Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Gwyliau Golff a Theatr

 

Mae pump cwrs golff i'w cael yn Rhondda Cynon Taf. Mae ambell un 1,000 o droedfeddi uwchben lefel y môr. Byddwch chi'n taro eich pêl ymysg y copaon.

Mae un clwb dros 100 o flynyddoedd oed. Mae pob un ohonyn nhw'n cynnig golygfeydd gogoneddus wrth i chi chwarae - a chroeso cynnes iawn.

Mae gyda ni ddwy theatr hardd yma yn Rhondda Cynon Taf. Mae Theatr y Colisëwm, Aberdâr, wedi bod yn cynnig diddanwch i'r cyhoedd ers dros 80 o flynyddoedd. Mae Theatr drawiadol y Parc a'r Dâr yn denu'r llygad o bob cwr o dref brysur Treorci. Mae'r ddwy yn gartref i raglen lawn o gerddoriaeth, comedi, drama, ac achlysuron cymunedol. Ym misoedd olaf y flwyddyn, dewch i weld y sioeau pantomeim anhygoel. Mae dangosiadau sinema tri dimensiwn yn rhan hanfodol o'r rhaglen hefyd.

golf-green-and-view
Darganfyddwch ein cyrsiau golff.
Coliseum
Darganfyddwch beth sydd ymlaen a chynlluniwch eich gwyliau theatr.