Skip to main content

Rhial Twch Calan Gaeaf

 
  • Does dim modd cael ad-daliad a chewch chi ddim trosglwyddo tocynnau. Bydd tywydd gwael yn effeithio ar yr achlysur. Os bydd raid canslo'r achlysur oherwydd ei bod yn anniogel i barhau, byddwn yn cynnig ichi ddod ar ddiwrnod/amser gwahanol. Byddwn ni dim ond yn rhoi ad-daliad i chi os bydd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn canslo'r achlysur.
  • Drwy fynd i mewn i'r atyniad, rydych chi'n cydnabod bod dyletswydd arnoch chi i gymryd camau rhesymol i'ch diogelu'ch hun, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw gyflyrau meddygol sy gyda chi.
  • Rhaid i unrhyw un sy'n mynd i mewn i'r atyniad dalu ffi mynediad neu fod â thocyn dilys.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw sŵn neu ymddygiad a fydd yn aflonyddu, drysu, peri niwsans neu'n cael effaith ar ddiogelwch gwestai eraill neu staff mewn unrhyw ran o'r Atyniad.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu ysmygu (gan gynnwys ysmygu e-sigaréts) ar y safle. Rhaid i chi wisgo dillad ac esgidiau addas bob amser yn yr achlysur. Fyddwn ni ddim yn caniatáu mynediad i unrhyw un sy'n gwisgo dillad â datganiadau gwleidyddol neu dramgwyddus arnyn nhw.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu anifeiliaid yn yr Atyniad, heblaw am gŵn tywys.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu alcohol. Fyddwn ni ddim yn caniatáu mynediad i unrhyw un sydd o dan ddylanwad alcohol.
  • Rydyn ni'n disgwyl bydd nifer fawr o ymwelwyr yn dod i'r atyniad, felly, mae'n bosibl bydd raid aros am sbel. Byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i fynd â chi i mewn i'r atyniad yn brydlon, fodd bynnag, efallai bydd raid ichi aros.
  • Byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i gynnig y profiad rydych chi'n ei ddisgwyl, fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn bosibl bob amser. Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cadw'r hawl i ddiwygio neu newid y daith heb rybudd.
  • Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i unrhyw un i'r atyniad, gwahardd unrhyw un o'r atyniad, neu dynnu unrhyw un o'r atyniad. Does dim rhaid i'r Parc roi ad-daliad i unrhyw un sy'n torri'r telerau ac amodau yma.