Skip to main content

Arwerthiant Cist Car, 24 Awst

 

Ymunwch â'n Harwerthiant Cist Car ddydd Sadwrn 24 Awst, 10am-1pm

Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal yn ein cwrt sy'n golygu bydd ein maes parcio mawr ar gael i brynwyr ac ymwelwyr.

Mae gyda ni le i 40 o werthwyr a chost llain fydd £8. Mae modd i werthwyr gyrraedd rhwng 9am a 10am.  Bydd yr achlysur yn agor i brynwyr rhwng 10am ac 1pm.

Os ydych chi'n dod i brynu, parciwch yn ein maes parcio mawr, rhad ac am ddim, a pheidiwch â pharcio ar y palmant y tu allan i'r lleoliad.

Mae lleoedd i werthwyr yn mynd yn gyflym felly os ydych chi wedi trefnu llain ac yn methu â dod mwyach, rhowch wybod i ni fel bod modd ei chynnig i rywun arall.  Trefnwch lain trwy ddefnyddio'r ddolen yma

Car Boot 4 300