dalu am rai o'r costau sefydlu cychwynnol. Fodd bynnag, bydd angen i chi gael cyfrif banc ar gyfer eich sefydliad. Fyddwch chi ddim yn gallu gwneud cais am grant drwy ddefnyddio cyfrif banc personol. I gael rhagor o wybodaeth am y grantiau sydd ar gael, ewch i'r dudalen grantiau a chyllid.

Ble galla i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau addysg i hyfforddwyr?

Mae cyrsiau addysg i hyfforddwyr yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen addysg a hyfforddiant.

Oes angen i mi fynd ar gwrs diogelu plant?

Oes, os ydych chi'n gweithio gyda phlant a phobl ifainc dan 18 oed. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen addysg a hyfforddiant.

 
Facebook-logo
Twitter
Instas
Instas