Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda

 
Welsh-Mining-Experience-FEatured-Image

Taith wedi'i lleoli ym mhwll glo olaf Cwm Rhondda, mae Taith Pyllau Glo Cymru yn atyniad y mae rhaid i ymwelwyr i'r rhan yma o Dde Cymru ymweld â fe.

Mynd ar y daith: Mae'r holl dywyswyr teithiau yma yn gyn-lowyr eu hunain ac maen nhw'n adrodd straeon anhygoel am fywyd glowyr a hanes Cwm Rhondda. Roedd glo o'r pyllau yma hyd yn oed yn pweru'r Titanic. Bydd ymwelwyr yn cael eu tywys trwy'r iard gyda'i simnai hanesyddol sy'n sefyll dros Gwm Rhondda. Oddi yma, mae'r daith yn mynd â chi i Dai Weindio Trevor a Bertie lle byddwch chi'n gweld yr olwyn weindio 150 oed yn gweithio ac yn cwrdd â Mr Penhaligan - Glöwr o Gernyw sydd â straeon i'w rhannu! Wedyn, byddwch chi'n mynd i'r Ystafell Lampau lle byddwch chi'n casglu eich helmed ac yn dilyn eich tywyswr o dan y ddaear.

Ar ddiwedd y daith, neidiwch ar Dram, profiad sinematig rhithwir lle rydych chi'n cael taith gyffrous mewn dram lo sydd allan o reolaeth.

Hefyd, bydd cyfle i ymwelwyr ymweld â'r arddangosfa, edrych o gwmpas y siop anrhegion neud fwyta yn Caffé Bracchi.

NEWYDD!!  Mae Taith Pyllau Glo Cymru erbyn hyn yn gartref i 'Chocolate House', sydd wedi ennill gwobrwyon, a chanolfan grefftau 'Craft of Hearts'.  Mae siocledi wedi'u gwneud â llaw ar gael i'w prynu ar y safle a bydd modd i chi gadw lle ar weithdy gwneud siocled.  Mae Craft of Hearts yn rhedeg gweithdai crefftio ac yn gwerthu amrywiaeth eang o gyflenwadau crefft. 

Fel arfer, tua 1 awr 30 munud fydd hyd y teithiau, ond mae modd eu teilwra ar gyfer grwpiau a'u dymuniadau. Mae modd cynnig teithiau y tu allan i'r oriau agor craidd ar gais. Mae hyn yn amodol ar argaeledd.

  • Un lle AM DDIM ar gyfer Arweinydd y Grŵp
  • Un lle AM DDIM ar gyfer Gyrrwr y Bws
  • Uchafswm o 23 o bobl fesul taith (bydd angen ychwanegu teithiau eraill ar gyfer grwpiau o fwy na 23 o bobl).
  • Parcio Am Ddim i Fysiau
  • Man gollwng y tu allan i'r Ganolfan Ymwelwyr
  • Caffi ar y Safle
  • Siop Anrhegion ar y Safle
  • Te neu goffi a phryd o fwyd poeth AM DDIM ar gyfer Gyrrwr y Bws (drwy daleb i'w defnyddio yn Nghaffe Bracchi)
  • Nodwch serch hynny nad yw'r profiad tanddaearol, oherwydd ei natur ddiwydiannol, yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.
  • Mae cynigion ar gael ar gyfer archebion grwpiau, gyda gostyngiadau gwell ar gael ar sail nifer yr ymwelwyr ac amser y flwyddyn.
  • Mae modd agor y Ganolfan Ymwelwyr a'r Caffi y tu allan i'r oriau agor sydd wedi'u hysbysebu gyda threfniant ymlaen llaw.

Ffoniwch 01443 682036 i gadw lle.

TripAdvisor

RHP welsh hosipitality

RHP-Welsh-Hospitality-Awards